Cofrestru
Pan fyddwch chi'n dechrau busnes bwyd newydd neu'n cymryd yr awenau mewn busnes sy'n bodoli eisoes, mae'n rhaid i chi gofrestru eich busnes bwyd gyda'ch awdurdod lleol.
Dylech wneud hyn o leiaf 28 diwrnod cyn agor. Mae cofrestru'ch busnes bwyd yn rhad ac am ddim ac ni ellir ei wrthod. Os ydych chi eisoes yn masnachu a heb gofrestru, mae angen i chi wneud hynny cyn gynted â phosib.
Eithriadau
Os yw eich busnes bwyd cyfanwerthu yn gwneud, yn paratoi neu'n trin cig, pysgod, wyau neu gynhyrchion llaeth i'w cyflenwi i fusnesau eraill, efallai bydd angen cymeradwyaeth yr awdurdod lleol cymwys, ac nid cofrestriad. Os ydych chi'n ansicr a oes angen cymeradwyaeth arnoch chi, edrychwch ar ganllawiau gwneud cais i gymeradwyo sefydliad bwyd neu cysylltwch â'ch awdurdod lleol.
Pwy sydd angen cofrestru
Bydd angen i bob math o fusnes bwyd sy'n gweini cwsmeriaid yn uniongyrchol gofrestru, gan gynnwys:
- bwytai, caffis a bwytai tecawê
- busnesau arlwyo wedi'u lleoli yn y cartref, gwestai gwely a brecwast, busnesau arlwyo symudol a busnesau dros dro
- pabelli mawr (marquees), stondinau bwyd, a faniau bwyd
- meithrinfeydd, ysgolion a chartrefi gofal
- gwerthu o bell, archebu drwy'r post a chyflenwi bwyd gan gynnwys ar-lein
Bydd angen i chi gofrestru'ch busnes bwyd os ydych chi'n:
- gwerthu bwyd
- coginio bwyd
- storio neu drin bwyd
- paratoi bwyd
- dosbarthu bwyd
Dylai cwmnïau sy'n ymwneud â dosbarthu bwyd neu gyflenwi bwyd sy'n gweithredu o swyddfeydd hefyd gofrestru fel busnesau bwyd. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os na chaiff bwyd ei gadw ar y safleoedd.
Cofrestru fel gwarchodwr plant
Gwirfoddolwyr a sefydliadau elusennol
Os ydych chi'n trin, paratoi, storio a gweini bwyd yn achlysurol ac ar raddfa fach, nid oes angen i chi gofrestru.
Efallai y bydd angen i chi gofrestru gyda'ch awdurdod lleol fel busnes bwyd os ydych chi'n darparu bwyd yn rheolaidd, a hynny wedi'i drefnu. Bydd angen i chi gofrestru os ydych chi'n trin bwyd yn rheolaidd, hyd yn oed os ydych chi'n sefydliad nid er elw fel banc bwyd. Mae rhagor o ganllawiau ar ddarparu bwyd mewn neuadd bentref neu leoliad cymunedol arall.
Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Ar ôl cofrestru, efallai y bydd eich awdurdod lleol yn arolygu eich safle. Mae cofrestru'ch busnes yn gynnar a chael cyngor ac arweiniad yn eich helpu i baratoi ar gyfer arolygiadau. Mae paratoi'n drylwyr ar gyfer arolygiadau yn golygu y bydd gan eich busnes bwyd y cyfle gorau o gael y sgôr uchaf o dan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
Diweddaru eich manylion busnes
Mae'n rhaid i chi:
- sicrhau bod gan eich awdurdod lleol wybodaeth gyfredol am eich safle bob amser
- ddweud wrth eich awdurdod lleol os ydych chi'n bwriadu gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'ch busnes, gan gynnwys cau
Os ydych chi'n gweithredu mwy nag un safle, mae angen i chi gofrestru pob un ohonynt gyda'r awdurdodau lleol y maent wedi'u lleoli ynddynt.
Os ydych chi eisiau gwneud newidiadau i'ch safle, dylech ddweud wrth eich awdurdod lleol, oherwydd:
- efallai y bydd angen caniatâd cynllunio
- bydd angen i chi dalu ardrethi busnes ar gyfer y rhan fwyaf o safleoedd