Mae'r canllawiau canlynol ar gyfer awdurdodau gorfodi ac maent yn berthnasol i holl fusnesau bwyd y Deyrnas Unedig (DU) sy'n cynhyrchu POAO yn y DU (Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon). Maent yn amlinellu'r gofynion o ran marciau iechyd ac adnabod a fydd yn caniatáu i gynnyrch POAO a gynhyrchir gan fusnesau yn y DU gael ei roi ar farchnadoedd Prydain Fawr, Gogledd Iwerddon, yr UE a thu allan i'r UE o 1 Ionawr 2021.
Beth yw marciau iechyd ac adnabod?
Mae'r marc iechyd yn cael ei roi'n uniongyrchol ar gynnyrch POAO, fel arfer carcasau cig, gan yr Awdurdod Cymwys neu o dan ei oruchwyliaeth, ac mae'n dangos bod y cynnyrch yn addas i'w fwyta gan bobl.
Yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon, yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw’r Awdurdod Cymwys. Mae gan Safonau Bwyd yr Alban gyfrifoldeb tebyg yn yr Alban.
Mae'r marc adnabod yn cael ei roi ar gynnyrch POAO gan fusnesau bwyd i ddangos iddo gael ei gynhyrchu mewn sefydliad a gymeradwywyd yn unol â rheoliadau diogelwch a hylendid bwyd. Mae’r marc fel arfer yn cael ei roi ar ddeunydd lapio, deunydd pecynnu neu label sy'n cynnwys y cynnyrch POAO, neu sydd wedi’i gysylltu ag ef.
Ymhellach i lawr y dudalen hon gallwch ddod o hyd i:
- ddisgrifiad o'r marciau iechyd ac adnabod newydd, gan ddibynnu ar b’un a yw'r busnes bwyd wedi'i leoli yng Ngogledd Iwerddon neu ym Mhrydain Fawr. Mae Llywodraeth y DU yn argymell defnyddio'r cod gwlad llawn 'United Kingdom' lle mae'n ymarferol gwneud hynny.
- gwybodaeth sy'n nodi'r gofynion ar gyfer gwahanol farchnadoedd
Cynhyrchion a roddir ar y farchnad cyn diwedd y Cyfnod Pontio (11pm GMT 31 Rhagyr 2020)
Mae ‘rhoi ar y farchnad’, fel y’i diffinnir yn Erthygl 3(8) Rheoliad (CE) 178/2002, yn golygu cadw bwyd neu fwyd anifeiliaid er mwyn ei werthu, gan gynnwys cynnig ei werthu neu ei drosglwyddo mewn unrhyw ffurf arall, p'un a yw am ddim ai peidio, a gwerthu, dosbarthu a ffurfiau eraill o drosglwyddo.
Os wnaeth eich busnes yn y DU roi cynnyrch POAO ar farchnad cyn diwedd y Cyfnod Pontio, caniateir iddo gyrraedd y defnyddiwr terfynol yn y farchnad penodol y’i rhoddwyd arni gyda'r marciau iechyd ac adnabod presennol.
Gall cynnyrch POAO a roddwyd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr cyn diwedd y Cyfnod Pontio, gyrraedd ei ddefnyddiwr terfynol ar farchnad Prydain Fawr, gan gynnwys cylchrediad o fewn Prydain Fawr, heb fod angen ail-labelu.
Gall cynhyrchion POAO a roddwyd ar y farchnad yn yr UE cyn diwedd y Cyfnod Pontio, gyrraedd y defnyddiwr terfynol ar farchnad yr UE, heb yr angen am ail-labelu.
Gall cynnyrch POAO a roddwyd ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon cyn diwedd y Cyfnod Pontio gyrraedd y defnyddiwr terfynol ar farchnadoedd y DU neu’r UE, heb fod angen ail-labelu.
Bydd angen ail-labelu cynnyrch POAO sy’n cael ei symud i farchnadoedd yr UE a Gogledd Iwerddon o Brydain Fawr ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio er mwyn bodloni'r gofynion newydd.
