Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi adroddiad ar ddulliau rhyngwladol ar gyfer rheoleiddio bwydydd GM a bwydydd newydd

Fe wnaeth yr astudiaeth archwilio sawl agwedd ar reoleiddio diogelwch bwyd, gan gynnwys diffiniadau, deddfwriaeth waelodol, prosesau awdurdodi, a safonau cynhyrchu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 August 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 August 2021

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi ymchwil sy’n dadansoddi gwahanol ddulliau a phrosesau rheoleiddio ar gyfer bwydydd GM a bwydydd newydd.

Wrth i’r ASB barhau i adeiladu ei sylfaen wyddoniaeth a thystiolaeth wedi i’r Deyrnas Unedig (DU) ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE), bydd yr adroddiad hwn, a gychwynnodd yn haf 2020, yn helpu i nodi pa systemau sydd ar waith ledled y byd i reoleiddio masnach ryngwladol y cynhyrchion hyn.

Diffinnir bwydydd newydd fel bwydydd sydd heb gael eu bwyta i raddau helaeth gan fodau dynol yn yr UE cyn 15 Mai 1997. Mae’n ofynnol iddynt gael eu hawdurdodi gan yr ASB cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad. Yn yr un modd, mae hefyd angen awdurdodiad ar gyfer cynhyrchion GM cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad o dan Reoliadau Addasu Genetig, os ydynt ar wahân i Reoliadau Bwydydd Newydd.

Meddai’r Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB:

“Fel rheoleiddiwr llywodraethol annibynnol a chyfrifol sydd â buddiannau defnyddwyr wrth ei galon, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gynnal ymchwil i holl elfennau’r system fwyd – ac rydym ni’n agored ac yn dryloyw yn y modd y gwnawn hynny.

“Rydym ni wedi ymrwymo i gynnal y safonau bwyd uchaf posib. Byddai unrhyw newidiadau posib i brosesau rheoleiddio, p’un a ydynt yn ymwneud â bwydydd GMO neu fwydydd newydd, yn benderfyniad i weinidogion; ond rydym ni’n cynnig cyngor sy’n seiliedig ar y wyddoniaeth a’r dystiolaeth ddiweddaraf, gan sicrhau taw ein blaenoriaeth uchaf o hyd yw diogelu iechyd y cyhoedd.”

Yn y cyfamser, mae'r ASB yn aros cyhoeddi ymgynghoriad Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) i reoleiddio technolegau genetig fel cyfangorff, sydd i’w gyhoeddi yr haf hwn.

Gellir gweld yr adroddiad llawn ar wefan yr ASB (Saesneg yn unig).