Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Byrddau yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban yn ymateb yn gadarnhaol i'r Adolygiad cig ledled y Deyrnas Unedig

Cynhaliwyd cyfarfod ar y cyd cyntaf byrddau dau reoleiddwyr bwyd y DU heddiw, 17 Hydref 2018, yng Nghaeredin yn dilyn cyhoeddi'r Adolygiad sy'n gwneud argymhellion gyda'r nod o wella cydymffurfiad a sicrwydd yn y diwydiant prosesu cig yn y DU.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 August 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 August 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Yn dilyn trafodaeth yn croesawu'r Adolygiad a'r ymgysylltu â rhanddeiliaid dros y chwe mis blaenorol, cymeradwyodd y dau Fwrdd y gwelliannau ar gyfer eu gwledydd priodol yn llawn. 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod yna bwyslais ar y diwydiant yn ogystal â rheoleiddwyr i fod yn uchelgeisiol wrth weithredu'r cynlluniau, a bydd gwaith cydweithredol yn parhau i gyflawni hyn.
  
Drwy gydol y drafodaeth, cydnabu'r Byrddau bod mwyafrif sector cig y DU yn gweithredu'n gyfrifol a bod llawer o fusnesau bwyd yn mynd uwchlaw'r gofynion rheoleiddio. 

Bydd y sefydliadau'n parhau i weithio'n agos i ddatblygu dull cyffredin yn y DU a byddant yn datblygu eu cynlluniau gweithredu manwl eu hunain, a fydd yn cael eu goruchwylio gan eu Byrddau priodol. 

Meddai Heather Hancock, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
 
“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym ni wedi gweld nifer o ddigwyddiadau diogelwch bwyd a dilysrwydd mewn ffatrïoedd torri cig a storfeydd oer. 

“Mae digwyddiadau fel y rhain yn peryglu hyder y cyhoedd o ran diogelwch a dilysrwydd cig wedi'i brosesu yn y DU. Maent wedi ein harwain at gomisiynu Adolygiad manwl i nodi sut y gellid gwella gweithredu a rheoleiddio'r sector hwn.  

“Credwn y bydd canfyddiadau'r Adolygiad, gyda chymorth arweinwyr y diwydiant cig, yn helpu i adfer a chynnal ymddiriedaeth gyhoeddus.
 
“Byddwn ni'n ceisio ymrwymiad parhaus y diwydiant i weithio gyda ni, fel rheoleiddwyr, i weithredu'r argymhellion a bodloni disgwyliadau'r cyhoedd.”

Meddai Ross Finnie, Cadeirydd Safonau Bwyd yr Alban:

“Rydym ni wedi cymryd rhan lawn ym mhob cam o'r Adolygiad hwn ledled y DU a chroesawodd y ddau Fwrdd yr Adolygiad yn unfrydol a chymeradwyo ei argymhellion yn dilyn ymchwil cynhwysfawr ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. 

“Mae diogelwch defnyddwyr yn hollbwysig i Safonau Bwyd yr Alban a phawb sydd wedi cyfrannu at yr Adolygiad, a bydd hyn yn parhau i'r cyfnod gweithredu. 

“Bydd y dull cytunedig hwn yn rhoi sicrwydd y bydd y diwydiant cig a rheoleiddwyr yn yr Alban yn cydweithio i ddarparu'r safonau uchel o'r radd flaenaf a ddisgwylir.”

Mae recordiad o'r sesiwn ar gael ar ein gwefan. 

Gallwch chi weld yr adroddiad terfynol a'r papur bwrdd ar dudalen Adolygiad o Ffatrïoedd Torri Cig a Storfeydd Oer.