Gall cynnyrch POAO sydd wedi'i roi ar y farchnad yn y DU cyn diwedd y Cyfnod Pontio gyrraredd y defnyddiwr ar farchnadoedd nad ydynt o fewn yr UE heb yr angen i ail-labelu.
Gwybodaeth am ddefnyddio’r stoc bresennol gyda'r Marc Adnabod ‘UK/EC’
Ar farchnad Prydain Fawr
Mae deddfwriaeth yng Nghymru, yn Lloegr ac yn yr Alban yn darparu ar gyfer cyfnod addasu 21 mis ar gyfer nwyddau a roddir ar y farchnad ym Mhrydain Fawr i leihau effaith y newid yn y gofynion ar gyfer marciau adnabod.
Bydd hyn yn caniatáu i fusnesau yn y DU gael gwared ar stociau cyfredol o labeli, deunydd lapio a deunydd pecynnu sydd ganddynt sy'n cynnwys y marc adnabod 'UK/EC' ar ddiwedd y Cyfnod Pontio.
Mae'r ddarpariaeth ar gael i fusnesau bwyd y DU ar gyfer cynnyrch POAO a roddir ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Nid yw'n berthnasol i gynnyrch POAO a gynhyrchir yn y DU i'w roi ar farchnadoedd yr UE, Gogledd Iwerddon neu farchnadoedd y tu allan i'r UE.
Nid bwriad y ddarpariaeth yw galluogi busnesau i ailgyflenwi stociau o labeli, deunydd lapio a deunydd pecynnu sydd â’r marc adnabod 'UK/EC' ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio. Anogir busnesau i fabwysiadu'r marciau newydd cyn gynted â phosibl ar ôl i'r Cyfnod Pontio ddod i ben.
Dechreuodd y ddarpariaeth o 1 Ionawr 2021 ac mae ar gael i fusnesau bwyd hyd at 30 Medi 2022. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd defnyddio stociau o labeli, deunydd lapio a deunydd pecynnu sydd â'r marc adnabod ‘UK/EC’ yn anghyfreithlon.
Ar farchnad Gogledd Iwerddon
O dan Brotocol Gogledd Iwerddon, bydd nwyddau a werthir yng Ngogledd Iwerddon yn parhau i ddilyn rheolau'r UE ar gyfer labelu bwyd. Mae newidiadau i labelu sy'n berthnasol o 1 Ionawr 2021.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod y bydd angen amser ar fusnesau i addasu i'r rheolau labelu newydd hyn.
Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) a chynghorau dosbarth yng Ngogledd Iwerddon ar ddull gorfodi o ofynion labelu newydd ar farchnad Gogledd Iwerddon sy'n ystyried yr heriau hyn.
Yn unol â newidiadau blaenorol i'r rheolau ar gyfer labelu, bydd dull gorfodi cymesur a seiliedig ar risg ar gyfer marciau adnabod ar gyfer cynhyrchion a roddir ar farchnad Gogledd Iwerddon. Gweithredir y dull hwn mewn ffordd sy'n cefnogi busnesau wrth iddynt addasu i'r gofynion dros amser.
Mae rhagor o wybodaeth am ofynion cyffredinol labelu bwyd ar gael ar gael ar wefan GOV.UK.
Symud cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon
Roedd y cytundeb y daeth y Cytundeb Ymadael iddo ar weithredu Protocol Gogledd Iwerddon yn nodi y bydd:
- Cyfnod gras (grace period) o dri mis i fasnachwyr awdurdodedig sy'n symud cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion cyfansawdd, bwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid a chynhyrchion planhigion a phlanhigion o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.
- Mae trefniant chwe mis wedi'i roi ar waith i alluogi symud rhai cynhyrchion cig o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.
Mae amodau wedi’u hatodi i’r trefniadau hyn a nodir yng nghanllawiau Defra.
