Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Dechrau busnes bwyd anifeiliaid

Sut i gofrestru a gwneud cais am gymeradwyaeth fel busnes bwyd anifeiliaid sy'n gwneud, yn marchnata neu'n defnyddio bwyd anifeiliaid.

Mae angen i fusnesau sy'n gwneud, yn marchnata neu'n defnyddio bwyd anifeiliaid gael eu cofrestru a'u cymeradwyo fel busnesau bwyd anifeiliaid.

Mae'r ddeddfwriaeth bwyd anifeiliaid yn effeithio ar y busnesau canlynol:

  • gweithgynhyrchwyr bwyd anifeiliaid cyfansawdd

  • gweithgynhyrchwyr deunyddiau bwyd anifeiliaid, ychwanegion bwyd anifeiliaid a rhag-gymysgeddau (pre-mixtures)

  • mewnforwyr

  • cwmnïau sy'n cludo bwyd anifeiliaid

  • cwmnïau sy'n storio bwyd anifeiliaid

  • cwmnïau sy'n cludo bwyd anifeiliaid cyfansawdd 

  • busnesau bwyd sy'n darparu bwyd dros ben i'w ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid 

  • gweithgynhyrchwyr bwyd anifeiliaid anwes

  • ffermydd âr sy'n tyfu a defnyddio neu werthu cnydau i'w defnyddio fel bwyd anifeiliaid 

  • cynhyrchwyr bwyd anifeiliaid ar gyfer creaduriaid gwyllt (gan gynnwys anifeiliaid hela gwyllt) sydd wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl

  • ffermydd da byw

  • busnesau bwyd a busnesau nad ydynt yn rhai sy'n gwerthu bwyd sy'n gwerthu cyd-gynhyrchion a fydd yn cael eu defnyddio fel deunyddiau bwyd anifeiliaid

Bydd yn rhaid i chi fod yn ymwybodol o'r Rheoliad Hylendid Bwyd Anifeiliaid 183/2005

Cofrestru a chymeradwyo busnesau bwyd anifeiliaid

I gofrestru a/neu i gael cymeradwyaeth, bydd angen i chi wneud cais i’r awdurdod lleol sy'n gyfrifol am yr ardal y mae eich sefydliad bwyd anifeiliaid yn gweithredu ynddi. Mae’n bosibl mai’r swyddfa Safonau Masnach neu Wasanaeth Iechyd yr Amgylchedd fydd yn gyfrifol am hyn. 

Dewch o hyd i'ch swyddfa TSO neu Wasanaeth Iechyd yr Amgylchedd

Bydd y swyddfa Safonau Masnach neu’r Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd yn asesu'r gweithgareddau bwyd anifeiliaid a wneir ar y safle a gall roi un neu ragor o godau gweithgarwch wedi'u rhagddodi ag 'A' neu 'R' yn dibynnu a oes angen cymeradwyo neu gofrestru gweithgarwch.

Gweithgareddau sy'n golygu bod rhaid i fusnes gofrestru

Gweithgynhyrchu a/neu roi ychwanegion bwyd anifeiliaid ar y farchnad - ac eithrio'r rheiny y mae gofyn eu cymeradwyo (R1)

  • Mae hyn yn cynnwys cyffeithyddion, emylsyddion, sefydlogion, tewychwyr, sylweddau gelio, rhwymwyr, sylweddau gwrthdalpio, rheoleiddwyr asidedd, gwrthocsidyddion (nad ydynt yn destun y lefel uchaf a ganiateir), sylweddau silwair, annatureiddwyr, sylweddau i reoli halogiad radioniwclid, a lliwiau (ac eithrio carotenoidau a santhoffyl).
  • Gweithgynhyrchwyr ychwanegion bwyd anifeiliaid sy'n cynhyrchu ychwanegion technolegol neu synhwyraidd. Busnesau sy'n gwerthu (ond nid yn gweithgynhyrchu) ychwanegion bwyd anifeiliaid technolegol neu synhwyraidd.

