Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Rheolaethau manylach ar gynhyrchu llaeth amrwd (Cymru a Lloegr)

Penodol i Gymru a Lloegr

Dyma groesawu barn rhanddeiliaid ar ein rheolaethau manylach arfaethedig ar gynhyrchu llaeth amrwd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 January 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 January 2020

Crynodeb o ymatebion

Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i:

  • gynhyrchwyr llaeth amrwd
  • proseswyr llaeth amrwd
  • sefydliadau masnach llaeth
  • defnyddwyr llaeth amrwd
  • awdurdodau gorfodi

Pwnc ymgynghori

Rheolaethau manylach ar gynhyrchu Llaeth Yfed Amrwd i'w yfed/bwyta gan bobl.

Diben yr ymgynghoriad

Rhoi cyfle i bawb sydd â diddordeb roi sylwadau ac adborth ar y newidiadau arfaethedig i gyflwyno rheolaeth swyddogol Llaeth Yfed Amrwd ac effaith gysylltiedig y newidiadau.

Mae'r ymgynghoriad wedi'i ddatblygu gyda mewnbwn gan weithgorau â nifer o randdeiliaid gwahanol. Rydym ni wedi penderfynu bod ymgynghoriad 12 wythnos o hyd yn gymesur i geisio barn rhanddeiliaid ehangach.

 

Pecyn ymgynghori 

Sylwadau a barn 

Dylid anfon ymatebion i'r ymgynghoriad hwn at:

Cangen Polisi Hylendid Bwyd
Asiantaeth Safonau Bwyd
Llawr 7
Clive House
70 Petty France
San Steffan
Llundain
SW1H 9EX

E-bost: foodhygiene.policy@food.gov.uk

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.