Nodyn i atgoffa’r cyhoedd am gyngor ar goginio cynhyrchion cyw iâr amrwd mewn briwsion bara sydd wedi'u rhewi wrth iddynt gael eu cysylltu ag achosion cynyddol o Salmonela
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ynghyd â Safonau Bwyd yr Alban (FSS), Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd Cyhoeddus yr Alban ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE) yn atgoffa pobl unwaith eto i gymryd gofal wrth drin a choginio cynhyrchion cyw iâr amrwd mewn briwsion bara sydd wedi'u rhewi, fel nygets, goujons, dippers, poppers a kievs.
Daw hyn wrth i ni gyhoeddi dau rybudd galw cynnyrch yn ôl arall ar gyfer cynhyrchion sy'n gysylltiedig â dau achos parhaus o Salmonela Enteritidis (math o wenwyn bwyd).
Mae ymchwiliad yn parhau i ddau fath penodol o Salmonela sy'n gysylltiedig â chynhyrchion cyw iâr amrwd mewn briwsion bara wedi'u rhewi. Rydym ni wedi gweld cynnydd mewn achosion o salmonellosis a achoswyd gan y mathau hyn o Salmonela trwy gydol 2020. Rhoddwyd mesurau rheoli ar waith, cyhoeddodd busnesau rybuddion galw bwyd yn ôl a chyhoeddodd yr ASB hysbysiadau ar y rhain. Fe wnaethom ni hefyd gyhoeddi cyngor i ddefnyddwyr ar drin y cynhyrchion hyn ym mis Hydref 2020. O ystyried oes silff hir y cynhyrchion hyn a'r ffaith ein bod ni’n parhau i gael adroddiadau o salwch sy'n cael ei achosi gan y straeniau Salmonela hyn, rydym ni’n atgoffa'r cyhoedd eto am bwysigrwydd coginio a thrin cynhyrchion cyw iâr mewn briwsion bara wedi'u rhewi yn ddiogel.
Meddai Dr Colin Sullivan, Prif Swyddog Gweithredu yr ASB:
'Ein cyngor ni yw cymryd gofal bob amser wrth storio, trin a choginio'r mathau hyn o gynhyrchion cyw iâr wedi'u rhewi er mwyn helpu i leihau'r risg o wenwyn bwyd i chi a'ch teulu.'
'Dylech chi bob amser wirio'r cyfarwyddiadau coginio ar ddeunydd pecynnu bwyd, gan fod gwahanol frandiau o'r un cynnyrch yn gallu bod â gwahanol gyfarwyddiadau. Wrth goginio bwyd ar y tymheredd cywir ac am yr amser cywir, bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw facteria niweidiol yn cael eu lladd.’
Meddai Saheer Gharbia, Pennaeth Uned Pathogenau Gastro-berfeddol Gwasanaeth Heintiau Cenedlaethol PHE:
'Mae achosion yn parhau i ddod i'r amlwg, er ar lefelau is na'r llynedd, yn dilyn y mesurau rheoli a gymerwyd hyd yma.
‘Yn gyffredinol, mae salmonela yn achosi salwch ysgafn, er y gall grwpiau agored i niwed fel plant o dan bum mlwydd oed, yr henoed, a'r rhai â systemau imiwnedd gwannach brofi salwch mwy difrifol a thriniaeth yn yr ysbyty. Mae symptomau Salmonela yn cynnwys dolur rhydd, crampiau stumog ac weithiau chwydu a gwres. Dylai unrhyw un sy'n poeni am symptomau gysylltu â'u meddyg teulu neu wasanaeth y tu allan i oriau yn y lle cyntaf.’
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Salmonela a gwenwyn bwyd ar wefan NHS Choices.
Gair i gall ar hylendid bwyd:
- Cofiwch ddarllen y cyngor ar ddeunydd pecynnu bwyd a dilyn y cyfarwyddiadau coginio bob tro.
- Os yw'r cyfarwyddiadau yn cynghori y dylai'r cynnyrch gael ei ddadmer cyn ei goginio, cofiwch eu dilyn
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwyta neu’n rhewi’r bwyd erbyn ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’
- Golchwch eich dwylo â sebon a dŵr ar ôl cyffwrdd â chynhyrchion cyw iâr amrwd a chyn i chi drin bwyd parod i'w fwyta
- Er mwyn osgoi croeshalogi, ewch ati i lanhau unrhyw arwyneb, plât neu ddarn o offer sydd wedi bod mewn cysylltiad â chig amrwd.
Mae Salmonela yn facteria cyffredin a all achosi gwenwyn bwyd. Mae Salmonela yn bresennol mewn cig amrwd (cig wedi'i brosesu a chig heb ei brosesu), dofednod (poultry) heb ei goginio'n ddigonol a llaeth heb ei basteureiddio. Gall coginio annigonol a chroeshalogi yn y gegin wrth baratoi bwyd arwain at Salmonellosis.
Mae'r rhybuddion galw’n ôl canlynol yn gysylltiedig â'r achos hwn o Salmonela:
- SFC yn galw cynhyrchion Cyw Iâr SFC yn ôl oherwydd presenoldeb Salmonela
- Vestey Foods yn galw Chick Inn 32 Jumbo Chicken Nuggets yn ôl oherwydd presenoldeb Salmonela
- Lidl GB yn galw Red Hen Breaded Chicken Nuggets a Red Hen Southern Fried Chicken Pops yn ôl oherwydd halogiad â salmonela
- Archfarchnad Aldi yn galw ‘Roosters Southern Fried Poppin’ Chicken’ a ‘Roosters Breaded Poppin' Chicken’ yn ôl oherwydd presenoldeb posibl salmonela
- Archfarchnad Iceland yn galw ‘Chip Shop Curry Chicken Breast Toppers’ a ‘Southern Fried Chicken Popsters’ yn ôl oherwydd presenoldeb salmonela
- Archfarchnad Aldi yn parhau i alw ‘Roosters Southern Fried Poppin’ Chicken’ a ‘Roosters Breaded Poppin' Chicken’ yn ôl oherwydd presenoldeb posibl salmonela
Rhagor o wybodaeth am salmonela a sut i osgoi haint salmonela
Ers mis Ionawr 2020, mae 480 o achosion o Salmonellosis wedi’u hachosi gan ddau fath o Salmonela Enteritidis ac yn gysylltiedig â bwyta cynhyrchion cyw iâr amrwd mewn briwsion bara sydd wedi’u rhewi.