Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Crynodeb o'r trafodaethau yng nghyfarfod mis Mawrth 2021 Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Yng nghyfarfod cyntaf Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) eleni, bu trafodaethau am waith yr ASB wrth i’r pandemig byd-eang barhau a bywyd newydd y Deyrnas Unedig (DU) y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (UE). 

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 March 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 March 2021

Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi'r ASB, Rebecca Sudworth wrth y Bwrdd fod yr holl baratoadau dan arweiniad yr ASB ar gyfer diwedd y Cyfnod Pontio ar 1 Ionawr wedi'u cwblhau mewn pryd. Esboniodd fod yr ASB bellach yn canolbwyntio ar weithio gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), cydweithwyr eraill ar draws y Llywodraeth, a rhanddeiliaid o bob sector y diwydiant ar gyflwyno mesurau rheoli ar y ffiniau penodol yn raddol a oedd gynt yn rhan o gytundeb masnach yr UE.  

Pwysleisiodd fod yr ASB yn parhau i roi adnoddau ac ymdrech i weithio gyda busnesau i sicrhau eu bod yn deall sut i weithio yn yr amgylchedd newydd ar ôl y Cyfnod Pontio, yn enwedig mewn perthynas â goblygiadau Protocol Gogledd Iwerddon. 

Dywedodd Prif Weithredwr yr ASB, Emily Miles wrth y Bwrdd am rai meysydd gwaith cyfredol yr ASB sydd â blaenoriaeth. Atgoffodd fusnesau CBD am y dyddiad cau sy’n agosáu ar gyfer ceisiadau bwyd newydd CBD, gan annog busnesau i gyflwyno eu ceisiadau i'r ASB cyn 31 Mawrth 2021 gan mai awdurdodi bwyd newydd yw'r unig lwybr i gydymffurfio.

Rhoddodd Emily drosolwg i'r Bwrdd o ddau achos parhaus o Salmonela sy'n gysylltiedig â chynhyrchion cyw iâr mewn briwsion bara wedi'u rhewi a manteisiodd ar y cyfle i atgoffa'r cyhoedd i wirio'r cyfarwyddiadau coginio ar ddeunydd pecynnu bwyd, i goginio bwyd ar y tymheredd cywir ac am yr amser cywir i sicrhau bod unrhyw facteria niweidiol yn cael eu lladd. 

Fe wnaeth Emily hefyd ddiweddaru'r Bwrdd ar ymgynghoriad cyhoeddus dan arweiniad Defra ar dechnolegau genetig. Hysbyswyd y Bwrdd gan y Cadeirydd, Ruth Hussey am ei bwriad i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Defra gan bwysleisio'r angen am oruchwyliaeth reoleiddio briodol a chyson i'r technolegau newydd hyn i fagu hyder yn eu defnydd ynghyd â phwysigrwydd darparu gwybodaeth glir i'r defnyddiwr.  

Yng nghyfarfod y pwyllgor busnes ddoe, trafododd y Bwrdd effaith COVID-19 a'r heriau digynsail ar awdurdodau lleol wrth gyflawni eu swyddogaethau bwyd statudol. Ym mis Rhagfyr cytunodd Bwrdd yr ASB fod canllawiau a chyngor cyfredol yr ASB ar gyfer awdurdodau lleol yn rhoi'r fframwaith gorau posibl ar gyfer y tymor byr ac y dylid eu hymestyn y tu hwnt i fis Ionawr 2021 tan ddiwedd mis Mehefin 2021. Mae'r ASB wedi addasu ei disgwyliadau o awdurdodau lleol oherwydd COVID-19, gan gydnabod y gellir gohirio arolygiadau rheolaidd busnesau bwyd categori risg is lle mae adnoddau awdurdodau lleol wedi'u dargyfeirio i ymateb i'r pandemig; a gofyn i awdurdodau lleol barhau â'r gweithgareddau blaenoriaeth uchel y manylir arnynt yng nghyngor yr ASB. 

Cytunodd y Bwrdd fod effeithiau COVID-19 wedi rhoi hwb o'r newydd i'n hymgyrch strategol i ddiwygio rheoleiddiol a chytunwyd y dylai'r ASB edrych ar ddatblygu llwybr allan o'r sefyllfa bresennol lle ceir nifer sylweddol o 'arolygiadau hwyr'. 

Mae agenda lawn a phapurau'r Bwrdd ar gael ar wefan yr ASB. Bydd recordiad o’r cyfarfod ar gael yn ddiweddarach yn yr wythnos.