Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Llythyr ymgynghori â rhanddeiliaid ar gyfer comisiynu Arolwg Manwerthu Acrylamid a Ffwranau’r DU

Rydym ni’n gwahodd eich sylwadau ar ddyluniad yr arolwg a sut y gellid defnyddio'r data ar ddigwyddiadau i nodi mesurau lliniaru effeithiol a chamau i leihau lefelau acrylamid a ffwranau ymhellach.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 September 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 September 2020

Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn

Mae cyfathrebu canlyniadau monitro acrylamid yn flynyddol wedi bod yn ofyniad gan y Comisiwn Ewropeaidd ers blynyddoedd lawer. Sefydlodd y rheoliad acrylamid diweddaraf, sef Rheoliad y Comisiwn Ewropeaidd (UE) 2017/2158, fesurau lliniaru a 'lefelau meincnod' ar gyfer lleihau presenoldeb acrylamid mewn bwyd. Daeth i rym ar 11 Ebrill 2018. Mae'n ofynnol i aelod-wladwriaethau a gweithredwyr busnesau bwyd fonitro lefelau acrylamid yn y bwydydd a restrir yn Atodiad III y rheoliad. Hefyd, cyhoeddwyd Argymhelliad y Comisiwn (UE) 2019/1888 ar gyfer monitro presenoldeb acrylamid mewn rhai bwydydd ym mis Tachwedd 2019. Roedd yn awgrymu rhestr nad yw'n gynhwysfawr o gynhyrchion i'w monitro. 

Yn flaenorol, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi ariannu'r gwaith o fonitro’n barhaus lefelau acrylamid a ffwranau mewn bwydydd manwerthu yn y Deyrnas Unedig (DU). Cafodd y canlyniadau o'r cyfnod arolygu diwethaf, rhwng 2014 a 2018, eu cyhoeddi’n ddiweddar. 

Mae arolwg newydd yn cael ei gomisiynu i fonitro lefelau acrylamid a ffwranau mewn bwydydd manwerthu yn y DU. Bydd yr arolwg hefyd yn casglu data ar ddigwyddiadau i roi cipolwg o gyfraddau cydymffurfio’r DU â'r lefelau meincnod a nodir yn Rheoliad y Comisiwn Ewropeaidd (UE) 2017/2158 ac i sicrhau bod digon o ddata i lywio unrhyw fesurau rheoleiddio yn y dyfodol.

Rydym ni’n gwahodd eich sylwadau ar ddyluniad yr arolwg a sut y gellid defnyddio'r data ar ddigwyddiadau i nodi mesurau lliniaru effeithiol a chamau i leihau lefelau acrylamid a ffwranau ymhellach.

Dylid anfon yr holl sylwadau at izaak.fryerkanssen@food.gov.uk

Gofynnir yn garedig am ymatebion erbyn 13 Mawrth 2020 neu'n gynharach os yw’n bosibl.

Cwmpas yr arolwg arfaethedig

Cesglir samplau o ystod eang o siopau manwerthu gan gynnwys archfarchnadoedd mawr a llai a manwerthwyr annibynnol yn y DU. Dylai'r cynnyrch sy’n cael ei samplu gynnwys:

  • Creision, byrbrydau, cracyrs a chynhyrchion tatws eraill o does tatws;
  • Bara;
  • Grawnfwydydd brecwast (ac eithrio uwd);
  • Cynhyrchion bach o’r becws, e.e. croissants, toesenni, crempogau, churros, craceri, bisgedi, ac ati (yn y categori hwn, mae cracer yn cyfeirio at fisged sych – cynnyrch â blawd grawnfwyd ynddo sydd wedi'i bobi);
  • Coffi, coffi rhost; coffi toddadwy sydyn;
  • Amnewidion coffi heb eu seilio ar sicori na grawnfwydydd;
  • Bwyd babi;
  • Grawnfwyd wedi'i brosesu ar gyfer babanod a phlant ifanc;
  • Sudd ffrwythau;
  • Cynhyrchion eraill, e.e. cnau wedi'u rhostio, hadau olew wedi'u rhostio, ffrwythau sych, ffa coco wedi'u rhostio a chynhyrchion sy'n deillio ohonynt, olewydd mewn dŵr hallt, melysion (e.e. cyffug, caramel, nyget [nougat]), creision llysiau/sglodion Ffrengig/sglodion, byrbrydau ar gyfer babanod a phlant ifanc

O'i gymharu ag arolwg blaenorol yr ASB o Acrylamid a Ffwranau ym Mwydydd Manwerthu'r DU, bwriedir i'r arolwg arfaethedig gael ei dargedu'n fwy i sicrhau bod set ddata'r DU yn gyfredol a bod digon o ddata i lywio unrhyw fesurau rheoleiddio yn y dyfodol.

Rhaid i'r fanyleb gynnwys

  • Bydd angen casglu a dadansoddi oddeutu 130 o samplau o gynhyrchion manwerthu'r DU ar gyfer acrylamid a 60 ar gyfer ffwranau, yn ôl cynllun samplu a ddarparwyd gan yr ASB. Bydd y dadansoddiad ar gyfer ffwranau yn cynnwys ffwran 2-methyl, ffwran 3-methyl ac, os yw galluoedd dadansoddol yn caniatáu, 2,5-dimethylffwran, 2-ethylffwran a 2-pentylffwran;
  • Wrth baratoi a dadansoddi samplau, rhaid dilyn gweithdrefnau yn unol â chyfarwyddebau'r Undeb Ewropeaidd (UE) neu gyfwerth yn y DU;
  • Bydd manylion llawn pob sampl yn cael eu cofnodi mewn cronfa ddata ac yn cael eu hadrodd yn flynyddol i'r ASB ynghyd â methodolegau, canlyniadau a dehongliad llawn gan gynnwys tueddiadau ar ffurf adroddiadau blynyddol ac adroddiad terfynol ar ddiwedd cyfnod yr arolwg;
  • Darperir canlyniadau dros dro i'r ASB pan fyddant ar gael er mwyn gallu hysbysu perchnogion brand am unrhyw gynhyrchion sydd â lefelau uwch na’r lefelau meincnod;

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.