Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyngor i berchnogion ymlusgiaid yn sgil achos Salmonela sy’n gysylltiedig â chnofilod a ddefnyddir at ddibenion bwydo

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn annog perchnogion ymlusgiaid sy’n prynu cnofilod penodol i’w bwydo i’w hanifeiliaid anwes gymryd mesurau rhagofalus ychwanegol a bob amser golchi eu dwylo er mwyn osgoi mynd yn sâl gyda salmonelosis.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 September 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 September 2021

Unwaith eto, mae gwyddonwyr wedi cadarnhau cysylltiad rhwng Salmonela a ganfuwyd mewn llygod a ddefnyddir at ddibenion bwydo, a ddosbarthwyd gan Monkfield Nutrition Ltd ar draws pedair gwlad y DU, ac achosion o Salmonela ymhlith pobl. Ystyrir bod y risg i’r cyhoedd yn isel iawn ond rydym ni’n annog perchnogion ymlusgiaid (reptiles) sy’n prynu cnofilod (rodents) penodol i’w bwydo i’w hanifeiliaid anwes gymryd mesurau rhagofalus ychwanegol i osgoi mynd yn sâl gyda salmonelosis.

Mae’r cnofilod dan sylw, a gafodd eu mewnforio o Lithwania a’u gwerthu gan nifer o fanwerthwyr, fel arfer yn cael eu bwydo i ymlusgiaid – yn enwedig nadroedd.

Erbyn hyn, ac yn unol â'r gyfraith, mae’n rhaid i fanwerthwyr ddarparu taflen wybodaeth i gwsmeriaid sy’n prynu’r cnofilod o Monkfield Nutrition Ltd a ddefnyddir at ddibenion bwydo. Mae’r daflen hon yn nodi risgiau Salmonela ac yn rhoi cyngor ar arfer da o ran trin bwyd anifeiliaid a hylendid yn y cartref.

Mae’r ASB, sy’n arwain ar reoleiddio a diogelwch bwyd anifeiliaid, yn gweithio’n agos gydag asiantaethau iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid, yn ogystal ag ystod o bartneriaid eraill y tu mewn a’r tu allan i’r llywodraeth. Mae’r Asiantaeth hefyd yn cysylltu ag awdurdodau lleol a Monkfield Nutrition Ltd, sydd wedi cysylltu â’i holl gwsmeriaid i roi gwybod iddynt am y gofynion ychwanegol yn y tymor byr.

Ymchwiliwyd i’r achos yn 2015, a hyd yn hyn mae wedi arwain at bron i 850 o achosion yr adroddwyd amdanynt ymhlith pobl. Roedd yr achosion hyn yn ymwneud yn bennaf, ond nid yn gyfan gwbl, â phobl a oedd yn byw mewn cartrefi ag un neu ragor o ymlusgiaid sy’n cael eu cadw fel anifeiliaid anwes. 

Mae salmonela yn facteria a geir ym mherfeddion llawer o anifeiliaid, yn enwedig ymlusgiaid. Gall y bacteria ledaenu o anifeiliaid sy’n cludo Salmonela ac achosi salwch mewn pobl. Er bod Salmonela yn achosi salwch nad yw’n para’n hir mewn pobl, fel dolur rhydd, twymyn, chwydu a phoen yn yr abdomen, gall hefyd achosi salwch mwy difrifol. 

Gall arwain at ganlyniadau difrifol, yn enwedig yn achos babanod, plant bach, pobl hŷn, a’r rheini sydd â systemau imiwnedd gwannach na’r arfer. Mewn rhai achosion, gall Salmonela beri bod angen iddynt fynd i’r ysbyty.

Meddai Tina Potter, Pennaeth Digwyddiadau’r ASB:

“Rydym ni’n cynghori y dylai’r rheiny sy’n trin anifeiliaid anwes arfer hylendid da wrth drin cnofilod a ddefnyddir at ddibenion bwydo, ac ymlusgiaid sy’n cael eu cadw fel anifeiliaid anwes, er mwyn osgoi’r risg o fynd yn sâl gyda salmonela.