Mae'r ASB o'r farn, oherwydd bod modd olrhain yn llawn, nad oes llawer o risg i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid yn defnyddio marciau adnabod UK/EC. Felly, ein cyngor i awdurdodau gorfodi perthnasol yw y dylid gweithredu'r un dull gorfodi cymesur a seiliedig ar risg ar gyfer marciau adnabod mewn ffordd sy'n cefnogi busnesau wrth iddynt addasu i'r gofynion dros amser. Mae hyn hefyd yn unol â'r Protocol Cydymffurfiaeth DAERA a gyhoeddwyd ar gyfer rheolaethau SPS.
Protocol Cydymffurfiaeth DAERA
Mae'r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) wedi cyhoeddi:
- Protocol Cydymffurfiaeth ar gyfer rheolaethau SPS ar symudiadau Prydain Fawr – Gogledd Iwerddon
- Canllawiau ar gyfer masnachwyr awdurdodedig yn ystod y cyfnod gras tri mis
Mae'r protocol cydymffurfiaeth yn nodi y bydd disgwyl i nwyddau nad ydynt o fewn cwmpas y ddau gyfnod gras (hynny yw y cynllun masnachwr awdurdodedig a threfniadau sy'n ymwneud â gwaharddiadau a chyfyngiadauneu hawddfreintiau ar gyfer rhai cynhyrchion cig), gydymffurfio â rheolau'r UE o 1 Ionawr 2021 wrth symud cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.
Mae rhagor o ganllawiau gan Lywodraeth y DU ar symud cynhyrchion anifeiliaid o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon ar gael ar wefan GOV.UK.
Cynnyrch y DU (Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon) sydd ar y farchnad am 11:01pm GMT ar 31 Rhagfyr 2020 sydd ar gyfer gwledydd y tu allan i'r UE
Mae Prif Swyddog Milfeddygol Defra wedi ysgrifennu at bob gwlad y tu allan i'r UE i egluro newidiadau i farciau iechyd ac adnabod.
Mae'r atodiad i lythyr y Prif Swyddog Milfeddygol wedi'i grynhoi isod er gwybodaeth yn unig
A: Allforion y DU o gynhyrchion bwyd sy'n dod o anifeiliaid (POAO) i Wledydd y tu allan i'r UE: Marciau adnabod ac iechyd y DU
Yn dilyn y Cyfnod Pontio (a ddaeth i ben 31 Rhagfyr 2020), bydd ffurf y marciau iechyd ac adnabod a ddefnyddir ar gynhyrchion POAO a gynhyrchir yn y DU yn newid.
1. Marciau iechyd ac adnabod presennol
Mae'r marciau iechyd ac adnabod ar gyfer cynnyrch POAO i'w hallforio o'r DU i wledydd y tu allan i'r UE yn y fformat hwn ar hyn o bryd:
Marciau iechyd ac adnabod a ddefnyddiwyd cyn 31 Rhagfyr 2020
2. Marciau iechyd ac adnabod y dyfodol
Bydd marciau iechyd ac adnabod a ddefnyddir ar ôl y cyfnod pontio yn cael eu cyflwyno yn y fformatau canlynol:
Marciau iechyd a ddefnyddir ar ôl 31 Rhagfyr 2020
Marciau adnabod a ddefnyddir ar ôl 31 Rhagfyr 2020
3. Newidiadau allweddol
Ar gyfer cynnyrch POAO a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban):
- bydd yr ôl-ddodiad 'EC' yn cael ei dynnu o farciau iechyd ac adnabod
- bydd y marciau'n dwyn enw'r wlad lawn 'United Kingdom' neu god cryno 'GB' neu 'UK'.
Ar gyfer cynnyrch POAO a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon:
- bydd y marciau iechyd ac adnabod yn parhau i arddangos yr ôl-ddodiad 'EC'
- bydd y marciau'n dwyn enw'r wlad lawn '’United Kingdom (Northern Ireland)' neu god cryno, 'UK (NI)'
Ym mhob achos, bydd rhif cymeradwyo'r sefydliad, sy'n darparu'r gallu i olrhain sy'n ofynnol, yn aros yr un fath.
