Canllawiau ar nodau iechyd ac adnabod sy'n gymwys o 1 Ionawr 2021
Canllawiau ar y nodau iechyd ac adnabod y mae'n rhaid eu rhoi ar gynhyrchion bwyd sy’n dod o anifeiliaid (POAO), fel cig, cynnyrch wyau, pysgod, caws a llaeth
Mae'r canllawiau canlynol ar gyfer awdurdodau gorfodi ac maent yn gymwys i holl fusnesau bwyd y Deyrnas Unedig (DU) sy'n cynhyrchu POAO yn y DU (Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon). Maent yn amlinellu'r gofynion o ran nodau iechyd ac adnabod a fydd yn caniatáu i gynnyrch POAO a gynhyrchir gan fusnesau yn y DU gael ei roi ar farchnadoedd Prydain Fawr, Gogledd Iwerddon, yr UE a'r tu allan i'r UE o 1 Ionawr 2021.
Beth yw nodau iechyd ac adnabod?
Mae'r nod iechyd yn cael ei roi'n uniongyrchol ar gynnyrch POAO, fel arfer carcasau cig, gan yr Awdurdod Cymwys neu o dan ei oruchwyliaeth, ac mae'n dangos bod y cynnyrch yn addas i'w fwyta gan bobl.
Yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon, yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw’r Awdurdod Cymwys. Mae gan Safonau Bwyd yr Alban gyfrifoldeb tebyg yn yr Alban.
Mae'r nod adnabod yn cael ei roi ar gynnyrch POAO gan fusnesau bwyd i ddangos iddo gael ei gynhyrchu mewn sefydliad a gymeradwywyd yn unol â rheoliadau diogelwch a hylendid bwyd. Mae’r nod fel arfer yn cael ei roi ar ddeunydd lapio, deunydd pecynnu neu label sy'n cynnwys y cynnyrch POAO, neu sydd wedi’i gysylltu ag ef.
Ymhellach i lawr y dudalen hon gallwch ddod o hyd i'r canlynol:
- disgrifiad o'r nodau iechyd ac adnabod newydd, gan ddibynnu a yw'r busnes bwyd wedi'i leoli yng Ngogledd Iwerddon neu ym Mhrydain Fawr. Mae Llywodraeth y DU yn argymell defnyddio'r cod gwlad llawn 'United Kingdom' lle mae'n ymarferol gwneud hynny.
- gwybodaeth sy'n nodi'r gofynion ar gyfer gwahanol farchnadoedd
Cynhyrchion a roddir ar y farchnad cyn diwedd y Cyfnod Pontio (11pm GMT 31 Rhagyr 2020)
Mae ‘rhoi ar y farchnad’, fel y’i diffinnir yn Erthygl 3(8) o Reoliad (CE) 178/2002, yn golygu cadw bwyd neu fwyd anifeiliaid er mwyn ei werthu, gan gynnwys cynnig ei werthu neu ei drosglwyddo ar unrhyw ffurf arall, p'un a yw am ddim ai peidio, a gwerthu, dosbarthu a ffurfiau eraill o drosglwyddo.
Os gwnaeth eich busnes yn y DU roi cynnyrch POAO ar farchnad cyn diwedd y Cyfnod Pontio, caniateir iddo gyrraedd y defnyddiwr terfynol yn y farchnad benodol y’i rhoddwyd arni gyda'r nodau iechyd ac adnabod cyfredol.
Caiff cynnyrch POAO a roddwyd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr cyn diwedd y Cyfnod Pontio gyrraedd ei ddefnyddiwr terfynol ar farchnad Prydain Fawr, gan gynnwys ei gylchredeg o fewn Prydain Fawr, heb fod angen ail-labelu.
Caiff cynhyrchion POAO a roddwyd ar y farchnad yn yr UE cyn diwedd y Cyfnod Pontio gyrraedd y defnyddiwr terfynol ar farchnad yr UE, heb fod angen ei ail-labelu.
Caiff cynnyrch POAO a roddwyd ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon cyn diwedd y Cyfnod Pontio gyrraedd y defnyddiwr terfynol ar farchnadoedd y DU neu’r UE, heb fod angen ei ail-labelu.
Bydd angen ail-labelu cynnyrch POAO sy’n cael ei symud i farchnadoedd yr UE a Gogledd Iwerddon o Brydain Fawr ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio er mwyn bodloni'r gofynion newydd.
