Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Diweddariad – cyngor i berchnogion cathod yn dilyn cynnydd mewn achosion o pancytopenia cathod

Mae sypiau ychwanegol wedi cael eu hychwanegu at restr o gynhyrchion bwyd y mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Safonau Bwyd yr Alban ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn cynghori perchnogion cathod i beidio â’u bwydo i’w cathod.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 September 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 September 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae’r rhestr o gynhyrchion sydd wedi eu galw yn ôl wedi cael ei helaethu i gynnwys sypiau ychwanegol o gynhyrchion bwyd cathod penodol a allai fod yn gysylltiedig â pancytopenia cathod. Nid yw hyn oherwydd bod pryderon iechyd pellach wedi eu nodi; yn hytrach, mae’n weithred wirfoddol gan y gweithgynhyrchwr i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr ddeall pa gynhyrchion sydd wedi eu heffeithio. 

Ers mis Ebrill 2021, bu dros 130 o achosion o pancytopenia cathod, sef salwch sy’n gallu bod yn angheuol i gathod. 

Mae pancytopenia yn gyflwr prin iawn lle mae nifer y celloedd gwaed (coch, gwyn a phlatennau) yn gostwng yn gyflym, gan achosi salwch difrifol.

Meddai llefarydd ar ran y llywodraeth:

'Gan weithio gyda'r Coleg Milfeddygol Brenhinol, yr Asiantaeth Iechyd Planhigion Anifeiliaid (APHA) ac adrannau eraill y llywodraeth ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig (DU), awdurdodau lleol a'r gadwyn cyflenwi bwyd anifeiliaid anwes, rydym ni’n ymchwilio i gysylltiad posib rhwng cynhyrchion bwyd cathod penodol a pancytopenia cathod. Nid oes tystiolaeth bendant i gadarnhau cysylltiad ar hyn o bryd.

‘Nid oes unrhyw fwyd cathod anniogel wedi’i nodi, ond mae’r gweithgynhyrchwr a pherchnogion brand y cynhyrchion dan sylw, yn seiliedig ar yr ymchwiliadau hyd yn hyn, yn cymryd y camau rhagofalus o alw a thynnu’r cynhyrchion bwyd cathod sy’n gysylltiedig â’r cathod yr effeithiwyd arnynt yn ôl. 

‘Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod yr achos hwn o pancytopenia cathod yn peri unrhyw risg i iechyd pobl.’

Cyngor i berchnogion cathod

Mae pancytopenia yn glefyd difrifol, ond prin iawn fel arfer. Os yw eich cath yn sâl ac wedi cael ei bwydo ag unrhyw un o'r bwydydd a restrir yn yr hysbysiad galw cynnyrch yn ôl, dylech ofyn am gyngor ar unwaith gan eich milfeddyg.

Os yw bwyd arferol eich cath yn gynnyrch sydd wedi cael ei alw’n ôl, defnyddiwch frand bwyd cathod arall.

Os oedd eich cath yn cael ei bwydo â chynnyrch sydd wedi ei dynnu yn ôl, rydym yn eich cynghori i ddilyn y cyngor yn yr Hysbysiad Galw Cynnyrch yn Ôl, a thrafod gyda’ch milfeddyg pa fwyd amgen fyddai orau i’ch cath. Bydd hyn yn helpu i atal salwch yn eich cath o ganlyniad i beidio â chael ei bwydo â’r bwyd a restrir.

Cyngor i filfeddygon

Mae'r Coleg Milfeddygol Brenhinol wedi galw am wybodaeth i gasglu rhagor o wybodaeth am unrhyw achosion a nodwyd a ffynhonnell bosib y salwch hwn mewn cathod.

Mae rhagor o fanylion am y broses galw’n ôl a'r holl gynhyrchion yr effeithiwyd arnynt i’w gweld yn yr hysbysiad galw cynhyrchion yn ôl