Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Ymateb yr Asiantaeth Safonau Bwyd i argymhellion y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar ei hadroddiad: Sicrhau diogelwch a safonau bwyd

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi ei hymatebion i argymhellion y Swyddfa Archwilio Genedlaethol mewn perthynas ag adroddiad ar effeithiolrwydd y trefniadau rheoleiddiol cyfredol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 September 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 September 2021

Ym mis Mehefin 2019, cyhoeddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol adroddiad ar effeithiolrwydd y trefniadau rheoleiddiol cyfredol er mwyn sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Fel rhan o'r adroddiad hwn, cynigodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol nifer o argymhellion i’r ASB ac adrannau eraill y llywodraeth.

Derbyniodd yr ASB yr holl argymhellion ar y pryd, ac rydym ni bellach yn darparu diweddariad o’n cynnydd a’n hymatebion i’r argymhellion.

Meddai Emily Miles, Prif Weithredwr yr ASB:

“Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae’r pandemig ac ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE) wedi pwysleisio’r effaith y mae heriau anrhagweladwy yn ei chael ar ein system fwyd. Mae'r ASB yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu’r cyhoedd a sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Fe wnaethom ni dderbyn holl argymhellion adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ac rwy'n falch o'r cynnydd rydym wedi'i wneud wrth fynd i'r afael â’r pryderon. 

“Mae uchafbwyntiau ein hymateb i adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn cynnwys ein hymrwymiad i gyhoeddi, ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban, adroddiad blynyddol newydd ar safonau bwyd. Byddwn ni’n asesu cyflwr bwyd y genedl ac yn trafod a yw safonau bwyd yn cael eu cynnal yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, pa welliannau a gafwyd, a pha broblemau, os o gwbl, a allai godi.

“Roedd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol hefyd yn awyddus i weld ein bod wedi datblygu ffordd well o sicrhau bod awdurdodau lleol yn diogelu safonau bwyd ac rydym ni’n cyflwyno model cyflenwi safonau bwyd newydd i gyflawni hyn.

“Rydym ni hefyd yn parhau i siarad â gweinidogion i sicrhau pwerau ymchwilio ychwanegol i’n Huned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) er mwyn mynd i’r afael â’r bylchau mewn pwerau gorfodi a nodwyd gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Mae'r pwerau hyn yn hanfodol i’r Uned allu gweithredu gyda rhagor o ymreolaeth a lleihau’r gefnogaeth sydd ei hangen gan bartneriaid gorfodi’r gyfraith. 

“Ac yn olaf, mae’r ASB yn parhau i geisio ei gwneud hi'n orfodol i arddangos Sgoriau Hylendid Bwyd yn Lloegr, fel yr anogodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon lle’n mae’n orfodol arddangos sgôr hylendid bwyd, mae’r dystiolaeth yn dangos bod busnesau bwyd yn codi eu safonau pan fydd yn rhaid iddynt arddangos eu sgôr. Hoffem ni weld y budd hwn i ddefnyddwyr yn Lloegr hefyd.” 

Rydym ni wedi cyhoeddi ein hymatebion i argymhellion y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar ein gwefan.