Gweithgynhyrchu a/neu roi rhag-gymysgeddau ar y farchnad – ac eithrio'r rheiny y mae gofyn eu cymeradwyo (R2)

  • Mae hyn yn cynnwys rhag-gymysgeddau sy'n cynnwys unrhyw ychwanegion bwyd anifeiliaid ac eithrio fitaminau A a D, copr a seleniwm.
  • Busnesau bwyd anifeiliaid sy'n cynhyrchu neu'n gwerthu rhag-gymysgeddau, ac eithrio'r rheiny sy'n cynnwys fitaminau A a D, copr a seleniwm. Busnesau sy'n gwerthu (ond nid yn gweithgynhyrchu) rhag-gymysgeddau o'r fath.

Gweithgynhyrchu a/neu roi bioproteinau ar y farchnad nad oes gofyn eu cymeradwyo (R3)

  • Mae hyn yn cynnwys halwynau amoniwm, a rhai burumau marw penodol sy'n tyfu ar swbstradau sy'n dod o anifeiliaid/llysiau.
  • Busnesau sy'n gweithgynhyrchu ac yn gwerthu cynhyrchion o'r fath; a busnesau nad ydynt yn gweithgynhyrchu ond yn prynu ac yn gwerthu cynhyrchion o'r fath.

Gweithgynhyrchu bwydydd anifeiliaid cyfansawdd – ac eithrio'r rheiny y mae gofyn eu cymeradwyo (R4)

  • Mae hyn yn cynnwys gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid cyflawn a chyflenwol, gyda neu heb ychwanegion.
  • Busnesau sy'n gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid cyflawn a chyflenwol, gyda neu heb ychwanegion.

Rhoi bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar y farchnad (R5)

Sefydliadau sy'n prynu a gwerthu bwyd anifeiliaid cyfansawdd, ond nid ydynt yn gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid o'r fath. Mae hyn yn cynnwys busnesau nad ydynt yn cadw unrhyw fwyd anifeiliaid (er enghraifft mewnforwyr).

Gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes (R6)

  • Mae hyn yn cynnwys gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid cyflawn a chyflenwol, gyda neu heb ychwanegion.
  • Busnesau gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes sy'n gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid cyflawn a chyflenwol, gyda neu heb ychwanegion.

Gweithgynhyrchu deunyddiau bwyd anifeiliaid a/neu eu rhoi ar y farchnad (R7)

  • Mae deunyddiau bwyd anifeiliaid yn gynhyrchion y gellir eu bwydo wrth eu hunain i anifeiliaid, neu eu defnyddio fel cynhwysion fel rhan o fwyd anifeiliaid cyflenwol.
  • Busnesau sy'n cynhyrchu neu weithgynhyrchu deunyddiau cynhwysion unigol (er enghraifft grawnfwyd neu gynhyrchion yn seiliedig ar rawnfwyd, olewau a brasterau). Gweithgynhyrchwyr bwyd a changhennau archfarchnadoedd sy'n ymwneud â throsglwyddo bwydydd dros ben (er enghraifft cynhyrchion becws sydd wedi mynd heibio'r dyddiad defnyddio erbyn) i'r gadwyn bwyd anifeiliaid. Sylwch: nid yw'r categori hwn yn cynnwys bragwyr, distyllwyr a gweithgynhyrchwyr bwyd sy'n gwerthu cydgynhyrchion i'r gadwyn fwyd anifeiliaid – gweler cod gweithgarwch R12.

Cludo bwyd anifeiliaid a chynhyrchion bwyd anifeiliaid (R8) 

  • Mae cludo cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid gan gerbydau'r gweithgynhyrchwr ei hun yn dod o dan gymeradwyaeth/cofrestriad safle’r gweithgynhychwr.
  • Safleoedd busnesau sy'n cludo deunyddiau bwyd anifeiliaid, bwyd anifeiliaid cyfansawdd, ychwanegion bwyd anifeiliaid a rhag-gymysgeddau.

