Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd: 16 Mehefin 2021

Bydd cyfarfod mis Mehefin y Bwrdd yn cael ei gynnal o 9.00am heddiw.

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 June 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 June 2021

Digwyddiad ar-lein yn unig fydd y cyfarfod hwn. Cadeirydd dros dro yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Ruth Hussey, fydd yn cadeirio. Gallwch chi gofrestru i wylio ar-lein.

Mae'r agenda'n cynnwys diweddariadau ar:

  • Adroddiad Blynyddol y Prif Gynghorydd Gwyddonol
  • Blaenoriaethau Strategol ar gyfer Polisi a Rheoleiddio’r ASB 
  • Adroddiad blynyddol ar Sganio’r Gorwel
  • Adroddiad Blynyddol ar Asesu Risg
  • Diweddariad ar Orsensitifrwydd i Fwyd
  • Adroddiad Terfynol Gweithgor 5 y Cyngor Gwyddoniaeth ar Orsensitifrwydd i Fwyd
  • Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd

Mae'r agenda lawn a'r papurau sydd wedi'u cyhoeddi ar gael ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd 

Gallwch chi gofrestru i wylio'r cyfarfod yn fyw ar-lein. Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Ffôn: 01772 767731
E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk