Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Dechrau busnes cynhyrchu gwin yn y Deyrnas Unedig

Canllawiau i gynhyrchwyr gwin a masnachwyr gwin ar sefydlu busnes gwin.

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer unigolion sydd am sefydlu neu addasu eu busnes gwin. 

Gall hyn gynnwys busnesau sy’n cynhyrchu gwin, fel gwinllannoedd a gwneuthurwyr gwin, yn ogystal â busnesau sy’n ymwneud â masnachu gwin, gan gynnwys mewnforwyr, allforwyr a chyfanwerthwyr.

Mae canllawiau pellach ar gael gan eich arolygydd gwin rhanbarthol.

Sefydlu gwinllan 

Dewis safle gwinllan

Mae dewis safle yn hanfodol i lwyddiant gwinllan. Fe argymhellir yn gryf eich bod yn ymgynghori ag asiantau tir arbenigol, sefydliadau rheoli, neu ymgynghoriaeth gwinwyddaeth arbenigol cyn dechrau arni.

Efallai y bydd angen ymgynghori â'r Awdurdod Parciau Cenedlaethol er mwyn plannu gwinllannoedd mewn lleoliadau gwarchodedig, fel parciau cenedlaethol. Dylid gwneud hyn yn ystod y broses werthuso. 

Caniatâd cynllunio er mwyn sefydlu gwinllan

Mae angen ystyried newid defnydd tir neu adeiladau yn ystod y broses werthuso. Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladau fel gwindai neu gyfleusterau potelu. 

Efallai bod rhai adeiladau, fel ysguboriau ac adeiladau storio offer, wedi'u codi o dan hysbysiadau amaethyddol. Gall hyn gyfyngu ar y gallu i newid eu defnydd. Dylech holi eich awdurdod cynllunio lleol i gael rhagor o wybodaeth. 

Cofrestru gwinllan 

Mae’n ofynnol i bob gwinllan dros 0.1 hectar (tua chwarter erw) fod wedi’i chofrestru gyda ni yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Rhaid i berchnogion gofrestru eu gwinwydd (vines) heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl eu plannu a rhaid iddynt roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau dilynol.

Gallwch gofrestru gwinllan neu windy drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Dewis a defnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion 

Fe argymhellwn, er mwyn sicrhau eich bod yn dewis ac yn defnyddio’r Cynhyrchion Diogelu Planhigion neu gemegion amaethyddol cywir, eich bod yn defnyddio gwasanaethau agronomegydd, ymgynghorydd neu berson sydd â’r cymwysterau cywir. 

Os ydych chi am gyflawni’r gwaith hwn eich hun, bydd angen tystysgrifau cymhwysedd arnoch i ddefnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion gyda chwistrellwr. Rhaid i chi hefyd ymgymryd â hyfforddiant a phasio’r arholiadau Defnyddio Plaladdwyr perthnasol. Yn y Deyrnas Unedig (DU), yr unig gorff sy’n cael ei gydnabod am hyfforddi a phrofi yw Gwasanaethau Seiliedig ar y Tir City & Guilds (NPTC gynt). 

Mae’r Llyfr Gwyrdd a gynhyrchir gan WineGB yn darparu manylion cemegion amaethyddol cymeradwy y gellir eu defnyddio yng ngwinllannoedd y DU. Mae angen aelodaeth WineGB er mwyn gallu gweld y ddogfen hon.

Cofrestru a thrwyddedu ar gyfer busnesau gwin

Rhaid i berchnogion busnesau bwyd, gan gynnwys gwindai, gofrestru fel busnes bwyd gyda’u hawdurdod lleol.

Rydym ni’n argymell bod unrhyw fusnes sy’n mewnforio, yn allforio neu’n cyfanwerthu gwinoedd yn cysylltu â’u harolygydd Safonau Gwin rhanbarthol i gofrestru eu busnes a chael rhif WSB unigryw. 

Trwydded cynhyrchydd gwin

Os ydych chi’n cynhyrchu neu’n bwriadu cynhyrchu gwin i’w werthu, rhaid i chi feddu ar drwydded ecseis. Efallai y bydd gofyn i chi dalu treth alcohol. Gelwir y math o drwydded ecseis sy’n ofynnol yn drwydded cynhyrchydd gwin.

Cynllun Cofrestru ar gyfer Cyfanwerthu Alcohol 

Rhaid i bob cyfanwerthwr alcohol fod wedi’i gofrestru gyda Chyllid a Thollau EF o dan y Cynllun Cofrestru ar gyfer Cyfanwerthu Alcohol (AWRS). Mae’n drosedd cyflenwi alcohol trwy gyfanwerthu heb gofrestru yn gyntaf. Mae hefyd yn drosedd i gwmnïau brynu alcohol gan gyfanwerthwr anghofrestredig.

Trwyddedau alcohol

Nid oes angen trwyddedau alcohol i gyfanwerthu gwin i safle trwyddedig arall neu i fasnachwyr gwin eraill. Rhaid i unrhyw un sy’n gwerthu gwin i’r defnyddiwr “terfynol”, ni waeth beth yw’r swm dan sylw, feddu ar Drwydded Bersonol a rhaid i’r gwin gael ei ddanfon o safle trwyddedig.


