Mae'r digwyddiad rheolaidd hwn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn rhan o Ŵyl Gwyddor Gymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), mewn partneriaeth eleni â Phrifysgol Sheffield.
Bydd y cyflwyniadau'n ymdrin â sut mae'r byd cynyddol ddigidol wedi newid sut rydym ni'n prynu a bwyta bwyd, a sut y gall casglu a dadansoddi data digidol lywio ein dealltwriaeth. Bydd y digwyddiad drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Dyma’r siaradwyr sydd wedi'u cadarnhau:
- Dr. Jose Balenos, Swyddog Ymchwil Ôl-ddoethurol, ASB
- Alexandra Boutopoulou, Ymgeisydd PhD, Ysgol Wybodaeth Prifysgol Sheffield
- Ben Glover, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil, Demos
- Lucy Hart, Dadansoddwr, Foundry4
- Helen Heard, Gwyddor Gymdeithasol, ASB
- Yr Athro Peter Jackson, Cyd-gyfarwyddwr Prifysgol Sheffield, Sefydliad Bwyd Cynaliadwy
- Amy M. Lando, Gwyddonydd Cymdeithasol, Canolfan Diogelwch Bwyd a Maeth Cymhwysol, Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau (FDA).
- Yr Athro Robin May, Prifysgol Birmingham a Phrif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB
- Yr Athro Rick Mumford, Pennaeth Cyfarwyddiaeth Gwyddoniaeth, Tystiolaeth ac Ymchwil, ASB
- Michelle Patel, Pennaeth Gwyddor Gymdeithasol, ASB
- Julie Pierce, Cyfarwyddwr Bod yn Agored, Data a Digidol, a Chymru, ASB
- Katharine Porter, Gwyddor Gymdeithasol, ASB
- Dr Christian Reynolds, Uwch Ddarlithydd, Canolfan Polisi Bwyd, City University, ac ymchwilydd ymweliadol, yn Adran Ddaearyddiaeth, Prifysgol Sheffield
- Anna Rudkevych, Uwch Reolwr Ymchwil, Pulsar
- Dr Patten Smith, Cyfarwyddwr Ymchwil, IPSOS Mori ac athro gwadd ym Mhrifysgol Surrey
- Domagoj Vrbos a Giorgia Zamariola, Gwyddor Gymdeithasol, Cyfathrebu Strategol, Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA)
- Beatrix Siemering, Gwyliadwriaeth Strategol, ASB
Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle gwych i unrhyw un yn y gymuned gwyddor gymdeithasol neu lunio polisi wybod sut mae gwyddor gymdeithasol yn llywio llunio polisi go iawn yng nghyd-destun llywodraethol.
Yn ogystal â dysgu am ein gwaith a’n blaenoriaethau, cyfleoedd cyllido a syniadau sy'n dod i'r amlwg, mae hefyd yn gyfle gwych i chi rwydweithio gydag arbenigwyr o’r byd academaidd, y diwydiant a maes polisi.
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, ewch i'n Tudalen Eventbrite.