Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Crynodeb o drafodaethau Cyngor Gwyddoniaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar 27 Mehefin 2019

Cynhaliodd Cyngor Gwyddoniaeth annibynnol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ei bumed cyfarfod yn Llundain yr wythnos hon i drafod sganio'r gorwel ac arfer gorau wrth gasglu a defnyddio data yn yr ASB.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 August 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 August 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Fe gyflwynodd Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth yr ASB, yr Athro Rick Mumford, weithredoedd a mesurau llwyddiant yr ASB mewn ymateb i'r argymhellion a wnaed gan Weithgorau Un a Dau y Cyngor Gwyddoniaeth yn 2018. O ran y camau gweithredu sy'n ymwneud â risg, gwahoddwyd y Cyngor i drafod a chynghori ar sut y gallent ychwanegu gwerth a sicrwydd at y gwaith asesu risg y bydd yr ASB yn ei arwain ar ôl Ymadael â'r UE.

Fe wnaeth yr Athro John O'Brien roi diweddariad ar Weithgor Tri. Yn dilyn yr adroddiad i Fwrdd yr ASB ar risgiau'r system fwyd a sganio'r gorwel a'r Bwrdd yn cymeradwyo'r argymhellion, bydd yr ASB yn datblygu model sganio'r gorwel strategol i nodi problemau neu faterion bwyd sylweddol sydd i ddod dros y pum i 10 mlynedd nesaf, ac adrodd yn ôl i'r Cyngor Gwyddoniaeth ar gynnydd mewn 12 mis. Fe wnaeth y Cyngor drafod pwysigrwydd data sector preifat i sganio'r gorwel yn effeithiol ac annog yr ASB i archwilio cyfleoedd i gael mynediad at yr wybodaeth hon.

Cyflwynodd yr Athro Patrick Wolfe ddiweddariad ar Weithgor Pedwar. Mae'r gweithgor hwn yn archwilio defnydd data a thechnoleg ddigidol. Roedd trafodaethau Gweithgor Pedwar yn pwysleisio safonau data, prydlondeb, mynediad at ddata ac ymddiriedaeth.

Mae'r gweithgor yn bwriadu comisiynu dau ddarn o waith yn ystod cam dau eu gweithgarwch: un ar y posibilrwydd o greu a defnyddio 'Ymddiriedolaethau Data' yn y sector bwyd, a'r llall ar ddarparu crynodeb o'r datblygiadau arloesol diweddaraf o ran defnyddio dadansoddeg data gwell. 

Cafodd y Cyngor ei ddiweddaru hefyd ar ddigwyddiad anwytho a gynhaliwyd ar gyfer holl aelodau Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr ASB a chlywed am allbynnau gweithdy sganio'r gorwel. Roedd y cyfarfod hwn yn cynnwys y 35 arbenigwr newydd a recriwtiwyd yn ddiweddar i ymuno â'r Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol.  Nododd y Cyngor fanteision rhyngweithio rhwng y Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol. Mae cael gwahanol safbwyntiau proffesiynol yn golygu cyrraedd persbectif gwell ar broblem. Fe wnaeth y Cyngor gynnig y gallai digwyddiad blynyddol fod yn ffordd addas i'r Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol gyfrannu at sganio'r gorwel.
 
Yn olaf, cafodd y Cyngor ei friffio ar drafodaethau diweddar Bwrdd yr ASB ar gynllun gwaith yr ASB yn y dyfodol o ran gorsensitifrwydd bwyd. Cytunodd y Cyngor y byddent yn mynd ati i drafod sut y gallent gyfrannu orau at hyn o fewn eu cylch gwaith. 

Mae'r papurau a drafodwyd yn y cyfarfod agored ar gael i'w darllen ar wefan y Cyngor Gwyddoniaeth a bydd cofnodion yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Gorffennaf.