Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cysylltu â ni

Rhoi gwybod am broblem gyda bwyd, defnyddio ein gwasanaethau neu ddod o hyd i'n manylion cyswllt.

Sut i roi gwybod am broblem diogelwch neu hylendid bwyd

Os bydd gennych broblem gyda bwyd mewn bwyty neu siop fwyd, pryder am eitem a brynwyd neu broblem gyda bwyd wedi'i archebu ar-lein, gallwch roi gwybod i’r awdurdod lleol lle mae’r busnes wedi’i leoli. Bydd tîm diogelwch bwyd yr awdurdod lleol yn ystyried y gŵyn ac yn penderfynu ar y camau gweithredu mwyaf priodol.

Ewch ati i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i ddod o hyd i fanylion cyswllt y tîm diogelwch bwyd. Bydd gennych opsiwn i naill ai e-bostio'r tîm neu ddefnyddio gwefan yr awdurdod lleol i roi gwybod am y broblem.

Yr hyn y gallwch chi roi gwybod amdano

Gallwch chi roi gwybod am y canlynol:

  • achosion tybiedig o wenwyn bwyd
  • darn estron yn eich bwyd
  • safleoedd budr
  • hylendid dwylo gwael
  • dulliau trin bwyd gwael
  • bwyd sydd wedi prydu neu sy’n cynnwys llwydni
  • bwyd sy’n cael ei werthu ar ôl ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’
  • gwybodaeth am alergenau sy’n anghywir neu ddim ar gael
Pwysig

Dylid anfon cwynion am fwyd o ansawdd gwael a gwasanaeth cwsmeriaid gwael yn uniongyrchol at y busnes neu’r platfform archebu. Mae hyn yn cynnwys:

  • problemau gyda thaliadau ac ad-daliadau
  • bwyd tecawê sy’n hwyr, yn anghywir neu sydd ar goll

I gael cyngor am eich hawliau fel defnyddiwr, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth.

Sicrhewch eich bod yn nodi cod post llawn yn y DU ar gyfer y busnes bwyd rydych am roi gwybod amdano, er enghraifft SW1H9EX.

Ni fydd cyfeiriadau neu godau post anghyflawn yn cael eu cydnabod.

 

Dewch o hyd i’ch tîm diogelwch bwyd

Nodwch god post i chwilio am y tîm diogelwch bwyd yn yr ardal.