Caiff cynnyrch POAO sydd wedi'i roi ar y farchnad yn y DU cyn diwedd y Cyfnod Pontio gyrraredd y defnyddiwr ar farchnadoedd nad ydynt o fewn yr UE heb fod angen ail-labelu.
Ail-lapio neu ail-becynnu cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid
Rhaid i unrhyw waith ail-lapio neu ail-becynnu sy’n digwydd gyda chynnyrch sy’n dod o anifeiliaid (POAO) gael ei gynnal gan sefydliad sydd wedi'i gymeradwyo i gyflawni'r gweithgarwch gofynnol. Os yw'n cael ei wneud gan sefydliad ar wahân i'r gweithgynhyrchwr gwreiddiol, rhaid defnyddio'r nod adnabod priodol gyda rhif cymeradwyo'r sefydliad. Mae hyn er mwyn gallu parhau i olrhain a sicrhau nad yw diogelwch bwyd yn cael ei gyfaddawdu.
Pan fo cynnyrch sydd wedi'i fwriadu ar gyfer marchnad yr Undeb Ewropeaidd (UE) neu Ogledd Iwerddon wedi gadael y busnes bwyd sy’n ei gynhyrchu ac mewn storfa oer neu gyfleuster storio arall ym Mhrydain Fawr nad yw wedi’i gymeradwyo ar gyfer ail-lapio nac ail-becynnu, mae'n bwysig bod y cynnyrch yn cael ei symud i sefydliad sydd wedi'i gymeradwyo i gynnal gweithgareddau ail-lapio neu ail-becynnu yn benodol ar gyfer y cynnyrch POAO hwnnw, neu fydd rhaid ei ddychwelyd i’r busnes bwyd sy’n ei gynhyrchu.
Lle mae gosod label newydd dros yr hen un yn briodol, bydd angen i’r busnes bwyd fod yn fodlon bod unrhyw labelu dros ben yn ddiogel ac nad yw'n cuddio unrhyw wybodaeth labelu orfodol arall. Gall methu â bodloni’r gofynion hyn arwain at awdurdodau gorfodi yn gwrthod cynnyrch yn y wlad gyrchfan (country of destination).
Gwybodaeth am ddefnyddio’r stoc gyufredol gyda'r Nod Adnabod ‘UK/EC’
Ar farchnad Prydain Fawr
Bydd deddfwriaeth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn cael ei hestyn er mwyn darparu cyfnod addasu 36 mis ar gyfer nwyddau a roddir ar y farchnad ym Mhrydain Fawr i leihau effaith y newid yn y gofynion ar gyfer nodau adnabod.
Bydd hyn yn caniatáu i fusnesau yn y DU gael gwared ar stociau cyfredol o labeli, deunydd lapio a deunydd pecynnu sy'n cynnwys y nod adnabod 'UK/EC' ar ddiwedd y Cyfnod Pontio.
Mae'r ddarpariaeth ar gael i fusnesau bwyd y DU ar gyfer cynnyrch POAO a roddir ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Nid yw'n gymwys i gynnyrch POAO a gynhyrchir yn y DU i'w roi ar farchnadoedd yr UE, Gogledd Iwerddon neu farchnadoedd y tu allan i'r UE.
Nid bwriad y ddarpariaeth yw galluogi busnesau i ailgyflenwi stociau o labeli, deunydd lapio a deunydd pecynnu sydd â’r nod adnabod 'UK/EC' ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio. Anogir busnesau i fabwysiadu'r nodau newydd cyn gynted â phosibl ar ôl i'r Cyfnod Pontio ddod i ben.
Dechreuodd y ddarpariaeth ar 1 Ionawr 2021 ac mae ar gael i fusnesau bwyd hyd at 31 Rhagfyr 2023. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd defnyddio stociau o labeli, deunydd lapio a deunydd pecynnu sydd â'r nod adnabod ‘UK/EC’ yn anghyfreithlon.
Ni chaniateir gwerthu cynhyrchion y rhoddir y nod adnabod UK/EC arnynt cyn 1 Ionawr 2024.
Ar farchnad Gogledd Iwerddon
O dan Brotocol Gogledd Iwerddon, bydd nwyddau a werthir yng Ngogledd Iwerddon yn parhau i ddilyn rheolau'r UE ar gyfer labelu bwyd. Mae newidiadau i labelu sy'n berthnasol o 1 Ionawr 2021.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod y bydd angen amser ar fusnesau i addasu i'r rheolau labelu newydd hyn.
Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) a chynghorau dosbarth yng Ngogledd Iwerddon ar ddull gorfodi o ofynion labelu newydd ar farchnad Gogledd Iwerddon sy'n ystyried yr heriau hyn.
