Lansio ymgynghoriad ar ganllawiau oes silff ar gyfer cig eidion, cig oen a phorc oer wedi'u pecynnu dan wactod neu drwy addasu’r atmosffer
Mae'r broses chwe wythnos hon yn dilyn cytundeb ar y cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), y diwydiant a phartneriaid eraill, ac mae’n ymrwymo i ail-archwilio’r canllawiau presennol a’r oes silff 10 diwrnod.
Heddiw, mae’r ASB wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol chwe wythnos gyda rhanddeiliaid allweddol i lywio adolygiad o'r canllawiau ar ddiogelwch ac oes silff cig eidion, cig oen a phorc oer wedi'u pecynnu dan wactod (vacuum packed) neu drwy addasu’r atmosffer (modified atmoshpere).
Ar hyn o bryd, mae canllawiau'r ASB yn cynghori mai 10 diwrnod yw’r uchafswm ar gyfer oes silff cig eidion, cig oen a phorc oer sydd wedi bod yn destun VP neu MAP, oni bai bod mesurau rheoli addas ar waith i leihau risgiau cysylltiedig yn briodol.
Yr haf hwn, cytunodd yr ASB, y diwydiant a phartneriaid eraill ar ddatganiad ar y cyd yn ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i adolygu'r canllawiau presennol ac i ystyried newidiadau posibl.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ac i gymryd rhan, ewch i dudalen we ymgynghori’r ASB. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 11 Tachwedd 2020.