Oherwydd y pandemig COVID-19, bydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal ar-lein yn unig, a hynny ddydd Mercher 18 Tachwedd 2020. Bydd yn dechrau am 9.30am dan arweiniad Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Heather Hancock. Gallwch gofrestru i wylio ar-lein.
Mae'r agenda'n cynnwys diweddariadau ar:
- diweddariad blynyddol ar y Strategaeth Ryngwladol
- ein Hadroddiad Gwyliadwriaeth blynyddol
- yr adroddiad a’r diweddariad blynyddol gan y Pwyllgor Cynghori ar Wyddor Gymdeithasol
- Adolygiad Cynnydd y Strategaeth Samplu
Mae'r agenda lawn a'r papurau sydd wedi'u cyhoeddi ar gael ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan.
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Bydd cyfarfod mis Tachwedd y Bwrdd yn cael ei gynnal ar-lein yn unig. Gallwch gofrestru i wylio'r cyfarfod yn fyw ar-lein.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
Ffôn: 01772 767731
E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk
Cyflwyno cwestiwn
Gallwch gyflwyno cwestiynau o ddydd Llun 16 Tachwedd tan 12:00 ddydd Mawrth 17 Tachwedd, drwy eu hanfon at board.sec@food.gov.uk.
Bydd unrhyw gwestiynau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau, gan gynnwys ar ddydd Mawrth 17 Tachwedd, yn cael eu hateb trwy ohebiaeth yn unig.
Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno cwestiynau ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.
COVID-19 a newidiadau i Gyfarfodydd Bwrdd yr ASB 2020
Oherwydd pandemig COVID-19, mae trefniadau'r ASB ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd wedi newid am weddill 2020. Bydd cyfarfodydd y Bwrdd a'r Pwyllgor Busnes yn cael eu cynnal ar-lein.
Mae manylion amserlen newydd y cyfarfodydd ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.