Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio llestri cegin plastig o Tsieina a Hong Kong i Ogledd Iwerddon

Penodol i Ogledd Iwerddon

Sut i fewnforio llestri cegin plastig polyamid a melamin o Tsieina a Hong Kong i Ogledd Iwerddon.

Mae amodau a gweithdrefnau penodol ar gyfer mewnforio llestri cegin plastig polyamid a melamin sy'n dod o Tsieina a Hong Kong neu a anfonir oddi yno i Ogledd Iwerddon a sefydlwyd gan Reoliad y Comisiwn Rhif 284/2011. 

Amodau mewnforio

Er mwyn mewnforio llestri cegin plastig sy'n dod o Tsieina a Hong Kong neu a anfonir oddi yno i Ogledd Iwerddon, bydd angen i chi gyflwyno datganiad ac adroddiad labordy i'r awdurdod cymwys ar gyfer pob llwyth sy'n cadarnhau ei fod yn bodloni'r gofynion sy'n ymwneud â rhyddhau aminau aromatig sylfaenol a fformaldehyd. Mae hyn hefyd yn angenrheidiol os yw'r nwyddau hyn yn cael eu mewnforio i Brydain Fawr ac yna'n cael eu symud i Ogledd Iwerddon. 

Gweithdrefnau mewnforio

Rhaid i chi roi gwybod ymlaen llaw i’r cyngor dosbarth yn y Porthladd o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y dyddiad ac amser amcangyfrifedig y bydd llwythi ffisegol yn cyrraedd. Yna mae'n rhaid i'r llwythi llestri cegin sy'n deillio o Tsieina a Hong Kong, neu a anfonir oddi yno, neu a gaiff eu trosglwyddo trwy Brydain Fawr, gyrraedd Gogledd Iwerddon trwy Borthladd sydd wedi’i gymeradwyo i dderbyn y nwyddau hyn.

Dylech e-bostio'r rhag-hysbysiad i'r cyngor dosbarth ar y pwynt mynediad lle bydd eich llwyth yn cyrraedd Gogledd Iwerddon. Y pwyntiau mynediad cymeradwy yng Ngogledd Iwerddon yw: 

Mae'r ffurflen ddatganiad y mae'n rhaid ei hanfon trwy e-bost at gyngor dosbarth y pwynt mynediad perthnasol i'w gweld yn Atodiad Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 284/2011.

Bydd pob llwyth yn destun gwiriad dogfennol. Mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod 10% o lwythi hefyd yn destun gwiriad hunaniaeth a gwiriad ffisegol cyfun, sy'n cynnwys proses samplu.

Yn ystod y broses samplu bydd y llwyth yn cael ei ddal o dan reolaeth tollau, hyd nes y ceir canlyniad labordy. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi canllawiau ar fewnforio llestri cegin plastig o Tsieina a Hong Kong