Storio bwyd anifeiliaid a chynhyrchion bwyd anifeiliaid (R9)

  • Mae hyn yn cynnwys safleoedd nad ydynt wedi'u cynnwys gan weithgarwch cymeradwyo/cofrestru arall mewn perthynas â gweithgynhyrchu neu roi'r cynhyrchion dan sylw ar y farchnad. Nid yw'n cynnwys cyfleusterau storio ar safle gweithgynhyrchwr neu gludwr.
  • Safleoedd storio bwyd anifeiliaid.

Busnesau bwyd a busnesau nad ydynt yn rhai bwyd sy'n gwerthu cydgynhyrchion a fydd yn cael ei defnyddio fel deunyddiau bwyd anifeiliaid (R12)

  • Mae hyn yn cynnwys gwerthu deunyddiau bwyd anifeiliaid sydd wedi'u cynhyrchu fel cyd-gynhyrchion y broses o weithgynhyrchu cynnyrch bwyd (er enghraifft bran gwenith, grawn bragu, gweddillion ffa soia a hadau rêp sy'n dod o echdynnu olew, pennau moron a chroen tatws).
  • Bragwyr, distyllwyr a gweithgynhyrchwyr biodanwydd, llaeth a bwyd. Sylwch: Nid yw'r categori hwn yn cynnwys gweithgynhyrchwyr bwyd ac archfarchnadoedd sy'n gwerthu bwyd sy'n weddill (er enghraifft. cynhyrchion siop fara sydd heibio'r dyddiad ar ei orau cyn/defnyddio erbyn) i'r gadwn fwyd anifeiliaid – gweler cod gweithgarwch R7.

Ffermydd

Cymysgu bwyd anifeiliaid ar y fferm gydag ychwanegion a rhag-gymysgeddau (R10)

  • Ffermwyr sy'n prynu cynhyrchion ychwanegion a rhag-gymysgeddau (e.e. nad ydynt wedi'u cynnwys mewn bwyd anifeiliaid cyfansawdd) a'u cymysgu nhw â bwyd anifeiliaid (porthiant, silwair, gwywair, grawnfwyd ac ati).
  • Gall ychwanegion a rhag-gymysgeddau gynnwys fitaminau, elfennau hybrin (e.e. copr a sinc) a chyffeithyddion (e.e. asid proprionig).

Cymysgu bwyd anifeiliaid gyda bwyd anifeiliaid cyfansawdd sy'n cynnwys ychwanegion ar y fferm (R11)

Ffermwyr sy'n cymysgu eu bwyd anifeiliaid eu hunain ar y fferm, gan ddefnyddio bwyd anifeiliaid cyfansawdd sy'n cynnwys ychwanegion megis fitaminau ac elfennau hybrin ac ati.

Ffermydd da byw - gan gynnwys ffermydd pysgod - nad ydynt yn cymysgu bwyd anifeiliaid neu'n cymysgu bwyd anifeiliaid heb ychwanegion (R13)

Ffermwyr da byw. Gall hyn gynnwys ffermydd sy'n gwneud silwair neu gwywair (heb ddefnyddio ychwanegion). Gellir hefyd cynnwys ffermydd pysgod yn y gweithgarwch hwn.

Ffermydd âr sy'n tyfu neu werthu cnydau fel bwyd anifeiliaid (R14) 

Ffermydd âr fel y rheiny sy'n gwerthu grawnfwyd, gwenith, haidd neu gnydau bwyd e.e. tatws i'w defnyddio fel bwyd anifeiliaid.

Gweithgareddau y mae gofyn eu cymeradwyo

Mae yna ffi ar gyfer sefydliadau sy'n gwneud cais i gael eu cymeradwyo am y tro cyntaf, ac am ddiwygio cymeradwyaeth sy'n bodoli eisoes.

Nodir y darpariaethau ar ffioedd cymeradwyo ar gyfer Cymru yn Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu a Gorfodi) (Cymru) 2015. Mae yna reoliadau cyfatebol ar gyfer Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban. 

