Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Adolygiad o ddiwydiant prosesu cig y Deyrnas Unedig yn nodi gwelliannau

Heddiw, cyhoeddodd dau o reoleiddwyr y Deyrnas Unedig Adolygiad drafft gyda chyfres o argymhellion ar gyfer y diwydiant cig a’r rheoleiddwyr eu hunain, gyda’r nod o wella cydymffurfiaeth a sicrwydd o fewn y diwydiant prosesu cig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 August 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 August 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
  • Mae’r adolygiad drafft yn gwneud argymhellion ar gyfer awdurdodau o’r diwydiant ac awdurdodau rheoleiddiol i wella cydymffurfiaeth a sicrwydd.
  • Argymhellion i’w hystyried gan Fyrddau’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban ar 17 Hydref.

Cafodd yr adolygiad chwe mis ei lansio yn sgil nifer o faterion diffyg cydymffurfio proffil uchel a nodwyd mewn ffatrïoedd torri cig.

Ystyriodd yr Adolygiad sut y gallai’r trefniadau presennol weithio’n well a chanolbwyntio ar fynd i’r afael ag achosion sylfaenol materion cyffredin, nid dim ond y symptomau.

Mae’r argymhellion yn destun cymeradwyaeth gan Fwrdd pob sefydliad mewn cyfarfod yng Nghaeredin ar 17 Hydref. Cawsant eu cynllunio i flaenoriaethau diogelwch bwyd a gwella safonau cyffredinol y diwydiant yng nghyd-destun y gadwyn gyflenwi cig.

Dyma rai o’r 19 argymhelliad ar gyfer y diwydiant a rheoleiddwyr:

  • Y diwydiant i gymryd mwy o ran yn y gwaith o lunio canllawiau cliriach i fodloni anghenion busnesau bwyd 
  • Canolbwyntio mwy ar sgiliau a galluoedd ar draws y diwydiant 
  • Bod yn fwy tryloyw o ran data ac yn fwy parod i rannu data ar draws y diwydiant a gyda’r rheoleiddwyr
  • Defnydd mwy effeithiol o ddata gan awdurdodau rheoleiddiol a gwell cydlyniant a chysondeb rheoleiddiol 
  • Treialu pa mor ddichonol yw defnyddio un sefydliad i gyflwyno’r holl reolaethau mewn lleoliad daearyddol 

Meddai Jason Feeney, Prif Weithredwr yr ASB:

“Gwnaethom lansio’r adolygiad hwn yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau proffil uchel dros y 12 mis diwethaf mewn nifer o fusnesau cig. Mae’r digwyddiadau hyn yn rhoi enw drwg i’r sector cyfan, nid dim ond y busnesau sy’n uniongyrchol ar fai. Heriodd hyn y ffydd sydd gan ddefnyddwyr yn y diwydiant yn ei gyfanrwydd.

Mae’r adolygiad manwl hwn wedi nodi camau gweithredu y gall y diwydiant cig a’r awdurdodau rheoleiddiol eu cymryd i wneud gwelliannau. 

Mae rhesymau da pam mae gan y diwydiant cig reolaethau penodol ar waith i amddiffyn iechyd y cyhoedd a rhoi sicrwydd ynghylch dilysrwydd cynhyrchion cig ar y farchnad.

Rydym ni’n falch o’r ffaith bod y diwydiant wedi cyfrannu’n llawn at y dull hwn ac rydym ni’n disgwyl y bydd yn parhau i weithio gyda ni i weithredu’r argymhellion hyn ar ôl iddynt gael eu cytuno.” 

Meddai Geoff Ogle, Prif Weithredwr Safonau Bwyd yr Alban:

“Mae’r adolygiad hwn yn hanfodol i sicrhau bod y cyhoedd yn parhau i fod yn gwbl ffyddiog yn niogelwch diwydiant cig y DU. Mae’r rhan fwyaf o’n sector cig yn gweithredu’n gyfrifol gan sicrhau cydymffurfiaeth o ran diogelwch bwyd ar draws eu prosesau. Mae’n bwysig nad yw gweithredoedd cyfran leiafrifol o’r sector yn rhoi enw drwg i’r diwydiant cyfan.

Dyna pam ein bod ni a’r ASB wedi ystyried sail dystiolaeth gynhwysfawr ac wedi gwneud argymhellion eang ar gyfer gwella i’r diwydiant a rheoleiddwyr a fydd yn sicrhau diogelwch a safonau uchel yr ydym yn eu disgwyl yn ein diwydiant cig.

Mae mewnbwn cyrff y diwydiant i’r adolygiad hwn wedi bod yn hanfodol, a bydd yn parhau i fod hefyd. Diolchwn i bawb sydd wedi cyfrannu. 

Pan fydd ein Byrddau perthnasol wedi cytuno ar y camau nesaf, byddwn ni’n gweithio i weithredu’r gwelliannau a nodwyd. Bydd yr holl benderfyniadau a chamau gweithredu’n parhau i gael eu gwneud er budd gorau defnyddwyr a byddant yn seiliedig ar y dystiolaeth a’r cyngor gwyddonol arbenigol. Mae gennym ni gyd ran i’w chwarae wrth sicrhau bod ein cig a’n cynhyrchion cig yn ddiogel.”

Cafodd yr adolygiad ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2018 i nodi gwelliannau posib i’r ffordd y mae’r sector yn cael ei reoleiddio yn sgil achosion o beidio â chydymffurfio a nodwyd mewn ffatrïoedd torri cig. Cafodd canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg eu cyhoeddi a’u trafod yng nghyfarfodydd Bwrdd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban ym mis Mai a mis Mehefin.

Dilynwyd proses ymgysylltu â rhanddeiliaid a chasglu tystiolaeth gynhwysfawr, a oedd yn cynnwys y canlynol: 

  • cysylltu â phob un o’r 419 o awdurdodau lleol yn y DU a’r 325 o fusnesau bwyd i geisio eu barn;
  • cynnal chwe gweithdy ar draws y DU lle’r oedd bron 100 o fusnesau bwyd, awdurdodau lleol a chyrff masnach yn bresennol.
  • ymgysylltu â mwy na 60 o sefydliadau rhanddeiliad ac eraill sy’n cynrychioli aelodau proffesiynol sy’n gweithio yn y maes rheoleiddio a sicrwydd. 

Papur bwrdd ac adroddiad drafft

Gellir gweld y papur bwrdd a'r adroddiad drafft ar y dudalen we adolygiad o ffatrïoedd torri cig a storfeydd oer.