Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg
Ymgynghoriad ar gynhyrchion rheoleiddiedig

Y Polisi Gweithredol ar gyfer cymeradwyo sefydliadau cig gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn croesawu barn rhanddeiliaid ar ddiwygiadau arfaethedig i'r Polisi Gweithredol presennol a ddefnyddir ar gyfer cymeradwyo sefydliadau cig. Cynigiwyd y newidiadau gan y diwydiant a'r ASB ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer gwneud penderfyniadau a gwella tryloywder yn y prosesau a weithredir gan yr ASB.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 July 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 July 2018

Crynodeb o ymatebion

Rhagor am y cynnig hwn

Cynulleidfa darged wrth ymgynghori

Lladd-dai, Ffatrïoedd Torri, Sefydliadau Trin Helgig Cymeradwy, Gweithredwyr Busnesau Bwyd, Awdurdodau Lleol, Partneriaid Cyflenwi Gwasanaethau.

Beth yw testun yr ymgynghoriad hwn? 

Rydym ni'n cynnal adolygiad o'r Polisi Gweithredol cyfredol. Cynigiwyd newidiadau gan y Diwydiant a'r ASB ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer gwneud penderfyniadau a gwella tryloywder yn y prosesau a weithredir gan yr ASB.

Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn? 

I geisio barn ar y diwygiadau a wnaed i'r ddogfen bolisi i adlewyrchu nifer o newidiadau mewn polisi a gweithdrefn sydd heb eu hymgorffori eto ers iddo gael ei gyhoeddi ddiwethaf ym mis Awst 2015.

Dogfen ymgynghori 

England, Northern Ireland and Wales

Sylwadau a barn 

Dylech chi anfon ymatebion i'r ymgynghoriad hwn at y cyfeiriadau canlynol erbyn 20 Medi 2018.

E-bost: Approvals@food.gov.uk
 
Cyfeiriad post: FSA Approvals and Registration

FSA Approvals and Registration

Asiantaeth Safonau Bwyd

Clive House,

70 Petty France,

Llundain

SW1H 9EX