Yn unol â newidiadau blaenorol i'r rheolau ar gyfer labelu, bydd dull gorfodi cymesur a seiliedig ar risg ar gyfer nodau adnabod ar gyfer cynhyrchion a roddir ar farchnad Gogledd Iwerddon. Gweithredir y dull hwn mewn ffordd sy'n cefnogi busnesau wrth iddynt addasu i'r gofynion dros amser.
Mae rhagor o wybodaeth am ofynion cyffredinol labelu bwyd ar gael ar gael ar wefan GOV.UK.
Symud cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon
Roedd y cytundeb y daeth y Cytundeb Ymadael iddo ar weithredu Protocol Gogledd Iwerddon yn nodi y bydd:
- Cyfnod gras (grace period) o dri mis i fasnachwyr awdurdodedig sy'n symud cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion cyfansawdd, bwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid a chynhyrchion planhigion a phlanhigion o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.
- Mae trefniant chwe mis wedi'i roi ar waith i alluogi symud rhai cynhyrchion cig o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.
Mae amodau wedi’u hatodi i’r trefniadau hyn a nodir yng nghanllawiau Defra.
Mae'r ASB o'r farn, oherwydd bod modd olrhain yn llawn, nad oes llawer o risg i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid yn defnyddio nodau adnabod UK/EC. Felly, ein cyngor i awdurdodau gorfodi perthnasol yw y dylid gweithredu'r un dull gorfodi cymesur a seiliedig ar risg ar gyfer nodau adnabod mewn ffordd sy'n cefnogi busnesau wrth iddynt addasu i'r gofynion dros amser. Mae hyn hefyd yn unol â'r Protocol Cydymffurfiaeth DAERA a gyhoeddwyd ar gyfer rheolaethau SPS.
Protocol Cydymffurfiaeth DAERA
Mae'r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) wedi cyhoeddi:
- Protocol Cydymffurfiaeth ar gyfer rheolaethau SPS ar symudiadau Prydain Fawr – Gogledd Iwerddon
- Canllawiau ar gyfer masnachwyr awdurdodedig yn ystod y cyfnod gras tri mis
Mae'r protocol cydymffurfiaeth yn nodi y bydd disgwyl i nwyddau nad ydynt o fewn cwmpas y ddau gyfnod gras (hynny yw y cynllun masnachwr awdurdodedig a threfniadau sy'n ymwneud â gwaharddiadau a chyfyngiadauneu hawddfreintiau ar gyfer rhai cynhyrchion cig), gydymffurfio â rheolau'r UE o 1 Ionawr 2021 wrth symud cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.
Mae rhagor o ganllawiau gan Lywodraeth y DU ar symud cynhyrchion anifeiliaid o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon ar gael ar wefan GOV.UK.
Cynnyrch y DU (Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon) sydd ar y farchnad am 11:01pm GMT ar 31 Rhagfyr 2020 sydd ar gyfer gwledydd y tu allan i'r UE
Mae Prif Swyddog Milfeddygol Defra wedi ysgrifennu at bob gwlad y tu allan i'r UE i egluro newidiadau i farciau iechyd ac adnabod.
Mae'r atodiad i lythyr y Prif Swyddog Milfeddygol wedi'i grynhoi isod er gwybodaeth yn unig
A: Allforion y DU o gynhyrchion bwyd sy'n dod o anifeiliaid (POAO) i Wledydd y tu allan i'r UE: Nodau adnabod ac iechyd y DU
Yn dilyn y Cyfnod Pontio (a ddaeth i ben 31 Rhagfyr 2020), bydd ffurf y nodau iechyd ac adnabod a ddefnyddir ar gynhyrchion POAO a gynhyrchir yn y DU yn newid.
1. Nodau iechyd ac adnabod presennol
Mae'r nodau iechyd ac adnabod ar gyfer cynnyrch POAO i'w hallforio o'r DU i wledydd y tu allan i'r UE yn y fformat hwn ar hyn o bryd:
Nodau iechyd ac adnabod a ddefnyddiwyd cyn 31 Rhagfyr 2020

2. Nodau iechyd ac adnabod y dyfodol
Bydd nodau iechyd ac adnabod a ddefnyddir ar ôl y cyfnod pontio yn cael eu cyflwyno yn y fformatau canlynol:
Nodau iechyd a ddefnyddir ar ôl 31 Rhagfyr 2020

Nodau adnabod a ddefnyddir ar ôl 31 Rhagfyr 2020



3. Newidiadau allweddol
Ar gyfer cynnyrch POAO a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban):
- bydd yr ôl-ddodiad 'EC' yn cael ei dynnu o farciau iechyd ac adnabod
- bydd y nodau'n dwyn enw'r wlad lawn 'United Kingdom' neu god cryno 'GB' neu 'UK'.
