Ailagor ac addasu eich busnes bwyd yn ystod COVID-19
Canllawiau ar ofynion hylendid a diogelwch bwyd i helpu busnesau bwyd i ailagor a gweithredu'n ddiogel yn ystod COVID-19.
Canllawiau ar ofynion hylendid a diogelwch bwyd i helpu busnesau bwyd i ailagor a gweithredu'n ddiogel yn ystod COVID-19.
Mae’r canllawiau hyn wedi’u datblygu ar gyfer busnesau sy'n dymuno gweithredu yn ystod y pandemig COVID-19. Mae canllawiau sector wedi'u cyhoeddi i helpu cyflogwyr, gweithwyr a'r hunan-gyflogedig i ddeall sut i weithio'n ddiogel yn y sector bwyd.
Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â chanllawiau sector ar gyfer cadw pellter cymdeithasol yn y gweithle a'n cyngor cyffredinol ar gyfer busnesau bwyd.
Bydd y canllawiau hyn yn rhoi fframwaith ymarferol i chi feddwl am yr hyn sydd angen i chi ei wneud i barhau, i addasu neu i ailddechrau gweithrediadau yn ystod y pandemig COVID-19. Mae hyn yn cynnwys y prosesau a'r gofynion hylendid y mae'n rhaid i chi eu dilyn i ailagor eich busnes bwyd yn ddiogel.