Canllawiau ar brofi llaeth ar gyfer gweddillion gwrthfiotig
Mae'r canllawiau diweddaraf ar brofi llaeth ar gyfer gweddillion gwrthfiotig wedi'u cyhoeddi ar ôl adolygiad rheolaidd.
Roedd yr adolygiad yn ystyried argymhellion a wnaed yn dilyn archwiliad Swyddfa Bwyd a Milfeddygaeth y Comisiwn Ewropeaidd o reolaethau swyddogol sy'n gysylltiedig â'r sector llaeth a chynnyrch llaeth. Cynhaliwyd yr archwiliad ym mis Ebrill 2013.
Crynodeb o newidiadau
Bwriedir y canllawiau ar gyfer pawb â diddordeb ar hyd y gadwyn cynhyrchu llaeth, gan gynnwys ffermwyr, prynwyr a phroseswyr llaeth a'r awdurdodau gorfodi. Mae'r canllawiau yn rhoi cyngor a fydd yn helpu i gydymffurfio â'r Rheoliadau mewn perthynas â gweddillion gwrthfiotig mewn llaeth a chynhyrchion llaeth.
Dyma'r prif newidiadau i'r canllawiau:
- diweddaru cyfeiriadau'r Rheoliadau lle mae'r rhain wedi'u newid neu eu diweddaru
- nodi 'digwyddiadau niweidiol', e.e. methu profion gwrthfiotig ar ôl y cyfnod tynnu yn ôl
- egluro'r angen am brofi llaeth o danceri ffordd cyn defnyddio llaeth mewn sefydliadau prosesu
- egluro'r hyn y mae angen i weithredwyr busnesau bwyd roi gwybod i'w Awdurdod Cymwys amdano, e.e. lle mae profion llaeth a methiannau'n digwydd
- egluro amlder samplu a phrofi a'r angen i benderfynu amlder samplu ar sail risg
England, Northern Ireland and Wales