Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Dirymiadau) (Cymru) 2018

Penodol i Gymru

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau ar y rheoliadau drafft ar gyfer Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Dirymiadau) (Cymru) 2018

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 March 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 March 2018

Manylion yr ymgynghoriad

Mae'r ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i awdurdodau gorfodi, gweithgynhyrchwyr, cyfanwerthwyr a manwerthwyr cynhyrchion bwyd.

Pwnc yr ymgynghoriad

Drafftio Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Dirymiadau) (Cymru) 2018 i: 

  • I) Ddarparu ar gyfer gorfodi, yng Nghymru, ddiwygiad a wnaed i Gyfarwyddeb 2001/112/CE sy'n ymwneud â sudd ffrwythau a chynhyrchion tebyg gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) Rhif 1040/2014; 
  • II) Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 i dynnu sylw busnesau at Reoliad (UE) Rhif 2017/2158 ar acrylamid; 
  • III) Gwneud diwygiadau a dirymiadau amrywiol eraill i nifer o Offerynnau Statudol i sicrhau bod y llyfr statud yng Nghymru yn gywir ac yn gyfredol mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid cyn i'r Deyrnas Unedig (DU) ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE). 

Diben yr ymgynghoriad

Rhoi cyfle i randdeiliaid gynnig sylwadau ar y Rheoliadau drafft. Mae'r Rheoliadau wedi'u seilio ar yr opsiwn a ffefrir fel a ganlyn:

  • I) Darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) Rhif 1040/2014 yng Nghymru;
  • II) diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 i dynnu sylw at Reoliad (UE) Rhif 2017/2158 ar acrylamid;
  • III) Gwneud diwygiadau a dirymiadau amrywiol eraill i sawl Offeryn Statudol i sicrhau bod y llyfr statud yng Nghymru yn gywir ac yn gyfredol mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid cyn i'r DU ymadael â'r UE. 

Pecyn yr ymgynghoriad

Wales

Sylwadau a safbwyntiau

Dylech anfon eich holl sylwadau at:

Kerys James-Palmer
Llawr 11,
Tŷ Southgate,
Wood Street,
Caerdydd, CF10 1EW

Ffôn: 02920 678912
E-bost: food.policy.wales@food.gov.uk 
 

 

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.