4. Eithriad ar gyfer wyau i'w bwyta gan bobl ac wyau deor
Nid oes angen i wyau mewn plisgyn i'w bwyta gan bobl ac wyau deor a gynhyrchir yn y DU gario marc adnabod / iechyd y DU a amlinellir uchod a byddant yn parhau i gael eu marcio yn yr un ffordd ag y maent ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gall wyau o'r fath a allforir fod â chod ISO ychwanegol (GB, GBR neu 826) naill ai yn lle, neu'n ychwanegol at y marcio cyfredol. Gall hyn fod oherwydd bod wyau o'r fath wedi'u marcio mewn swp cyn penderfynu ar yr union gyrchfan allforio. Yn yr un modd, gall wyau deor hefyd gario'r gair 'deor' (hatching).
Ym mhob achos, bydd wyau mewn plisgyn i'w bwyta gan bobl ac wyau deor a gynhyrchir yn y DU yn sicrhau’r un safonau ac ansawdd uchel yn dilyn y cyfnod pontio.
5. Cyfnod pontio ar gyfer nwyddau ar y farchnad
Gallwch barhau i gael cynhyrchion sydd â marciau iechyd ac adnabod 'UK/EC' (gweler pwynt 1 uchod) am gyfnod sylweddol o amser. Mae'r marciau hyn yn parhau i fod yn farciau dilys, ac maent yn ymwneud â chynhyrchion a gynhyrchir yn y DU cyn diwedd y Cyfnod Pontio. Wrth i'r gadwyn gyflenwi ddisbyddu ei hun o hen stociau sy'n dwyn y marciau iechyd ac adnabod hyn, fe welwch newid graddol i'r marciau iechyd ac adnabod newydd (gweler pwynt 2 uchod).
Mae'r holl lwythi a chynhyrchion sydd wedi'u hardystio gan ddefnyddio unrhyw fath o'r marc iechyd ac adnabod yn y Deyrnas Unedig, gyda'r ôl-ddodiad 'EC' neu hebddo, yn parhau i fod yn warant o'n safonau ac ansawdd uchel parhaus wrth gyflenwi rheolaethau swyddogol.
Enghreifftiau o’r marciau iechyd ac adnabod sy'n berthnasol o 1 Ionawr 2021
Busnesau cymeradwy’r ASB ym Mhrydain Fawr
Busnesau cymeradwy awdurdodau lleol ym Mhrydain Fawr
Cynghorau Dosbarth yng Ngogledd Iwerddon
Busnesau cymeradwy awdurdodau lleol ym Mhrydain Fawr
Cynghorau Dosbarth yng Ngogledd Iwerddon
Maint a dimensiwn y marciau sy'n berthnasol o 1 Ionawr 2021
Marc Iechyd
Rhaid i'r marc iechyd fod yn farc hirgrwn darllenadwy ac annileadwy sydd o leiaf 6.5cm o ran lled a 4.5cm o ran uchder. Rhaid iddo gynnwys naill ai enw'r wlad yn llawn 'UNITED KINGDOM' mewn priflythrennau neu’r talfyriad 'GB' neu 'UK' ar gyfer cynnyrch POAO a gynhyrchir yng Nghymru, yn Lloegr neu yn yr Alban, ac yna rhif cymeradwyo'r sefydliad. Mae Llywodraeth y DU yn argymell defnyddio'r cod gwlad llawn ‘UNITED KINGDOM’ lle mae'n ymarferol gwneud hynny.
Ar gyfer cynnyrch POAO a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i'r marc iechyd gynnwys naill ai enw'r wlad yn llawn 'UNITED KINGDOM (NORTHERN IRELAND)' mewn priflythrennau neu dalfyriad ‘UK(NI)’, ac yna rhif cymeradwyo'r sefydliad. Rhaid iddo hefyd gynnwys y llythrennau 'EC' o dan y rhif cymeradwyo.
