Canllaw i’r diwydiant cig
Sut i fodloni'r gofynion a nodir gan gyfraith bwyd. Mae'n cynnwys canllawiau ar gymeradwyo safleoedd a safonau parhaus.
Pwysig
Sylwch nad yw'r cyhoeddiad hwn yn cael ei ddiweddaru na'i gynnal ar hyn o bryd. Nid yw'n adlewyrchu newidiadau rheoliadol na pholisi ers 14 Rhagfyr 2019, fel gweithredu'r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (OCR). Rhaid peidio â dibynnu arno fel datganiad awdurdodol o'r gyfraith neu'r arfer.
Gellir gweld fersiwn wedi'i archifo o'r Canllaw Diwydiant Cig trwy'r Archifau Cenedlaethol.
Meysydd o fewn y Canllaw
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer gweithredwyr busnes bwyd y Deyrnas Unedig, ac maent yn mynd i’r afael â:
- lladd a chigydda (dressing) rhywogaethau cig coch, dofednod, cwningod ac anifeiliaid hela wedi’u ffermio
- cigydda anifeiliaid hela gwyllt mewn sefydliadau trin helgig
- torri cig coch, gwyn neu helgig
- cynhyrchu cynhyrchion cig, briwgig (minced meat), paratoadau cig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol
Y Canllaw
Datblygwyd y canllaw gan banel o arbenigwyr diwydiant, awdurdodau gorfodi a swyddogion yr asiantaeth.
Mae'n nodi'r rhwymedigaethau cyfreithiol sy'n berthnasol i weithredwyr busnesau bwyd yn y sector cig. Mae hefyd yn rhoi cyngor ar sut y gellir bodloni'r rhwymedigaethau hyn.
Nid oes yn rhaid i weithredwyr ddilyn y cyngor yn y canllaw gan fod ffyrdd eraill o sicrhau cydymffurfiaeth â'r gyfraith.
Penodau’r Canllaw
Nid yw'r cyhoeddiad hwn yn cael ei ddiweddaru na'i gynnal ar hyn o bryd. Rhaid peidio â dibynnu arno fel datganiad awdurdodol o'r gyfraith neu'r arfer.
Gellir gweld fersiwn wedi'i archifo o benodau'r Canllaw Diwydiant Cig trwy'r Archifau Cenedlaethol.
Y Llawlyfr o Reolaethau Swyddogol
Unwaith y bydd eich safle wedi'i gymeradwyo, bydd y Llawlyfr o Reolaethau Swyddogol yn fuddiol i gael rhagor o wybodaeth.
Mae'r Llawlyfr yn disgrifio tasgau, cyfrifoldebau a dyletswyddau ein staff sy'n cynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau cymeradwy.