Pan fyddwch chi'n dechrau busnes bwyd newydd, neu’n cymryd yr awenau mewn busnes sy’n bodoli eisoes, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda'ch awdurdod lleol. Dylech wneud hyn o leiaf 28 diwrnod cyn i chi ddechrau masnachu.
Mae angen cofrestru ble bynnag y bo busnes yn gweithredu yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn cynnwys busnesau bwyd sy’n masnachu o safle sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid, o gartref, o safle symudol neu safle dros dro, fel stondin neu fan, neu drwy werthu ar-lein neu o bell.
Mae cofrestru eich busnes bwyd yn rhad ac am ddim, ac ni ellir ei wrthod. Os ydych chi eisoes yn masnachu ond heb gofrestru eto, bydd angen i chi gofrestru cyn gynted â phosib, gan fod hwn yn ofyniad cyfreithiol.
Dylech chi gofrestru eich busnes bwyd ym mhorth cofrestru busnesau bwyd GOV.UK.
Gair i gall

Cefnogaeth i fusnesau bwyd newydd
Bydd rhaid i’r rheiny sy’n bwriadu dechrau busnes bwyd, neu newid gweithrediadau busnes, ystyried yn gyntaf nifer o gamau i sicrhau bod safonau hylendid a diogelwch bwyd yn cael eu bodloni.
Mae gennym ni ganllawiau i helpu busnesau bwyd trwy’r broses hon, gyda gwybodaeth am sut i wneud y canlynol:
- sefydlu busnes bwyd a dewis safle priodol
- dechrau gweithredu o gartref
- gwerthu bwyd ar-lein
- newid neu arallgyfeirio modelau busnes.