Ar gyfer cynnyrch POAO a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon:
- bydd y nodau iechyd ac adnabod yn parhau i arddangos yr ôl-ddodiad 'EC'
- bydd y nodau'n dwyn enw'r wlad lawn '’United Kingdom (Northern Ireland)' neu god cryno, 'UK (NI)'
Ym mhob achos, bydd rhif cymeradwyo'r sefydliad, sy'n darparu'r gallu i olrhain sy'n ofynnol, yn aros yr un fath.
4. Eithriad ar gyfer wyau i'w bwyta gan bobl ac wyau deor
Nid oes angen i wyau mewn plisgyn i'w bwyta gan bobl ac wyau deor a gynhyrchir yn y DU gynnwys nodau adnabod / iechyd y DU a amlinellir uchod a byddant yn parhau i gael eu marcio yn yr un ffordd ag y maent ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gall wyau o'r fath a allforir fod â chod ISO ychwanegol (GB, GBR neu 826) naill ai yn lle, neu'n ychwanegol at y marcio cyfredol. Gall hyn fod oherwydd bod wyau o'r fath wedi'u marcio mewn swp cyn penderfynu ar yr union gyrchfan allforio. Yn yr un modd, gall wyau deor hefyd gario'r gair 'deor' (hatching).
Ym mhob achos, bydd wyau mewn plisgyn i'w bwyta gan bobl ac wyau deor a gynhyrchir yn y DU yn sicrhau’r un safonau ac ansawdd uchel yn dilyn y cyfnod pontio.
5. Cyfnod pontio ar gyfer nwyddau ar y farchnad
Gallwch barhau i gael cynhyrchion sydd â nodau iechyd ac adnabod 'UK/EC' (gweler pwynt 1 uchod) am gyfnod sylweddol o amser. Mae'r nodau hyn yn parhau i fod yn farciau dilys, ac maent yn ymwneud â chynhyrchion a gynhyrchir yn y DU cyn diwedd y Cyfnod Pontio. Wrth i'r gadwyn gyflenwi ddisbyddu ei hun o hen stociau sy'n dwyn y nodau iechyd ac adnabod hyn, fe welwch newid graddol i'r nodau iechyd ac adnabod newydd (gweler pwynt 2 uchod).
Mae'r holl lwythi a chynhyrchion sydd wedi'u hardystio gan ddefnyddio unrhyw fath o'r nod iechyd ac adnabod yn y Deyrnas Unedig, gyda'r ôl-ddodiad 'EC' neu hebddo, yn parhau i fod yn warant o'n safonau ac ansawdd uchel parhaus wrth gyflenwi rheolaethau swyddogol.
Enghreifftiau o’r nodau iechyd ac adnabod sy'n berthnasol o 1 Ionawr 2021
Busnesau cymeradwy’r ASB ym Mhrydain Fawr
Busnesau cymeradwy awdurdodau lleol ym Mhrydain Fawr

Cynghorau Dosbarth yng Ngogledd Iwerddon
Busnesau cymeradwy awdurdodau lleol ym Mhrydain Fawr

Cynghorau Dosbarth yng Ngogledd Iwerddon

Maint a dimensiwn y nodau sy'n berthnasol o 1 Ionawr 2021
Nod Iechyd
Rhaid i'r nod iechyd fod yn farc hirgrwn darllenadwy ac annileadwy sydd o leiaf 6.5cm o ran lled a 4.5cm o ran uchder. Rhaid iddo gynnwys naill ai enw'r wlad yn llawn 'UNITED KINGDOM' mewn priflythrennau neu’r talfyriad 'GB' neu 'UK' ar gyfer cynnyrch POAO a gynhyrchir yng Nghymru, yn Lloegr neu yn yr Alban, ac yna rhif cymeradwyo'r sefydliad. Mae Llywodraeth y DU yn argymell defnyddio'r cod gwlad llawn ‘UNITED KINGDOM’ lle mae'n ymarferol gwneud hynny.
