Gwneud cais i gymeradwyo sefydliad cig
Sut i wneud cais i gymeradwyo lladd-dy, ffatri dorri, marchnad cyfanwerthu cig a sefydliad trin helgig.
Sefydliadau a gaiff eu cymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)
Mae'r sefydliadau canlynol yn gofyn am reolaeth milfeddygol a rhaid i ni eu cymeradwyo cyn iddynt ddechrau masnachu:
- lladd-dai
- ffatrïoedd torri
- sefydliadau trin helgig
- marchnadoedd cyfanwerthu cig
Bydd angen i chi wneud cais i gymeradwyo sefydliad bwyd os rydych chi'n berchen ar:
- sefydliad cig
- sefydliad pysgod a physgod cregyn
- sefydliad cynnyrch llaeth
- sefydliad cynnyrch anifeiliaid
Gwneud cais am gymeradwyaeth
Ewch ati i lenwi’r ffurflen gais berthnasol a'i hanfon at:
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Tîm Cymeradwyo
Ystafell 112, Kings Pool
Peasholme Green
Caerefrog YO1 7PR
Pan ddaw eich cais i mewn, bydd un o'n swyddogion milfeddygol yn cysylltu â chi o fewn pythefnos i drefnu ymweliad i gynnal asesiad.
England and Wales
England, Northern Ireland and Wales
Gwneud cais am weithgareddau ychwanegol
Os ydych chi'n sefydliad cig sydd wedi'i gymeradwyo eisoes ac yn dymuno gwneud cais am weithgareddau neu rywogaethau ychwanegol, llenwch y ffurflen hon a'i hanfon dros e-bost at approvals@food.gov.uk
England and Wales
Ymweliadau cynghori
Gall darpar weithredwyr busnesau bwyd sy'n dymuno cael cymeradwyaeth ar gyfer eu sefydliadau ofyn am ymweliad cynghori. Nod ymweliadau cynghori yw helpu gweithredwr y busnes bwyd i nodi'r gofynion lles a hylendid a allai fod yn berthnasol i'w gweithgareddau cymeradwyo arfaethedig. Ymhlith y meysydd cyngor mae strwythur adeiladau, offer a chyfleusterau, ystyriaethau hylendid gweithredol a HACCP, arferion da, rheoli cofnodion a gweithdrefnau gweithredu safonol yn ogystal â lles anifeiliaid. Codir ffi benodol am ymweliadau cynghori sy'n daladwy cyn yr ymweliad. Y ffi ar gyfer y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2022 - Mawrth 2023 yw £370.80 gan gynnwys TAW. Ni ellir ad-dalu'r ffi hon o gwbl.
I ofyn am ymweliad cynghori, bydd angen i chi anfon ffurflen gais at approvals@food.gov.uk a nodi bod angen ymweliad cynghori arnoch. Bydd y Tîm Cymeradwyo yn darparu manylion ar sut i dalu.
England and Wales
Cyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn nogfennau canllaw'r ASB
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrthi’n diweddaru’r holl gyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE), er mwyn adlewyrchu'n gywir y gyfraith sydd bellach mewn grym, ym mhob dogfen ganllaw newydd neu ddiwygiedig a gyhoeddir ar ôl i’r Cyfnod Pontio ddod i ben ddiwedd 2020. Mewn rhai amgylchiadau efallai na fydd bob amser yn ymarferol i ni ddiweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE ar yr adeg yr ydym ni’n cyhoeddi canllawiau newydd neu ddiwygiedig.Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau'r UE yn y canllawiau hyn i olygu cyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law). Gallwch chi weld cyfraith yr UE a ddargedwir trwy archif ymadael â’r UE Llywodraeth Ei Mawrhydi. Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth Ymadael â'r UE a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n gywir yng nghyd-destun y DU. Mae deddfwriaeth Ymadael â’r UE i’w gweld ar legislation.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel a restrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol i Ogledd Iwerddon o dan yr amgylchiadau hyn.
Asesiad cymeradwyo
Fel rhan o'r broses gymeradwyo, byddwn ni'n asesu:
- offer a strwythur eich sefydliad
- eich system rheoli diogelwch bwyd, fel rhan o'r broses gymeradwyo.
Nid oes hawl gennych chi weithredu tan i chi gael eich cymeradwyo'n amodol.
Ar ôl eich cymeradwyo, bydd un o'n swyddogion milfeddygol yn cysylltu â chi o fewn tri mis i asesu cynhyrchiad a'ch cydymffurfiaeth â holl ofynion hylendid Rheoliad 852/2004 a Rheoliad 853/2004.
Yr hawl i apelio
Mae gennych chi hawl i apelio yn erbyn ein penderfyniad os caiff eich safle ei wrthod dan Reoliad 12 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd 2009.
Gallwch chi gyflwyno apêl un mis o'r dyddiad y cawsoch wybod am y penderfyniad.
Polisi gweithredu
Mae'r polisi gweithredu yn egluro'r broses ymgeisio a phenderfynu ynghylch cymeradwyo eich busnes. Mae hefyd yn egluro o dan ba amgylchiadau y byddem yn tynnu eich cymeradwyaeth yn ôl.
Mae'r ddogfen hon ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd sydd eisoes â busnes bwyd cymeradwy, ac o bosibl:
- lladd-dai
- ffatrïoedd torri
- sefydliadau trin helgig
- marchnadoedd cyfanwerthu
England, Northern Ireland and Wales
Rhestr o sefydliadau bwyd cymeradwy
Ar ôl cymeradwyo, mae manylion y safle ynghyd â gwybodaeth am y mathau o fwyd a gynhyrchir yn cael eu hychwanegu at restr sefydliadau bwyd cymeradwy y Deyrnas Unedig a sefydliadau bwyd cymeradwy yr Undeb Ewropeaidd.