Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi adroddiad Bwyd a Chi 2 – Cylch 2

Heddiw, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi canfyddiadau diweddaraf yr adroddiad Bwyd a Chi 2.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 July 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 July 2021

Mae’r prif arolwg hwn yn mesur yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain.

Prif ganfyddiadau Cylch 2

Hyder mewn diogelwch bwyd, dilysrwydd bwyd, a’r gadwyn gyflenwi bwyd  

  • Roedd mwy na 9 o bob 10 (93%) o’r ymatebwyr yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta, ac roedd bron i 9 o bob 10 (89%) yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir. 
  • Roedd gan dros dri chwarter o’r ymatebwyr (77%) hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd. 

Pryderon am fwyd  

  • Nid oedd gan fwyafrif yr ymatebwyr (88%) unrhyw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta, a dim ond 12% o’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw bryder. 
  • Y pryderon mwyaf cyffredin oedd faint o siwgr a geir mewn bwyd (60%), gwastraff bwyd (60%) a lles anifeiliaid (57%).   

Mynediad at gyflenwad bwyd  

  • Roedd lefelau’r mynediad at gyflenwad bwyd yn debyg ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Roedd gan dros dri chwarter yr ymatebwyr gyflenwad bwyd diogel yng Nghymru (82%), Lloegr (85%) a Gogledd Iwerddon (84%), tra bod tua 1 o bob 6 heb fynediad sicr at gyfredol bwyd yng Nghymru (18%), Lloegr (15%) a Gogledd Iwerddon (16%).  

Bwyta allan a bwyd tecawê 

  • Yn ystod y 4 wythnos flaenorol, roedd tair rhan o bump (60%) o’r ymatebwyr wedi bwyta bwyd a archebwyd o siop tecawê, naill ai wrth archebu’n uniongyrchol neu drwy gwmni dosbarthu ar-lein (fel Just Eat, Deliveroo, Uber Eats).
  • Roedd mwyafrif yr ymatebwyr (87%) wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB). O’r rheiny, roedd 51% wedi gwirio Sgôr Hylendid Bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. 

Alergedd bwyd, anoddefiad a gorsensitifrwydd i fwyd  

  • Nododd llai nag 1 o bob 10 (9%) o ymatebwyr fod ganddyn nhw anoddefiad bwyd, 3% ag alergedd bwyd, 1% â chlefyd seliag, ac 1% â sawl gorsensitifrwydd i fwyd. 
  • O’r ymatebwyr a nododd fod ganddyn nhw alergedd bwyd, roedd 35% yn nodi alergedd ffrwythau, 19% yn nodi alergedd cramenogion, a 19% yn nodi alergedd cnau daear (peanuts). 
  • O’r ymatebwyr a nododd fod ganddyn nhw anoddefiad bwyd, roedd 38% yn nodi anoddefiad llaeth buwch a chynhyrchion wedi’u gwneud â llaeth buwch, ac roedd 18% yn nodi anoddefiad grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten. 
  • Roedd ymatebwyr sy’n dioddef o adweithiau andwyol i fwyd yn fwy tebygol o nodi bod ganddyn nhw hyder yn yr wybodaeth am alergenau a ddarperir gan fwytai (82%), caffis, siopau coffi neu frechdanau (79%), a thafarndai neu fariau (75%) o’i gymharu â gwybodaeth a ddarperir gan siopau tecawê wrth archebu’n uniongyrchol o siop neu fwyty tecawê (63%), neu wrth archebu trwy gwmni archebu a dosbarthu ar-lein (fel JustEat, Deliveroo, UberEats) (50%), apiau rhannu bwyd (e.e. Olio neu Too Good to Go) (23%) neu Facebook Marketplace (21%) 

Bwyta gartref 

  • Dywedodd fwy na 6 o bob 10 (62%) o’r ymatebwyr eu bod nhw bob amser yn edrych ar y dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ cyn iddyn nhw goginio neu baratoi bwyd.  
  • Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr nad oedden nhw byth yn bwyta pysgod mwg (81%), llaeth (68%), cigoedd wedi'u coginio (66%), salad mewn bagiau (53%) na chaws (52%) tu hwnt i'r dyddiad ‘defnyddio erbyn’.

Meddai Emily Miles, Prif Weithredwr yr ASB:

‘Mae’r adroddiad Bwyd a Chi 2 – Cylch 2 yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i’r rhai sy’n chwarae rôl yn y system fwyd. Dyma un o’r ffyrdd y gallwn ni sicrhau bod safbwyntiau defnyddwyr ar y bwyd maen nhw’n ei fwyta yn cael eu clywed.

‘Pan gawsant nhw eu hysgogi, dywedodd ymatebwyr wrthym ni eu bod nhw’n poeni fwyaf am faint o siwgr a geir mewn bwyd, gwastraff bwyd a lles anifeiliaid. Mae defnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd ac alergedd bwyd yn dweud wrthym ni nad oes ganddyn nhw hyder yn yr wybodaeth am alergenau a roddir gan ddarparwyr bwyd ar-lein (gan gynnwys apiau rhannu bwyd a Facebook Marketplace). Mae hwn yn parhau i beri pryder? i’r ASB fel rheoleiddiwr, ac rydym ni’n gweithio gyda’r diwydiant i fynd i’r afael â hyn.’

Ynglŷn â’r adolygiad

Gwaith Maes Bwyd a Chi 2: Cynhaliwyd Cylch 2 rhwng 20 Tachwedd 2020 a 21 Ionawr 2021. Gwnaeth cyfanswm o 5,900 o oedolion o 3,955 o aelwydydd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gymryd rhan.

Darllen y gwaith ymchwil

Mae’r adroddiad llawn ar gyfer Cylch 2 ar gael yn adran ymchwil ein gwefan