Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Newidiadau Arfaethedig i Farciau Iechyd ac Adnabod y Deyrnas Unedig

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn croesawu safbwyntiau rhanddeiliaid ar newidiadau arfaethedig i'r marciau iechyd ac adnabod y mae'n rhaid eu rhoi ar gynhyrchion bwyd sy'n dod o anifeiliaid i gadarnhau eu bod wedi cael eu harolygu a'u bod yn addas i'w bwyta gan bobl.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 September 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 September 2018

Crynodeb o ymatebion

Rhagor am yr ymgynghoriad hwn

Mae'r ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i awdurdodau lleol, y diwydiant bwyd, a safleoedd cymeradwy yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Beth yw testun yr ymgynghoriad hwn?

Mae manylion perthynas y Deyrnas Unedig (DU) â'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn y dyfodol yn parhau i fod yn destun trafodaeth. Fodd bynnag, mae'r ASB yn ymgynghori â rhanddeiliaid ar nifer o faterion manwl lle mae'n glir, waeth beth yw canlyniadau’r trafodaethau hynny, bydd gofyn newid arferion busnesau. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â newidiadau i farciau iechyd ac adnabod ar gynhyrchion bwyd penodol.

Diben yr ymgynghoriad

Pan fydd y DU yn ymadael â’r UE, ni fydd caniatâd bellach i’r llythrennau 'EU' neu 'EC' ymddangos o fewn y marciau. Bydd y newid hwn yn effeithio ar bob sefydliad cymeradwy. Er mwyn darparu ar gyfer y newid hwn, mae'r ASB yn bwriadu diwygio'r marc iechyd ac adnabod presennol trwy gael gwared ar yr 'EU' neu 'EC'.

Bydd dimensiynau a ffurf y marciau iechyd ac adnabod presennol yn aros yr un fath, gan gynnwys y talfyriad ‘UK’ sy'n cynrychioli Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd yn parhau i fod yn un marc sy'n cynnwys rhif cymeradwyo'r sefydliad, ni fydd y rhif yn newid chwaith. 

Bydd dimensiynau a ffurf y marciau iechyd a nodi presennol yn aros yr un fath, gan gynnwys y talfyriad 'DU' sy'n cynrychioli Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd yn parhau i fod yn un marc sy'n ymgorffori rhif cymeradwyo'r sefydliad, a fydd hefyd yn aros heb ei newid.

Bydd y newid hwn yn sicrhau bod cynhyrchion y DU yn parhau i arddangos marc priodol sy'n dangos yn glir bod y cynnyrch wedi bod yn destun y gwiriadau iechyd a lles llym a fydd yn parhau ar ôl i'r DU adael yr UE.

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau a gwybodaeth bellach gan y diwydiant ar y newidiadau arfaethedig hyn a'u heffaith bosibl.

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.