Diweddariad ar ddatblygu Strategaethau Arolygu Cenedlaethol ar gyfer Bwyd

Heddiw, rydym ni wedi cyhoeddi gwerthusiad o'n gwaith ar Strategaethau Arolygu Cenedlaethol (NIS) a safonau drafft y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol a phartneriaethau busnes eu bodloni os ydynt am i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) gydnabod NIS ganddynt ar gyfer hylendid bwyd.

Mae Strategaethau Arolygu Cenedlaethol (NIS) wedi bodoli fel cysyniad ers cyflwyno Prif Awdurdodau, ond nid oes NIS wedi'i ddatblygu ar gyfer partneriaethau bwyd hyd yn hyn. Rydym yn gweld potensial i NIS fod yn rhan o'n gwaith i gydnabod busnesau bwyd sy'n cydymffurfio ac sy'n dryloyw, a helpu awdurdodau lleol i ganolbwyntio eu gweithgarwch ar y busnesau bwyd hynny sy'n perfformio'n wael neu sydd angen mwy o gymorth.  

Mae NIS yn cynnwys un awdurdod lleol – sef y prif awdurdod – yn gweithio gyda busnes bwyd aml-safle, er enghraifft cadwyn o fwytai neu archfarchnadoedd, i sicrhau bod y busnes yn bodloni ei gyfrifoldebau hylendid bwyd trwy asesu ei systemau canolog a data busnes arall. Bydd y prif awdurdod yn defnyddio'r wybodaeth hon i lywio amlder a natur arolygiadau awdurdodau lleol o safleoedd unigol. 

Mewn NIS a gydnabyddir gan yr ASB, bydd arolygiadau rheolaidd o safleoedd unigol gan awdurdodau lleol yn llai aml nag ydynt nawr ac, yn bwysig, bydd canfyddiadau'r arolygiadau hynny yn cael eu bwydo yn ôl i'r prif awdurdod i sicrhau bod yr NIS yn gweithio fel y'i bwriedir.

Goruchwylir cynllun y Prif Awdurdod gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) ac mae'n galluogi busnesau i ffurfio partneriaeth gyfreithiol gydag un awdurdod lleol, sydd wedyn yn rhoi cyngor sicr a phwrpasol ar gydymffurfio â rheoliadau.

Roedd y prosiect canfod llwybr yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw yn ystyried p'un a all prif awdurdodau ddefnyddio data busnes i ragweld sut y mae busnesau'n cydymffurfio â rheoliadau hylendid. Gwelsom fod 80% o'r sgoriau hylendid bwyd a ragwelwyd yn seiliedig ar ddata busnes bwyd yr un fath â'r sgôr a ddyfarnwyd gan awdurdod lleol yn dilyn arolygiad.
 
Rydym ni hefyd wedi cyhoeddi tair safon ddrafft a fydd yn sicrhau bod pob parti sy'n rhan o NIS yn bodloni meini prawf cadarn a heriol a bod goruchwyliaeth a sicrwydd yr ASB yn glir ac yn dryloyw. 

Meddai Nina Purcell, Cyfarwyddwr – Rheoleiddio Ein Dyfodol:

“Mae'r rhain yn ddatblygiadau hanfodol wrth i ni ddechrau cyflwyno rhannau pwysig o'r rhaglen Rheoleiddio Ein Dyfodol. Rydym yn falch bod yr adroddiad gwerthuso wedi canfod bod 80% o'r arolygiadau yr un fath â'r canlyniadau data busnes. Rydym wedi ymchwilio i rai o'r gwahaniaethau rhwng y gwaith o ddehongli data a'r arolygiadau eu hunain ac rydym yn hyderus y gallwn ni ddatrys y materion sylfaenol i leihau'r anghysondebau yn y dyfodol trwy'r Safonau NIS a phrofion pellach.

“Rydym wedi datblygu'r safonau cadarn a thynn hyn ar y cyd ag ystod o randdeiliaid a bydd y rhain yn hollbwysig i wneud NIS yn effeithiol. Ein camau nesaf yw gweithio gyda nifer o bartneriaethau prif awdurdod yn Lloegr sy'n ystyried datblygu NIS. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni ddatblygu a mireinio ein safonau a phrofi sut maen nhw'n gweithio'n ymarferol.

“Mae'n bwysig cofio, os na fydd pawb sy'n cymryd rhan yn bodloni ein safonau cadarn a heriol, ni fyddwn yn cydnabod yr NIS. Yn ymarferol, byddai hyn yn golygu y byddai safleoedd unigol y busnesau'n parhau i gael eu harolygu gan yr awdurdod lleol fel y maent ar hyn o bryd.

“Rydym yn ymwybodol y gall defnyddio NIS effeithio ar y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) ac rydym yn gweithio i sicrhau bod y cynllun dibynadwy a llwyddiannus hwn yn parhau i fod yn gadarn ac yn gredadwy. Mae gwaith ar y gweill i ystyried opsiynau posibl ac rydym yn comisiynu gwaith i gael gwybodaeth gan ddefnyddwyr a busnesau er mwyn llywio ein ffyrdd o feddwl. Rydym hefyd yn dilyn yr argymhellion yn yr adroddiad.”

Meddai Graham Russell, Prif Weithredwr y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch, sy'n goruchwylio'r cynllun Prif Awdurdod:

“Mae'r gwaith hwn yn chwarae rhan wych yn y cynllun Prif Awdurdod ac rwy'n falch bod yr ASB yn archwilio strategaethau arolygu cenedlaethol ar gyfer bwyd. Bydd y camau nesaf yn helpu i fireinio a phrofi'r safonau cadarn i sicrhau bod y strategaethau hyn o fudd i'r partner busnes bwyd ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd.”