Ar gyfer cynnyrch POAO a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i'r nod iechyd gynnwys naill ai enw'r wlad yn llawn 'UNITED KINGDOM (NORTHERN IRELAND)' mewn priflythrennau neu dalfyriad ‘UK(NI)’, ac yna rhif cymeradwyo'r sefydliad. Rhaid iddo hefyd gynnwys y llythrennau 'EC' o dan y rhif cymeradwyo.
Rhaid i lythrennau fod o leiaf 0.8cm o ran uchder a rhaid i ffigurau fod o leiaf 1cm o ran uchder. Rhaid i'r inc a ddefnyddir ar gyfer y nod iechyd gael ei awdurdodi yn unol â chyfraith bwyd sy'n llywodraethu'r defnydd o sylweddau lliwio mewn bwyd.
Gellir lleihau dimensiynau a nodau'r nod iechyd ar gyfer marcio wŷn, mynnau geifr (kids) a moch bach.
Nod adnabod
Nid oes maint lleiaf na mwyaf wedi'i bennu ar gyfer y nod adnabod. Fodd bynnag, rhaid i’r nod hirgrwn fod yn ddarllenadwy ac yn annileadwy, a’r nodau’n hawdd eu dehongli.
Rhaid i'r nod adnabod gynnwys naill ai enw’r wlad yn llawn 'UNITED KINGDOM' neu dalfyriad 'GB' neu 'UK' ar gyfer cynnyrch POAO a gynhyrchir yng Nghymru, yn Lloegr ac yn yr Alban. Mae Llywodraeth y DU yn argymell defnyddio'r cod gwlad llawn 'United Kingdom' lle mae'n ymarferol gwneud hynny.
Ar gyfer cynnyrch POAO a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i’r marc adnabod newydd gynnwys naill ai enw'r wlad yn llawn 'United Kingdom (Northern Ireland)' mewn priflythrennau neu dalfyriad ‘UK(NI)’, ac yna rhif cymeradwyo'r sefydliad. Rhaid iddo hefyd gynnwys y llythrennau 'EC' o dan y rhif cymeradwyo.
Use of health and identification marks on the Great Britain, Northern Ireland, EU and non-EU markets
Nodau iechyd
Nod Iechyd |
Rhanbarth y DU lle rhoddir y nod | Marchnad Prydain Fawr | Marchnad Gogledd Iwerddon | Marchnad 27 Gwlad yr UE | Marchnad y tu allan i'r UE |
---|---|---|---|---|---|
|
Gogledd Iwerddon | Ie | Ie | Ie | Ie |
![]() |
Gogledd Iwerddon | Ie | Ie | Ie | Ie |
![]() Example health mark: GB |
Prydain Fawr | Ie | Ie | Ie | Ie |
![]() Example health mark: UNITED KINGDOM |
Prydain Fawr | Ie | Ie | Ie | Ie |
![]() Example health mark: UK |
Prydain Fawr | Ie | Na | Na | Ie |
Nodau adnabod
Nod adnabod | Rhanbarth y DU lle rhoddir y nod | Marchnad Prydain Fawr | Marchnad Gogledd Iwerddon | Marchnad 27 Gwlad yr UE | Marchnad y tu allan i'r UE |
---|---|---|---|---|---|
|
Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth yr ASB) | Ie | Ie | Ie | Ie |
![]() |
Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth y Cyngor Dosbarth) | Ie | Ie | Ie | Ie |
![]() |
Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth yr ASB) | Ie | Ie | Ie | Ie |
![]() |
Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth y Cyngor Dosbarth) | Ie | Ie | Ie | Ie |
![]() Example health mark: GB |
Prydain Fawr (cymeradwyaeth yr ASB) | Ie | Ie | Ie | Ie |
![]() |
Prydain Fawr (cymeradwyaeth awdurdodau lleol) | Ie | Ie | Ie | Ie |
![]() |
Prydain Fawr (cymeradwyaeth yr ASB) | Ie | Ie | Ie | Ie |
![]() |
Prydain Fawr (cymeradwyaeth awdurdodau lleol) | Ie | Ie | Ie | Ie |
![]() Example health mark: UK |
Prydain Fawr (cymeradwyaeth yr ASB) | Ie | Na | Na | Ie |
![]() |
Prydain Fawr (cymeradwyaeth awdurdodau lleol) | Ie | Na | Na | Ie |
* Fel yr amlinellir uchod, bydd darpariaeth ar wahân ar gyfer marchnad Prydain Fawr lle bydd nodau adnabod ‘UK/EC’ presennol yn parhau i fod yn ddilys.
Hanes diwygio
Published: 30 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Medi 2023