Gweithgynhyrchu ychwanegion maeth a/neu eu rhoi ar y farchnad (A1)

  • Mae hyn yn cynnwys fitaminau, pro-fitaminau a sylweddau wedi'u diffinio'n gemegol sy'n cael effaith debyg; cyfansoddion elfennau hybrin; asidau amino, eu halwynau a'u hanalogau; ac wrea a'i ddeilliadau, fel yr awdurdodwyd o dan Reoliad 1831/2003.
  • Gweithgynhyrchwyr ychwanegion bwyd sy'n cynhyrchu ychwanegion maeth. Busnesau sy'n gwerthu (ond nid yn gweithgynhyrchu) ychwanegion o'r fath.

Gweithgynhyrchu a/neu osod ychwanegion swo-technegol ar y farchnad, mae hyn yn cynnwys – ychwanegion sy'n gwella'r broses dreulio, sefydlogwyr fflora'r perfeddyn a sylweddau sy'n effeithio'n ffafriol ar yr amgylchedd (A2)

  • Mae'r rhain yn cynnwys ensymau a micro-organebau.
  • Gweithgynhyrchwyr ychwanegion bwyd sy'n cynhyrchu ychwanegion swo-technegol, fel y nodir yn y golofn sy'n disgrifio gweithgarwch. Busnesau sy'n gwerthu (ond nid yn gweithgynhyrchu) ychwanegion o'r fath.

Gweithgynhyrchu ychwanegion gwrthocsidyddion sydd â lefelau uchaf a ganiateir mewn bwyd anifeiliaid sydd wedi'u nodi yn Rheoliad 1831/2003, a/neu eu rhoi ar y farchnad (A3)

  • Gall hyn gynnwys propyl gallate, butylated hydroxyanisole (BHA), butylated hydroxytoluene (BHT), fel yr awdurdodwyd o dan Reoliad 1831/2003.
  • Gweithgynhyrchwyr ychwanegion bwyd sy'n cynhyrchu ychwanegion gwrthocsidyddion gyda'r lefelau uchaf a ganiateir. Busnesau sy'n gwerthu (ond nid yn gweithgynhyrchu) ychwanegion o'r fath.

Gweithgynhyrchu ychwanegion lliw (cartenoidau a santhoffyl) a/neu eu rhoi ar y farchnad (A4)

  • Mae'r cynhyrchion hyn yn destun uchafswm cyfraddau cynhwysiant a osodir o dan Reoliad 1831/2003.
  • Gweithgynhyrchwyr ychwanegion bwyd sy'n cynhyrchu carotenoidau neu santhoffyl (fel canthacsanin). Busnesau sy'n gwerthu (ond nid yn gweithgynhyrchu) ychwanegion o'r fath.

Gweithgynhyrchu proteinau sy'n dod o ficro-organebau sy'n perthyn i grwpiau o facteria, burum, algâu a ffyngau is, a/neu eu rhoi ar y farchnad (A5)

Yn flaenorol, roedd y sylweddau hyn yn dod o dan Gyfarwyddeb 82/471/EEC ar Gynhyrchion Penodol (Bioproteinau) sydd wedi'i dirymu. Bellach maent yn cael eu dosbarthu fel deunyddiau bwyd, ond mae dal angen cymeradwyo sefydliadau sy'n gweithgynhyrchu neu'n gwerthu cynhyrchion o'r fath.

Gweithgynhyrchu cydgynhyrchion gweithgynhyrchu asidau amino trwy eplesu, a/neu eu rhoi ar y farchnad (A6)

Yn flaenorol, roedd y sylweddau hyn yn dod o dan Gyfarwyddeb 82/471/EEC ar Gynhyrchion Penodol (Bioproteinau) sydd wedi'i dirymu. Bellach maent yn cael eu dosbarthu fel deunyddiau bwyd, ond mae dal angen cymeradwyo sefydliadau sy'n gweithgynhyrchu neu'n gwerthu cynhyrchion o'r fath.

