Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cyhoeddi cyngor rhagofalus i ddefnyddwyr sydd wedi prynu swp (batch) penodol o wyau Llew Prydain a allai fod wedi'u halogi â salmonela.
Mae modd adnabod wyau yr effeithir arnynt yn ôl y cod swp a'r stamp gyda’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ ar y plisgyn wyau.
Mae'r wyau yr effeithir arnynt yn cael eu gwerthu mewn siopau a restrir isod yng Nghymru ac yn Lloegr yn unig, ac maent yn rhan o swp 1UK15270.
Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys y cynhyrchion gwreiddiol a nodwyd a chynhyrchion ychwanegol, a werthir mewn siopau manwerthu ychwanegol.
Manylion y cynnyrch
Sainsbury's (rhai siopau)
Cynnyrch | Maint y pecyn | Dyddiad ‘ar ei orau cyn’ |
---|---|---|
Wyau Maes (free range) Canolig gan Sainsbury’s | 6 |
27 Hydref 2020 |
Wyau Maes Mawr gan Sainsbury’s | 6 |
28 Hydref 2020 |
Wyau Maes Mawr Iawn gan Sainsbury’s | 6 |
27 Hydref 2020 |
Wyau Maes (free range) Canolig gan Sainsbury’s | 12 |
27 Hydref 2020 |
Wyau Maes Mawr gan Sainsbury’s | 12 |
27 Hydref 2020 |
Wyau Maes Maint Cymysg gan Sainsbury’s | 15 |
28 Hydref 2020 |
Wyau Sgubor ‘Basics’ Maint Cymysg gan Sainsbury's | 15 |
01 Tachwedd 2020 |
Wyau Maes Maint Cymysg J.James | 10 |
01 Tachwedd 2020 |
Wyau Maes Maint Cymysg gan Sainsbury’s | 6 |
12 Tachwedd 2020 |
Wyau Maes Canolig gan Sainsbury’s | 15 |
10 Tachwedd 2020 |
Wyau Mawr Organig SO | 6 |
27 Hydref 2020 |
Wyau Organig Canolig SO | 6 |
27 Hydref 2020 |
Wyau Organig Maint Cymysg SO | 12 |
27 Hydref 2020 |
Aldi (rhai siopau)
Cynnyrch | Maint y pecyn | Dyddiad ‘ar ei orau cyn’ |
---|---|---|
Wyau Maes Canolig ‘Merevale’ | 6 |
04 Tachwedd 2020 |
Wyau Maes Mawr ‘Merevale’ | 12 |
28 Hydref 2020 |
Wyau Maes Canolig ‘Merevale’ | 12 |
28 Hydref 2020 |
Wyau Maes Maint Cymysg ‘Merevale’ | 15 |
28 Hydref 2020 |
Wyau Maes Mawr ‘Merevale’ | 6 |
28 Hydref 2020 |
Wyau Maes Mawr Iawn ‘Merevale’ | 6 |
28 Hydref 2020 |
Wyau Maes Melynwy Aur Maint Cymysg wedi’u dewis yn arbennig | 6 |
27 Hydref 2020 |
Wyau Maes Maint Cymysg ‘British Blue’ wedi’u dewis yn arbennig | 6 |
27 Hydref 2020 |
Asda (rhai siopau)
Cynnyrch | Maint y pecyn | Dyddiad ‘ar ei orau cyn’ |
---|---|---|
Wyau Maes Mawr Asda | 12 |
28 Hydref 2020 |
Wyau Maes Canolig Asda | 12 |
29 Hydref 2020 |
Wyau Maes Maint Cymysg Asda | 15 |
04 Tachwedd 2020 |
Wyau Maes Mawr Asda | 6 |
28 Hydref 2020 |
Wyau Maes Canolig Asda | 6 |
15 Tachwedd 2020 |
Wyau Maes Maint Cymysg ‘Fairburn’s Lincolnshire’ | 15 |
01 Tachwedd 2020 |
Wyau Maes Melynwy Aur Maint Cymysg Arbennig Iawn | 6 | 04 Tachwedd 2020 |
Wyau Maes Mawr ‘Fairburn’s Lincolnshire’ | 12 |
27 Hydref 2020 |
Wyau Maes Mawr ‘Fairburn’s Lincolnshire’ | 6 |
27 Hydref 2020 |
Wyau Maes Maint Cymysg ‘British Blue’ Arbennig Iawn | 6 |
27 Hydref 2020 |
Costco (rhai siopau)
Cynnyrch | Maint y pecyn | Dyddiad ‘ar ei orau cyn’ |
---|---|---|
Wyau Maes Mawr ‘Fairburn’s’ | 24 |
08 Tachwedd 2020 |
Wyau Maes Canolig ‘Fairburn’s’ | 24 | 20 Tachwedd 2020 |
Wyau Maes Maint Cymysg ‘British Blue’ | 15 |
27 Hydref 2020 |
Morrisons (rhai siopau)
Cynnyrch | Maint y pecyn | Dyddiad ‘ar ei orau cyn’ |
---|---|---|
Wyau Maint Cymysg ‘W.M. Morrison Chippindale’ | 15 |
27 Hydref 2020 |
Wyau Rhydd Fairburn | Wedi'u gwerthu'n rhydd | 31 Hydref 2020 |
Risg i ddefnyddwyr
Efallai y bydd nifer fach iawn o'r wyau uchod wedi'u halogi â salmonela, oherwydd ei fod yn bresennol yn yr amgylchedd. Efallai y bydd wyneb y plisgyn wyau wedi'i halogi.
Mae'r symptomau a achosir gan salmonela fel arfer yn cynnwys twymyn, dolur rhydd a chrampiau yn yr abdomen.
Ein cyngor i ddefnyddwyr
Fel mesur rhagofalus, cynghorir defnyddwyr i goginio'r wyau a restrir yn y tabl uchod yn drylwyr, mae hyn yn golygu na ddylid bwyta'r melynwy na’r gwynwy yn feddal. Bydd hyn yn cael gwared ar salmonela ac yn osgoi risg o salwch.
Dylai defnyddwyr bob amser ddilyn arferion hylendid a thrin wyau da wrth drin wyau a deunydd pecynnu cysylltiedig, gan gynnwys:
- storio wyau yn yr oergell nes eu defnyddio
- defnyddio wyau erbyn y dyddiad ‘ar ei orau cyn’
- glanhau arwynebau ac offer cegin yn effeithiol ar ôl eu defnyddio, gan gynnwys yr oergell
- golchi dwylo'n drylwyr ar ôl trin wyau, gan gynnwys deunydd pecynnu a phlisgyn wyau
Dylai unrhyw un sy'n poeni am symptomau gysylltu â'u meddyg teulu neu wasanaeth y tu allan i oriau yn y lle cyntaf.
Dylai defnyddwyr sydd am ddychwelyd yr wyau sydd o bosibl wedi’u heffeithio gysylltu â'r siop lle prynwyd yr wyau i gael rhagor o wybodaeth.
Dim ond yr wyau a restrir uchod a werthir yn y siopau yn y tabl sy'n wedi’u heffeithio. Nid effeithir ar unrhyw wyau eraill a werthir gan y manwerthwyr hyn na'r wyau a werthir mewn siopau eraill. Nid oes angen newid eich arferion siopa am wyau na'ch arferion coginio arferol ar gyfer wyau nad ydynt wedi'u rhestru uchod.