Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Bridio manwl

Beth yw bridio manwl, a’r ffyrdd posib o’i ddefnyddio.

Beth yw bridio manwl?

Mae bridio manwl yn ffordd o newid DNA planhigion neu anifeiliaid mewn ffordd fanwl gywir, gan ddefnyddio technegau fel golygu genynnau (gene-editing). Mae golygu genynnau yn defnyddio ensymau arbenigol i dorri DNA mewn mannau penodol. Rhaid i’r newidiadau hyn fod yn rhai y gellid bod wedi’u gwneud trwy ddefnyddio dulliau traddodiadol ar gyfer bridio planhigion neu anifeiliaid. 

O’r herwydd, mae bridio manwl yn wahanol i addasu genetig (genetic modification). Addasu genetig yw pan fydd genynnau o un rhywogaeth o blanhigyn neu anifail yn cael eu mewnosod i rywogaeth arall nad yw’n gysylltiedig mewn ffordd nad fyddai’n bosib trwy ddulliau bridio traddodiadol.

Mae nifer o ffyrdd ymarferol o ddefnyddio bridio manwl ar gyfer cynhyrchu bwyd, trwy gyflwyno nodweddion dymunol mewn cnydau a da byw a allai gymryd blynyddoedd lawer i’w datblygu fel arall. Gallai hyn gynnwys gwella cynnwys maethol planhigion, neu wella gallu cnydau i wrthsefyll afiechydon.

Cynhyrchion a ddatblygir trwy fridio manwl yn y DU

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gnydau nac anifeiliaid sy’n deillio o dechnolegau bridio manwl wedi’u hawdurdodi i’w gwerthu fel bwyd neu fwyd anifeiliaid yn y DU.

Daeth y Ddeddf Bridio Manwl yn gyfraith yn Lloegr ym mis Mawrth 2023. Deddf sy’n gymwys i Loegr yn unig yw hon, sy’n golygu ei bod wedi darparu categori newydd ar gyfer organebau wedi’u bridio’n fanwl i’w hawdurdodi yn Lloegr. Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, bydd yr organebau hyn yn parhau i gael eu dosbarthu fel organebau a addaswyd yn enetig.

Mae’r Ddeddf hefyd yn creu pwerau i weinidogion nodi sut y dylid rheoleiddio planhigion ac anifeiliaid wedi’u bridio’n fanwl i’w defnyddio mewn bwyd a bwyd anifeiliaid yn Lloegr.

Ein rôl ni

O ganlyniad i’r newid hwn mewn deddfwriaeth, mae’r ASB yn datblygu fframwaith awdurdodi newydd i reoleiddio’r defnydd o organebau wedi’u bridio’n fanwl mewn cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid yn Lloegr.

Bydd y fframwaith hwn yn ystyried unrhyw risg y mae’r organebau hyn yn ei pheri fesul achos, a bydd yn sicrhau bod yr holl risgiau diogelwch bwyd cysylltiedig yn cael eu hasesu, eu rheoli’n gymesur a’u cyflwyno i weinidogion er mwyn llywio eu penderfyniad ynghylch a yw’r organeb yn ddiogel i gael ei farchnata i’w ddefnyddio mewn bwyd a bwyd anifeiliaid. 

Mae hyn yn golygu y gallwn fod yn hyderus y bydd yr holl organebau wedi’u bridio’n fanwl yn ddiogel i bobl eu bwyta. 

Bydd cynhyrchion wedi’u bridio’n fanwl yn cael eu hawdurdodi dim ond os bernir: 

  • nad ydynt yn peryglu iechyd
  • nad ydynt yn camarwain defnyddwyr
  • nad oes ganddynt werth maethol is na’r bwydydd cyfatebol sydd wedi’u bridio’n draddodiadol

Beth fydd yn digwydd nesaf

Rydym wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion am fframwaith newydd yn Lloegr ar gyfer rheoleiddio organebau wedi’u bridio’n fanwl a ddefnyddir mewn bwyd a bwyd anifeiliaid ym mis Tachwedd 2023. Mae angen cyflwyno ymatebion erbyn 8 Ionawr 2024.

Cymru

Mae’r Bil yn gymwys i Loegr yn unig.  Fodd bynnag, o dan Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020 (UKIMA), caiff bwyd/bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys Organebau wedi’u Bridio’n Fanwl a’u hawdurdodi yn Lloegr eu gwerthu yng Nghymru. Nid yw UKIMA yn gymwys i brosesu ar ôl gwerthu. Byddai unrhyw fwyd/bwyd anifeiliaid wedi’i bridio’n fanwl a werthir yng Nghymru o dan egwyddorion mynediad i’r farchnad UKIMA, pe bai’n cael eu prosesu ymhellach yno, yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth sy’n rheoleiddio Organebau a Addaswyd yn Enetig (GMOs).