Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Rhoi gwybod am adwaith alergedd neu anoddefiad bwyd

Adnodd i roi gwybod am adwaith neu ‘achos a fu’n agos at ddigwydd’ (near miss) yr ydych chi, neu rywun rydych chi'n gofalu amdano, wedi'i gael oherwydd alergedd bwyd, anoddefiad bwyd neu glefyd seliag.

Diolch am eich diddordeb yn y prosiect hwn. Mae cyfnod alffa pedwar mis yr adnodd ‘Rhoi gwybod am adwaith alergedd bwyd, anoddefiad bwyd, neu glefyd seliag’ wedi dod i ben erbyn hyn ac rydym ni wedi’i dynnu oddi ar ein gwefan. 

Roedd yr adnodd adrodd yn brawf cysyniad ac roedd ar waith rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Chwefror 2022. Rydym bellach yn adolygu’r wybodaeth a ddaeth i law a byddwn yn penderfynu ar ddyfodol yr adnodd hwn a’n camau nesaf dros y misoedd nesaf. Byddwn ni’n diweddaru’r dudalen hon gydag unrhyw wybodaeth.

Os ydych chi wedi profi adwaith alergaidd, anoddefiad bwyd, adwaith seliag neu “achos a fu’n agos at ddigwydd” (near miss), cysylltwch â’r busnes bwyd yn y lle cyntaf i roi gwybod iddynt am eich profiad. Os ydych chi o’r farn bod angen cymryd camau pellach, efallai yr hoffech chi gysylltu â thîm diogelwch bwyd yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol.

I gael rhagor o wybodaeth am orsensitifrwydd i fwyd, gweler ein canllawiau ar alergenau.