Gweithgynhyrchu rhag-gymysgeddau sy'n cynnwys fitaminau A a D, a/neu eu rhoi ar y farchnad (A7)

  • Mae'r sylweddau hyn yn destun uchafswm cyfraddau cynhwysiant a osodir o dan Reoliad 1831/2003.
  • Gweithgynhyrchwyr sy'n cynhyrchu rhag-gymysgeddau sy'n cynnwys fitaminau A neu D. Busnesau sy'n gwerthu (ond nid yn cynhyrchu) rhag-gymysgeddau sy'n cynnwys fitaminau A neu D.

Gweithgynhyrchu rhag-gymysgeddau sy'n cynnwys copr a seleniwm, a/neu eu rhoi ar y farchnad (A8)

  • Mae'r cynhyrchion hyn yn destun uchafswm cyfraddau cynhwysiant a osodir o dan Reoliad 1831/2003.
  • Gweithgynhyrchwyr ychwanegion bwyd anifeiliaid sy'n cynhyrchu ychwanegion copr neu seleniwm. Busnesau sy'n gwerthu cymysgedd copr neu seleniwm sy'n cynnwys (ond nid yn eu gweithgynhyrchu).

Safleoedd sy'n marchnata, yn cynhyrchu neu’n defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid penodedig (A9 ac A10)

Mae'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD) yn cymeradwyo safleoedd sy'n marchnata, gweithgynhyrchu neu ddefnyddio ychwanegion bwyd penodol. Mae hyn yn cynnwys coccidiostats, histomonostatau a hyrwyddwyr tyfiant nad ydynt yn wrthfiotig.

Gweithgynhyrchu cynhyrchion sy'n dod o olewau llysiau a brasterau wedi'u cymysgu at ddefnydd bwyd anifeiliaid, a'u rhoi ar y farchnad (A11)

Gweithgarwch nad oes angen ei gofrestru nac ei gymeradwyo

Pwysig
Bwydo anifeiliaid nad ydyn nhw'n cael eu cadw i gynhyrchu bwyd - er nad oes angen cofrestru i gyflawni'r gweithgareddau hyn, dylai'r bwyd anifeiliaid a ddefnyddir bob amser fodloni'r gofynion a nodir

Mae rhai mathau o weithgarwch sydd y tu allan i gwmpas y Rheoliad Hylendid Bwyd Anifeiliaid, nad oes angen cofrestru fel busnes bwyd anifeiliaid o'i achos.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cynhyrchu bwyd anifeiliaid domestig yn breifat ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd a gedwir ar gyfer eu cynhyrchu yn y cartref ac ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cael eu cadw ar gyfer cynhyrchu bwyd
  • bwydo anifeiliaid cynhyrchu bwyd a gedwir i’w bwyta yn y cartref
  • bwydo anifeiliaid nad ydyn nhw’n cael eu cadw i gynhyrchu bwyd 
  • cyflenwi symiau bach o gynhyrchion cynhyrchu cynradd yn uniongyrchol i ffermydd lleol i’w defnyddio ar y ffermydd hynny
  • manwerthu bwyd anifeiliaid anwes
  • cynhyrchydd yn cyflenwi symiau bach o gynnyrch cynradd yn uniongyrchol i'r defnyddiwr ei hun neu i sefydliadau manwerthu lleol sy'n cyflenwi'r defnyddiwr ei hun yn uniongyrchol. Nid yw Rheoliad 183/2005 yn diffinio 'symiau bach'.
Bwydo anifeiliaid nad ydyn nhw'n cael eu cadw i gynhyrchu bwyd - er nad oes angen cofrestru i gyflawni'r gweithgareddau hyn, dylai'r bwyd anifeiliaid a ddefnyddir bob amser fodloni'r gofynion a nodir.

Os oes gennych ymholiadau penodol sy'n ymwneud â'ch busnes, dylech gysylltu â'ch swyddfa Safonau Masnach leol neu eich Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd.

Rhoddir esboniad o godau, gweithgareddau a nodiadau canllaw ar gyfer Rheoliad 183/2005 yn yr wybodaeth am ddeddfwriaeth bwyd anifeiliaid.

Rhestr o sefydliadau bwyd anifeiliaid

Polisi Preifatrwydd

Polisi preifatrwydd rhestrau cofrestru a chymeradwyo bwyd anifeiliaid