Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Medi 2019
Mae'r agenda a'r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi wedi'u cyhoeddi.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ym Melfast ddydd Mercher 18 Medi 2019. Bydd yn dechrau am 08.30am dan arweiniad Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Heather Hancock. Mae croeso i chi ddod i’r cyfarfod neu gallwch chi wylio'n fyw ar-lein.
Mae'r agenda'n cynnwys trafodaeth ar yr eitemau hyn:
- diweddariad ar ein gwaith ar orsensitifrwydd bwyd a gweithredu’r adolygiad labelu alergenau
- cynlluniau ar gyfer y dyfodol ar gyfer system labordai bwyd a bwyd anifeiliaid y Deyrnas Unedig
- ein dull tuag at ansicrwydd a risg mewn perthynas â'r broses dadansoddi risg
- adolygiad a chamau nesaf y rhaglen lleihau campylobacter
- diweddariad ar ein cynnydd o ran ymwrthed gwrthficrobaidd (AMR)
Mae'r agenda lawn a'r papurau sydd wedi'u cyhoeddi ar gael drwy dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan.
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi yn cael ei gynnal yn Ystafell Lagan, Gwesty Hilton, Lanyon Place, Belffast, BT1 3LP.
Mae croeso i chi ddod i gyfarfod y Bwrdd. Bydd angen i chi anfon e-bost atom ni er mwyn cofrestru ar gyfer y cyfarfod. Efallai bod lleoedd yn gyfyng, felly cofiwch ddisgwyl am neges swyddogol i gadarnhau eich bod wedi'ch cofrestru cyn gwneud unrhyw drefniadau.
Gallwch chi hefyd wylio'r cyfarfod ar-lein trwy gofrestru ar ein gwefan bwrpasol.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
ffôn: 020 8481 3302
email: fsaboardmeetings@livegroup.co.uk
Hanes diwygio
Published: 5 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2021