Dyfernir Trwyddedau Personol gan awdurdod lleol yr ardal y mae’r gwerthwr yn byw ynddi. Caiff Trwyddedau Safleoedd eu dyfarnu gan yr awdurdod lleol lle mae’r safle wedi’i leoli. Os ydych chi’n dymuno gwerthu gwin yn uniongyrchol i unigolion, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.

Gwerthu ar-lein neu drwy archeb bost

Os ydych chi’n bwriadu gwerthu’ch gwin dros y rhyngrwyd neu drwy archeb bost yn ychwanegol at y Trwyddedau Alcohol, Trwyddedau personol a Thrwyddedau eiddo arferol, bydd angen i chi gydymffurfio â Rheoliadau Masnach Electronig 2002 a chanllawiau gwerthu o bell. Cysylltwch â Swyddog Safonau Masnach eich Awdurdod Lleol i gael rhagor o wybodaeth. 

Cynhyrchu gwin 

Gellir cynhyrchu gwin naill ai yn y winllan neu yn y gwindy. Gall staff y gwindy wneud hyn, neu gellir defnyddio gwneuthurwr gwin contract ar safle gwahanol.

Argymhellir bod pob gwin yn cael ei brofi yn ystod y broses o gynhyrchu gwin, naill ai gan staff y gwindy neu gan labordy a all ddarparu profion dilysadwy. Dylai hyn fod wedi’i gymeradwyo gan UKAS neu gyfwerth.

Os yw’r gwinoedd yn cael eu cynhyrchu fel rhan o gynllun gwin o safon, mae angen dilysu profion yn annibynnol fel rhan o’r broses ymgeisio.

Ym mis Ionawr bob blwyddyn, mae’n ofynnol i gynhyrchwyr gwin gyflwyno Datganiad Cynhyrchu (WSB21 neu WSB21b) ar gyfer gwin a chynhyrchion grawnwin eraill y maent wedi’u cynhyrchu o gynhaeaf y flwyddyn flaenorol.

Mae’r ffurflenni hyn yn nodi lle mae’r grawnwin wedi’u trosi’n win a faint o win sydd wedi’i gynhyrchu yn y DU. Maent hefyd yn rhan o’r llwybr archwilio i gefnogi ceisiadau Gwin o Ansawdd neu Win Rhanbarthol a/neu Ardystiad ar gyfer statws Gwin Amrywiaethol (varietal).

Mae gennym ni ragor o wybodaeth, gan gynnwys dogfennau berthnasol, yn y dudalen ar gynhyrchu gwin.

Dosbarthu gwin

Mae gwin yn cael ei ddosbarthu fel un ai;

  • 'Gwin'
  • 'Gwin gyda Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig' (PGI) er enghraifft Gwin Rhanbarthol 
  • 'Gwin ag Enw Tarddiad Gwarchodedig' (PDO) er enghraifft Gwin o Safon 

Gwin

Gwin yw’r term a ddefnyddir i gyfeirio at y cynnyrch sylfaenol a wneir yn unol â’r rheoliadau gwin, ond nad yw wedi’i asesu na’i ardystio mewn unrhyw ffordd. Rydym ni’n cynghori cynhyrchwyr i gael dadansoddiad ôl-botelu a chadw’r canlyniadau gyda'u cofnodion gwindy at ddibenion diwydrwydd dyladwy (due diligence) ac i gynorthwyo gyda labelu.

Caniateir i gynhyrchwyr ddangos amrywiaeth y grawnwin a/neu’r flwyddyn gynhaeaf (vintage) ar y mathau hyn o winoedd, yn unol â’r rheoliadau.

Cynlluniau Gwin PDO a PGI 

Defnyddir y termau Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO) a Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) i ddisgrifio mathau penodol o fwyd. Mae PDO yn berthnasol i Win o Safon ac mae PGI yn berthnasol i Win Rhanbarthol. 

Defnyddir y termau hyn i ddisgrifio gwinoedd sy'n cael eu cynhyrchu mewn ardaloedd penodol ac sy'n bodloni safonau ansawdd penodol. Mae'r cynlluniau'n cynnwys asesu a dadansoddi'r gwinoedd i sicrhau eu bod yn bodloni’r meini prawf perthnasol.

Gall gwinoedd sy'n pasio'r cynlluniau ddefnyddio'r term gwarchodedig “Cymreig”, “Seisnig”. Gallant hefyd ddangos mathau o winwydd, y cynhaeaf a rhywfaint o wybodaeth ddaearyddol ar y label.

Gellir marchnata gwinoedd fel Gwin Cymreig (Seisnig) o Ansawdd (PDO) neu Win Rhanbarthol Cymreig (Seisnig) (PGI) os ydynt yn bodloni meini prawf dadansoddi a blasu, a bod gwiriadau dilysu o gofnodion gwindy'r cynhyrchydd gan yr Arolygwyr Safonau Gwin yn foddhaol.

Mae manylion gwahanol gynlluniau gwin y DU ar gael ar wefan WineGB

Labelu gwin 

Mae cyfyngiadau a gofynion labelu gwahanol ar wahanol lefelau o win. Mae gennym ni ganllawiau pellach ar labelu gwin, gan gynnwys manylion gofynion labelu alergenau.

Gellir gwirio dyluniadau labeli gyda Safonau Gwin yr ASB i sicrhau cydymffurfiaeth reoliadol. Mae canllawiau pellach ar ofynion labelu ar gael gan eich arolygydd gwin rhanbarthol.