Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Pwyllgor Agored Cynghori ar Fwyd Cymru – 21 Ebrill 2022

Penodol i Gymru

Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnal ei gyfarfod agored nesaf yng Nghaerdydd ddydd Iau 21 Ebrill 2022. Cyfarfod â thema benodol fydd hwn a fydd yn canolbwyntio ar ddiffyg diogeledd bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 April 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 April 2022

Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau gan Uned Gwyddor Gymdeithasol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd. 

Darllenwch fanylion yr agenda a’r papurau wedi’u cyhoeddi. 

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pynciau hyn, neu yng ngwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn gyffredinol, ddod i’r cyfarfod i fynegi barn ac i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb agored.

Lleoliad

Cynhelir y cyfarfod yn Swyddfa’r Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW

Bydd modd cofrestru a chael paned o 09:15 cyn bod y cyfarfod yn dechrau’n brydlon am 09:30.

Cadw lle

I gadw lle, neu i gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 029 2067 8999 neu anfon e-bost i: walesadminteam@food.gov.uk