“Mae’n rhaid i fanwerthwyr ddarparu taflen i bob person sy’n prynu’r cnofilod hyn. Mae’n esbonio’r risgiau sy’n gysylltiedig â thrin a bwydo’r math hwn o fwyd anifeiliaid i ymlusgiaid ac yn nodi pwysigrwydd hylendid da.

“Drwy ddosbarthu’r daflen hon, rydym ni am sicrhau bod y rheiny sy’n trin anifeiliaid anwes yn deall yn llawn y risgiau posibl ac yn gallu cael gafael ar wybodaeth i leihau’r risgiau hyn.” 

“Byddwn ni’n parhau i fonitro’r sefyllfa hon yn ofalus, ac yn gweithredu’n gymesur i sicrhau iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid.”

Meddai Dr Lesley Larkin, Pennaeth Uned Pathogenau Gastroberfeddol Iechyd Cyhoeddus Lloegr: 

“Unwaith eto, mae ymchwiliadau epidemiolegol a dilyniannu genom cyfan wedi cadarnhau’r cysylltiad rhwng achosion Salmonela mewn pobl sydd wedi mynd yn sâl a chnofilod a ddefnyddir i fwydo ymlusgiaid a rhai anifeiliaid eraill, a ddosbarthwyd yn y DU gan y mewnforiwr penodol hwn. 

“Yn debyg i’r dulliau sy’n ymwneud â thrin bwyd amrwd i’w fwyta gan bobl, mae risg gynhenid o Salmonela wrth drin bwyd amrwd i anifeiliaid anwes, neu fwyd wedi’i rewi a’i ddadrewi fel llygod, llygod mawr, neu gywion, gan nad yw rhewi bwyd yn lladd Salmonela. Yn ogystal, mae’r rhan fwyaf o ymlusgiaid yn cludo Salmonela yn eu coluddion am fisoedd, neu hyd yn oed flynyddoedd, ar ôl dod i gysylltiad â bwyd sydd wedi’i halogi, a gall hyn ledaenu i’w perchnogion ac aelodau eraill o’r aelwyd. Cofiwch bob amser olchi eich dwylo’n drylwyr gan ddefnyddio sebon a dŵr yn syth ar ôl trin y bwyd wedi’i rewi a bwydo’ch ymlusgiaid, ar ôl trin eich ymlusgiad a glanhau eu milodfa (vivarium) neu unrhyw offer arall fel pyllau socian. Dylid goruchwylio plant i sicrhau eu bod yn golchi eu dwylo yn iawn.” 

I gael rhagor o wybodaeth am Salmonela, ewch i dudalen we’r ASB. 

I gael rhagor o wybodaeth am symptomau gwenwyn bwyd, ewch i NHS.uk. Dylai unrhyw un sy'n poeni am symptomau gysylltu â'u meddyg teulu neu wasanaeth y tu allan i oriau yn y lle cyntaf. 

I gael rhagor o wybodaeth am leihau risgiau cael Salmonela gan ymlusgiaid, gweler y canllawiau gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â’r ASB, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Cefndir

  • Os byddwch chi neu aelodau eraill o’r teulu yn mynd yn sâl gyda symptomau fel dolur rhydd, poen yn yr abdomen a thwymyn, cysylltwch â’ch meddyg neu GIG 111 a’u hysbysu eich bod yn berchen ar ymlusgiad. Os oes gennych chi symptomau, gwnewch yn siŵr eich bod yn golchi’ch dwylo’n rheolaidd ac osgoi paratoi bwyd i eraill. Peidiwch â mynd i’r gwaith na’r ysgol tan 48 awr ar ôl i’r symptomau beidio er mwyn lleihau’r siawns o drosglwyddo’r haint.