Rhaid i lythrennau fod o leiaf 0.8cm o ran uchder a rhaid i ffigurau fod o leiaf 1cm o ran uchder. Rhaid i'r inc a ddefnyddir ar gyfer y marc iechyd gael ei awdurdodi yn unol â chyfraith bwyd sy'n llywodraethu'r defnydd o sylweddau lliwio mewn bwyd.
Gellir lleihau dimensiynau a nodau'r marc iechyd ar gyfer marcio wŷn, mynnau geifr (kids) a moch bach.
Marc adnabod
Nid oes maint lleiaf na mwyaf wedi'i bennu ar gyfer y marc adnabod. Fodd bynnag, rhaid i’r marc fod yn ddarllenadwy ac yn annileadwy, a’r nodau’n hawdd eu dehongli.
Rhaid i'r marc adnabod gynnwys naill ai enw’r wlad yn llawn 'UNITED KINGDOM' neu dalfyriad 'GB' neu 'UK' ar gyfer cynnyrch POAO a gynhyrchir yng Nghymru, yn Lloegr ac yn yr Alban. Mae Llywodraeth y DU yn argymell defnyddio'r cod gwlad llawn 'United Kingdom' lle mae'n ymarferol gwneud hynny.
Ar gyfer cynnyrch POAO a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i’r marc adnabod newydd gynnwys naill ai enw'r wlad yn llawn 'United Kingdom (Northern Ireland)' mewn priflythrennau neu dalfyriad ‘UK(NI)’, ac yna rhif cymeradwyo'r sefydliad. Rhaid iddo hefyd gynnwys y llythrennau 'EC' o dan y rhif cymeradwyo.
Use of health and identification marks on the Great Britain, Northern Ireland, EU and non-EU markets
Marciau iechyd
Marc Iechyd |
Rhanbarth y DU lle rhoddir y marc | Marchnad Prydain Fawr | Marchnad Gogledd Iwerddon | Marchnad 27 Gwlad yr UE | Marchnad y tu allan i'r UE |
---|---|---|---|---|---|
Gogledd Iwerddon | Ie | Ie | Ie | Ie | |
Gogledd Iwerddon | Ie | Ie | Ie | Ie | |
Prydain Fawr | Ie | Ie | Ie | Ie | |
Prydain Fawr | Ie | Ie | Ie | Ie | |
Prydain Fawr | Ie | Na | Na | Ie |
Marciau adnabod
Marc adnabod | Rhanbarth y DU lle rhoddir y marc | Marchnad Prydain Fawr | Marchnad Gogledd Iwerddon | Marchnad 27 Gwlad yr UE | Marchnad y tu allan i'r UE |
---|---|---|---|---|---|
Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth yr ASB) | Ie | Ie | Ie | Ie | |
Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth y Cyngor Dosbarth) | Ie | Ie | Ie | Ie | |
Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth yr ASB) | Ie | Ie | Ie | Ie | |
Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth y Cyngor Dosbarth) | Ie | Ie | Ie | Ie | |
Prydain Fawr (cymeradwyaeth yr ASB) | Ie | Ie | Ie | Ie | |
Prydain Fawr (cymeradwyaeth awdurdodau lleol) | Ie | Ie | Ie | Ie | |
Prydain Fawr (cymeradwyaeth yr ASB) | Ie | Ie | Ie | Ie | |
Prydain Fawr (cymeradwyaeth awdurdodau lleol) | Ie | Ie | Ie | Ie | |
Prydain Fawr (cymeradwyaeth yr ASB) | Ie | Na | Na | Ie | |
Prydain Fawr (cymeradwyaeth awdurdodau lleol) | Ie | Na | Na | Ie |
* Fel yr amlinellir uchod, bydd darpariaeth ar wahân ar gyfer marchnad Prydain Fawr lle bydd marciau adnabod ‘UK/EC’ presennol yn parhau i fod yn ddilys.