Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Deunyddiau a addaswyd yn enetig (GM) mewn bwyd anifeiliaid

Meini prawf cyfreithiol y mae'n rhaid i gynhyrchion bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (GM) eu bodloni er mwyn cael eu marchnata yn y Deyrnas Unedig (DU).

Awdurdodi bwyd anifeiliaid GMO

Wrth ymdrin â chynhyrchion a addaswyd yn enetig (GM) neu gynnyrch sy'n dod o ffynonellau GM i'w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r broses asesu ac awdurdodi.

Cyn y gellir marchnata bwyd neu gynnyrch bwyd anifeiliaid organeb GM (GMO) ym Mhrydain Fawr, mae’n rhaid iddo fod wedi’i awdurdodi o dan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gymathwyd ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig.

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses awdurdodi a rhestr o GMOs wedi'u hawdurdodi, ar gyfer GMOs yn ein canllawiau ar gynhyrchion wedi’u rheoleiddio

Mae bwyd anifeiliaid GM sy'n annhebygol iawn o gynnwys GMOs byw, yn cael ei dreulio gan anifeiliaid yn yr un ffordd â bwyd anifeiliaid arferol. Caiff bwyd o anifeiliaid sy'n cael eu bwydo â chnydau GM awdurdodedig ei ystyried i fod yr un mor ddiogel â bwyd o anifeiliaid sy’n cael eu bwydo â chnydau nad ydynt yn rhai GM.

Labelu GM mewn bwyd anifeiliaid

Mae'n rhaid i ddeunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd sy'n cynnwys deunyddiau GM neu sy'n deillio o ddeunyddiau GM nodi hynny ar y label.

Nid yw labelu'n ofynnol ar gyfer llwythi (consignments) bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys olion annisgwyl neu olion nad oes modd eu hosgoi yn dechnegol o ddeunydd GM – sy'n cynnwys llai na 0.9% o amrywiaethau GM cymeradwy.

Nwyddau GM

Mae nifer fawr o blanhigion GM nad ydynt wedi'u hawdurdodi i'w defnyddio ym Mhrydain Fawr, sydd wedi'u cymeradwyo i'w tyfu mewn rhannau eraill o'r byd. Mae hyn yn cynnwys amrywiaethau o:

  • gotwm
  • indrawn (maize)
  • olew hadau rêp
  • reis
  • ffa soia

Mae diwydiant bwyd anifeiliaid y DU yn mewnforio mwy na 70% o'r indrawn, y soia a'r hadau rêp sydd ei angen arno bob blwyddyn. Caiff lefelau sylweddol o indrawn, ar ffurf grawn distyllu sych a bwyd anifeiliaid corn glwten, eu mewnforio o Unol Daleithiau America, a bydd llawer o hwn yn GM. Mae'r Unol Daleithiau hefyd yn cyflenwi'r DU â betys siwgr.

Ni chaiff cnydau GM a chnydau nad ydynt yn GM eu cadw ar wahân yn rheolaidd ar ôl eu cynaeafu ac wrth eu cludo, eu storio a'u defnyddio gan wledydd sy'n allforio nwyddau, ond gellir gwneud hyn am gost ychwanegol. Bydd y pris ychwanegol a delir yn amrywio gan ddibynnu ar gyflwr marchnadoedd y nwyddau a natur y galw am y cynhyrchion terfynol. Mae hyn yn cynnwys llaeth, cig a wyau i'w bwyta gan bobl.

Er mwyn ymdrin â phresenoldeb posibl amrywiaethau anawdurdodedig mewn mewnforion o gnydau i'w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, mae mesur yng nghyfraith yr UE a gymathwyd Rheoliad 619/2011 sy’n gosod lefel goddefiant o 0.1% ar gyfer amrywiaethau penodol lle mae cais awdurdodi dilys wedi'i wneud.

Trosglwyddo deunydd GM o fwyd anifeiliaid

Mae nifer o astudiaethau wedi ystyried y posibilrwydd bod genynnau gweithredol sydd wedi'u trosglwyddo'n naturiol o ddeunyddiau a ddaw o fwyd anifeiliaid GM yn cyrraedd cynhyrchion da byw i'w bwyta gan bobl, er enghraifft llaeth, cig a wyau.

Mae genynnau a phroteinau sy'n weithredol yn fiolegol yn gyfansoddion bwyd a bwyd anifeiliaid cyffredin, ond rydym ni'n gwybod bod proses dreulio anifeiliaid a phobl yn dinistrio eu DNA yn gyflym. Mae'r darnau o DNA sydd yna'n cael eu hamsugno o'r coluddion i'r corff yn broses ffisiolegol arferol.

Yn 2007, cynghorodd Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) bod nifer fawr o astudiaethau arbrofol gyda da byw wedi dangos na chanfuwyd darnau o DNA wedi'u hail-gyfuno'n enetig, na phroteinau sy'n dod o blanhigion GM, mewn meinweoedd, hylifau na chynhyrchion bwytadwy o anifeiliaid fferm – gan gynnwys brwyliaid, gwartheg, moch a soflieir (quails). Ieir yw brwyliaid a gaiff eu magu i gynhyrchu cig. Nid ydynt yn dodwy wyau.

Mae felly'n bosibl y caiff darnau o DNA sy'n dod o ddeunyddiau planhigion GM eu canfod weithiau mewn meinweoedd anifeiliaid. Yn yr un modd, gellir canfod darnau DNA sy'n dod o ddeunyddiau planhigion nad ydynt yn GM yn yr un meinweoedd.
Nododd EFSA nad oes unrhyw dechneg ar gael ar hyn o bryd a fyddai'n golygu bod modd olrhain cynhyrchion anifeiliaid, gan gynnwys cig, llaeth a wyau, mewn ffordd ddilys a dibynadwy pan fo'r anifail cynhyrchu wedi'i fwydo â deiet sy'n cynnwys planhigion GM.

Canllawiau rheoleiddio bwyd a bwyd anifeiliaid GM

Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

 
Resources