Oherwydd y pandemig COVID-19, bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar-lein yn unig. Bydd yn cael ei gadeirio gan Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Heather Hancock. Gallwch gofrestru i wylio ar-lein.
Mae'r agenda'n cynnwys diweddariadau ar:
- Adroddiad Gwyliadwriaeth Blynyddol
- Adolygiad Cynnydd y Strategaeth Samplu
- Adroddiad a diweddariad blynyddol gan y Pwyllgor Cynghori ar Wyddor Gymdeithasol
- Diweddariad blynyddol ar y Strategaeth Ryngwladol
Mae'r agenda lawn a'r papurau sydd wedi'u cyhoeddi ar gael ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg y unig).
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Gallwch gofrestru i wylio'r cyfarfod yn fyw ar-lein. Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
Ffôn: 01772 767731
E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk