Gwneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer sefydliad bwyd neu sefydliad cig gan awdurdod lleol
Sut i wneud cais am gymeradwyaeth gan awdurdod lleol, y broses gymeradwyo a’r hawl i apelio.
Rhestr o sefydliadau a gymeradwyir gan awdurdod lleol.
Os ydych yn meddwl efallai y bydd angen cymeradwyaeth arnoch, bydd angen i chi gysylltu â’ch awdurdod lleol cyn gwneud cais.
Pryd na fydd angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth
Mae rhai eithriadau rhag y gofyniad i gael cymeradwyaeth gan awdurdod lleol, gan gynnwys:
- eich bod ond yn gwerthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd
- eich bod yn fusnes manwerthu sy’n cyflenwi cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i fusnesau eraill (gan gynnwys arlwywyr) ar sail ymylol, lleol a chyfyngedig
Yn ogystal, efallai y bydd eithriad ar gael yn dibynnu i ba raddau y byddwch yn dymuno cyflenwi bwyd sy’n dod o anifeiliaid i fusnesau eraill. Dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol i benderfynu a allwch hawlio eithriad o’r fath rhag yr angen i gael gymeradwyaeth.
Os nad oes angen i fusnes bwyd gael cymeradwyaeth, rhaid i chi gofrestru eich busnes bwyd gyda’r awdurdod lleol o leiaf 28 diwrnod cyn agor. Os ydych chi eisoes yn masnachu a heb gofrestru, mae angen i chi wneud hynny cyn gynted â phosib.
Gwneud cais am gymeradwyaeth gan awdurdod lleol
Gogledd Iwerddon
Asesiad cymeradwyo
I gael cymeradwyaeth, bydd rhaid i sefydliadau fodloni’r holl ofynion perthnasol:
- Rheoliad yr UE a ddargedwir 852/2004 a Rheoliad yr UE a ddargedwir 853/2004 ar gyfer Cymru a Lloegr
- Rheoliad 852/2004 a Rheoliad 853/2004 a gofynion eraill cyfraith bwyd sy’n berthnasol i’r math o fusnes bwyd yng Ngogledd Iwerddon
Ni allwch ddechrau masnachu cyn cael cymeradwyaeth. Ni chewch redeg busnes sydd angen ei gymeradwyo oni bai eich bod wedi cael cymeradwyaeth amodol neu lawn ar gyfer eich gweithgarwch arfaethedig gan yr awdurdod lleol. Os byddwch yn dechrau masnachu heb gymeradwyaeth, mae’n drosedd a all arwain at erlyniad.
Ar ôl eu cymeradwyo, caiff manylion y safle ynghyd â gwybodaeth am y mathau o fwyd a gynhyrchir eu hychwanegu at y rhestr o sefydliadau cymeradwy.
Yr hawl i apelio
Mae gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleol yn gwrthod cymeradwyo eich busnes.
Cewch apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i’r llys perthnasol. Bydd rhaid i chi gyflwyno apêl o fewn mis o’r dyddiad y cawsoch eich hysbysu am y penderfyniad.
Rhestr o sefydliadau bwyd cymeradwy
Hanes diwygio
Published: 19 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2022