Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio atchwanegiadau bwyd a bwyd iechyd

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau ar labelu, halogion a beth i gadw llygad arno wrth fewnforio cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid.

Labelu

Mae’r Adran Iechyd yn darparu gwybodaeth am bolisi labelu maeth ar gyfer atchwanegiadau bwyd a honiadau iechyd ar ei gwefan. 

Os honnir bod yr atchwanegiad yn gallu atal, trin neu wella afiechyd mewn pobl neu os oes unrhyw gyfeiriad at nodweddion o'r fath, efallai ei fod wedi'i ddosbarthu fel meddyginiaeth, ac felly dylid cysylltu â'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).

Bwydydd newydd

Yn wahanol i fwydydd eraill, nid oes rhaid dangos effeithiolrwydd atchwanegiadau bwyd cyn eu marchnata, ac nid oes yn rhaid eu cymeradwyo ymlaen llaw oni bai eu bod wedi'u haddasu'n enetig neu eu bod yn 'newydd' (novel).

Mae ‘bwydydd newydd’ yn fwydydd nad oes ganddynt hanes o gael eu bwyta/yfed ym Mhrydain Fawr cyn mis Mai 1997, ac maent yn ddarostyngedig i delerau ac amodau'r Rheoliad Bwydydd Newydd a gymathwyd 2015/2283

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Is-adran Bwydydd Newydd dros e-bost.

Diogelwch cemegol

Halogion

Mae Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Lloegr) 2013 yn darparu ar gyfer deddfu a gorfodi'r gyfraith a gymathwyd (assimilated) ym Mhrydain Fawr sy'n gosod terfynau rheoleiddio ar gyfer halogion mewn bwyd, fel nitrad, mycotocsinau, metelau, 3-MCPD, deuocsinau a hydrocarbonau aromatig polysyclig neu PAHs.

Darllenwch ein canllawiau i fusnesau ar halogion.

Cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid 

Os yw'r atchwanegiadau bwyd neu'r bwyd iechyd sy’n cael ei fewnforio yn cynnwys unrhyw gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid (mae’n bosibl y bydd angen ardystio’r cynnyrch, ymhlith gofynion eraill), mae’n rhaid i’r drydedd wlad a’r sefydliad trydydd gwlad sy’n cynhyrchu’r cynnyrch fod wedi’u rhestru i fewnforio nwyddau o'r fath i Brydain Fawr. Bydd mewnforion o'r fath yn destun gwiriadau milfeddygol ar y pwynt mynediad i Brydain Fawr. Bydd y cysylltiadau canlynol yn gallu rhoi cyngor ar y gwahanol fathau o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid.

Os yw'n bosibl bod y cynnyrch yn cynnwys unrhyw gig, cynhyrchion cig, mêl, llaeth neu gynhyrchion llaeth, wyau neu eu cynhyrchion, cysylltwch â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) trwy eu gwefan. Mae APHA yn Asiantaeth Weithredol sy'n perthyn i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

Rydym ni'n gyfrifol am gapsiwlau gelatin gwag ac atchwanegiadau bwyd mewn capsiwlau gelatin sy'n cael eu mewnforio o drydydd gwledydd.  

Fodd bynnag, os yw'r capsiwl yn cynnwys cynnyrch sy'n dod o anifeiliaid, mae'n bosibl nad yw wedi'i eithrio o'r gofynion mewnforio sy'n berthnasol i gynhyrchion anifeiliaid. Gallai hyn olygu bod angen Trwydded Mewnforio APHA.

Ymhlith enghreifftiau mae atchwanegiadau bwyd penodol sy'n cynnwys:  

  • cynhyrchion llaeth (powdr llaeth wedi'i sychu, maidd (whey) neu lactos)  
  • cynhyrchion wy (powdr wy wedi'i sychu)  
  • cynhyrchion cig (unrhyw feinweoedd anifeiliaid fel chwarennau thymws neu ddeunydd asgwrn wedi'i falu'n fân)  
  • cynhyrchion pysgodfeydd (fel cregyn neu esgyrn wedi'u malu'n fân)  

Mae rheolau mewnforio gwahanol a llymach yn berthnasol i'r mathau hyn o gynhyrchion. 

Mae gennym ni ganllawiau i fusnesau ar fewnforio cynhyrchion pysgodfeydd. Fel arall, ewch i wefan APHA i gael rhagor o wybodaeth.

Mae rheolau mewnforio ar wahân ar gyfer capsiwlau gelatin at ddefnydd fferyllol. I gael gwybodaeth am y rheolau hyn, bydd angen i chi gysylltu â'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).

Mewnforion o wledydd penodol  

Canllawiau ar rai bwydydd neu atchwanegiadau iechyd sydd â gwybodaeth benodol y mae angen i chi ei gwybod os ydych am eu mewnforio.

Semax yn Rwsia

Caiff Semax ei ddefnyddio yn Rwsia fel bwyd maethol sy'n cael ei roi mewn diferion trwyn ar gyfer trin cleifion sy'n dioddef o Glefyd Parkinson, Clefyd Alzheimer, strôc a chyflyrau difrifol eraill. Yn y DU, mae'r MHRA yn ei ystyried i fod yn feddyginiaeth yn hytrach nag yn eitem fwyd. Dim ond os oes Awdurdodiad marchnata wedi'i roi ar ei gyfer yn flaenorol y gellir gwerthu neu gyflenwi Semax yn y DU/Prydain Fawr.

Sialc a chlai calabash plwm

Mae sialc calabash yn cael ei fwyta yng Ngorllewin Affrica, fel ffordd o drin salwch bore mewn menywod beichiog. 

Rydym ni'n cynghori pobl, yn arbennig menywod sy'n feichiog neu'n bwydo ar y fron, i beidio â bwyta sialc calabash gan fod gwaith gwyliadwriaeth yr ASB wedi datgelu lefelau uchel o blwm yn y sialc calabash sy'n amrywio o 8.2 mg/kg i 16.1 mg/kg ac rydym ni'n ystyried lefelau dros 1 mg/kg o blwm yn y cynnyrch hwn i fod yn anaddas i'w fwyta gan bobl.

Rydym ni’n cynghori menywod beichiog a menywod sy'n bwydo ar y fron i beidio â bwyta clai calabash sydd hefyd yn cael ei alw’n 'sikor' neu 'shikor mati' oherwydd gall gynnwys lefelau uchel o gemegau gwenwynig fel plwm ac arsenig a allai niweidio eu babanod. Weithiau mae pobl mewn cymunedau o Asia ac Affrica yn bwyta clai calabash. 

Deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd

I gael gwybodaeth am ddiogelwch deunyddiau ac eitemau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir i becynnu bwyd, cysylltwch â'r Tîm Deunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd dros e-bost. 

Hylendid bwyd 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau cyffredinol am hylendid bwyd, cysylltwch â'r Tîm Polisi Hylendid Bwyd dros e-bost. 

Rhagor o wybodaeth

I gael gwybodaeth am fwyd deietegol, ewch i wefan yr Adran Iechyd. 

Cysylltiadau tîm

Tîm deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd

FoodContactMaterial@food.gov.uk

Polisi hylendid bwyd 

foodhygiene.policy@food.gov.uk

Tîm bwydydd newydd

novelfoods@food.gov.uk