Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Rheoleiddio Ein Dyfodol – Newidiadau i God Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru)

Penodol i Gymru

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn croesawu barn rhanddeiliaid ar y diwygiadau arfaethedig i God Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru)

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 September 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 September 2018

Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn

Mae'r ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i awdurdodau lleol, busnesau bwyd a defnyddwyr yng Nghymru

Pwnc ymgynghori

Nod rhaglen Rheoleiddio Ein Dyfodol (ROF) yw moderneiddio sut mae busnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu rheoleiddio i sicrhau bod ein bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label.

Mae'r ASB yn bwriadu adolygu Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Cymru (y Cod) er mwyn cyflawni'r canlynol:

  • newid y broses o gofrestru busnesau bwyd
  • gwneud newidiadau i'r ffordd y defnyddir y cynllun sgorio ymyriadau hylendid bwyd gan wneud yn siŵr bod ymyriadau wedi'u targedu'n briodol i sicrhau'r effaith orau wrth fynd i'r afael â busnesau bwyd nad ydynt yn cydymffurfio 
  • cydnabod strategaethau arolygu cenedlaethol 
  • ceisio barn gan randdeiliaid yn gynnar ar agweddau cyd-ddibynnol eraill ar y rhaglen ROF sy'n dal i gael eu datblygu

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r ASB yn croesawu barn ar y cynigion i ddiwygio'r Cod er mwyn gweithredu cam cyntaf y newidiadau sy'n gysylltiedig â ROF. Bydd y newidiadau hyn yn:

  • galluogi'r dull digidol newydd ar gyfer cofrestru busnesau bwyd
  • galluogi targedu adnoddau i sicrhau'r effaith orau wrth fynd i'r afael â busnesau nad ydynt yn cydymffurfio trwy welliannau i'r cynllun sgorio ymyriadau ar gyfer sefydliadau bwyd
  • cydnabod Strategaethau Arolygu Cenedlaethol (NIS), gan greu aliniad gwell rhwng y Cod a'r Prif Awdurdod

Gwahoddir sylwadau hefyd er mwyn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu mesurau perfformiad ar gyfer awdurdodau lleol yn y dyfodol, fel bod asesiadau mwy ystyrlon a phrydlon o'r modd y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu rhwymedigaethau yn bosibl.

Pecyn ymgynghori

Mae'r copi o'r Cod Ymarfer gyda'r newidiadau wedi'u tracio (isod) wedi'i gynnwys yn Saesneg yn unig at ddibenion yr ymgynghoriad hwn. 

Wales

Wales

Sylwadau a safbwyntiau

Dylech anfon eich holl sylwadau at:

Daniel Morelli
Rheolwr Partneriaethau Awdurdodau Lleol
Tîm Partneriaethau Awdurdodau Lleol
Asiantaeth Safonau Bwyd
Llawr 11, Tŷ Southgate
Wood Street
Caerdydd, CF10 1EW

Ffôn: 029 2067 8902
E-bost: lasupportwales@food.gov.uk

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.