Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio cynhyrchion wedi'u pobi

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau ar drwyddedu, labelu, deunydd pecynnu a diogelwch cemegol wrth fewnforio cynhyrchion wedi'u pobi.

Mae'n rhaid i gynhyrchion sydd wedi'u pobi a gaiff eu mewnforio, fel bara, cacennau, bisgedi a chwcis, fodloni'r un safonau a gweithdrefnau hylendid bwyd a chyfansoddiad, neu rai cyfwerth, â bwyd a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr.

Fel arfer, nid oes angen tystysgrif iechyd arnoch i fewnforio'r cynhyrchion hyn.

Trwyddedau mewnforio

Er nad oes angen trwydded iechyd na hylendid arnoch chi fel arfer i fewnforio bwyd, mae llawer o fwydydd o drydydd gwledydd yn gofyn am drwyddedau at ddibenion masnachu, ac efallai y byddant yn destun cwotâu.

Mae gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig ragor o wybodaeth am drwyddedau mewnforio.

Labelu

Gellir dod o hyd i wybodaeth gyffredinol am labelu bwyd ar GOV.UK.

I gael cyngor ar labelu cynhyrchion penodol, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach neu Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol.

Deunydd pecynnu

Mae deunyddiau ac eitemau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir ar gyfer pecynnu bwyd, yn cael eu rheoli gan gyfraith y Deyrnas Unedig (DU) a ddargedwir (retained UK law) ym Mhrydain Fawr.

Mae'r ddeddfwriaeth yn drylwyr wrth reoli deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bwyd.

I gael gwybodaeth am ddiogelwch deunydd pecynnu, cysylltwch â'r Tîm Deunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd.

Hylendid bwyd

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau cyffredinol am hylendid bwyd, cysylltwch â'r Tîm Polisi Hylendid Bwyd

Ychwanegion

Gall rhai cynhyrchion wedi'u pobi gynnwys lliwiau bwyd, cyflasynnau (flavourings) neu felysyddion.

Er ei bod yn bosibl bod yr awdurdod bwyd wedi cymeradwyo'r rhain yn y wlad tarddiad, efallai na fydd rhai ohonynt wedi'u cymeradwyo ym Mhrydain Fawr.

I gael gwybodaeth am gyflasynnau, melysyddion, lliwiau a chyffeithyddion (preservatives) bwyd, cysylltwch â'n Tîm Ychwanegion Bwyd.

Diogelwch cemegol

Halogion

Mae nodyn cyfarwyddyd ar Reoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013, sy'n darparu ar gyfer deddfu a gorfodi cyfraith y DU a ddargedwir sy'n gosod terfynau rheoleiddiol ar gyfer y halogion canlynol:

Plaladdwyr

Mae Cyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegau yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu gwybodaeth am lefelau diogelwch plaladdwyr ar gyfer mewnforion.

Afflatocsinau

Mae mewnforio rhai bwydydd o drydydd gwledydd penodol, gan gynnwys rhai cynhyrchion wedi'u pobi, yn destun amodau arbennig oherwydd y risg o halogiad gan afflatocsinau. Bydd hyn yn golygu mai drwy borthladdoedd a meysydd awyr penodol yn unig, sy’n Fannau Rheoli ar y Ffin awdurdodedig, y gall y llwythi hyn ddod i mewn i Brydain Fawr, lle byddant yn destun rheolaethau swyddogol.
 

Mae rhagor o ganllawiau i fusnesau ar mycotocsinau a gwybodaeth arall ar gyfer busnesau ar gael ar ein gwefan.

Tocsinau ffiwsariwm

Mae deddfwriaeth y DU a ddargedwir sy'n cwmpasu halogiad â thocsinau ffiwsariwm mewn cynhyrchion wedi'u pobi. I gael cyngor ar y ddeddfwriaeth hon a gofynion profi am docsinau ffiwsariwm, cysylltwch â’r Tîm Halogion Cemegol.

Hysbysebu honiadau maeth ac iechyd

Mae gwybodaeth am hysbysebu honiadau maeth ac iechyd ar fwyd ar gael ar wefan canolfan gwasanaeth cwsmeriaid yr Adran Iechyd.

Cynhyrchion organig

Os ydych chi'n mewnforio'r cynhyrchion organig canlynol o drydedd wlad, mae angen i chi geisio cyngor pellach gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA):

  • cynhyrchion amaethyddol byw neu heb eu prosesu
  • cynhyrchion amaethyddol wedi'u prosesu i'w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid
  • deunydd ysgogi llystyfiant
  • hadau i'w tyfu o du allan i'r Undeb Ewropeaidd (UE)

 Mae DEFRA yn darparu gwybodaeth am reoleiddio, safonau a labelu organig yn y DU.

Cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid

Er bod cacennau, bisgedi a chynhyrchion toes (pastries) yn gallu cynnwys symiau bach o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid fel wyau, menyn neu siwet, byddai eu mewnforio hefyd yn dod o dan Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009. Oherwydd y prosesau a ddefnyddir i baratoi'r cacennau, y bisgedi a'r cynhyrchion toes (cymysgu ac yna coginio), nid ystyrir y rhain fel arfer yn gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid.

Fodd bynnag, os yw'r gacen, y fisged neu'r cynnyrch toes yr ydych chi'n dymuno ei fewnforio yn cynnwys hufen neu hufen-menyn ffres, byddant yn cael eu hystyried i fod yn gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac felly yn destun rheolau gwahanol, llymach.
 
Ymhlith gofynion eraill, bydd hyn yn gofyn am ardystiad o'r cynnyrch, bod y safle sy'n cynhyrchu'r cynnyrch wedi’i restru gan y DU a bod y cynnyrch yn destun gwiriadau milfeddygol wrth ddod mewn i Brydain Fawr.

Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn darparu gwybodaeth am y rheolau ar gyfer mewnforio cacennau, bisgedi neu gynhyrchion toes sy'n cynnwys hufen neu hufen-menyn ffres. Mae APHA yn Asiantaeth Weithredol sy'n perthyn i DEFRA.