Neidio i’r prif gynnwys

Ymchwil yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn awgrymu amcangyfrifon uwch newydd ar gyfer rôl bwyd mewn salwch yn y Deyrnas Unedig

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi adolygiad gwyddonol yn amcangyfrif bod tua 2.4 miliwn o achosion o salwch a gludir gan fwyd yn digwydd bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig (DU). Mae hyn yn gynnydd o’i gymharu ag amcangyfrifiad 2009, sef tua miliwn.

Mae'r ASB hefyd, ynghyd â chonsortiwm o wyddonwyr y DU, yn cyhoeddi astudiaeth pum mlynedd arloesol ar faint o norofeirws sydd mewn bwyd, a phapur arall sy'n adolygu ac yn diweddaru'r asesiad a ddatblygwyd yn ystod y prosiect hwnnw.

Nid yw'r ffigurau newydd hyn yn nodi cynnydd yng nghyfanswm y salwch, nac unrhyw risg newydd i iechyd y cyhoedd, ond yn hytrach maent yn darparu amcangyfrifiad gwell o gyfran y clefyd berfeddol heintus sy'n ganlyniad i fwyta bwyd. Mae'r amcangyfrifiad cyffredinol ar gyfer y math hwn o salwch, o bob ffynhonnell, yn aros yr un fath, sef tua 18 miliwn o achosion bob blwyddyn yn y DU.

Mae'r astudiaethau newydd hyn a'u modelau cysylltiedig yn datgelu’r canlynol:

  • amcangyfrifir bod 380,000 o achosion o norofeirws sy'n gysylltiedig â bwyd yn digwydd yn y DU bob blwyddyn
  • mae dadansoddiad o rolau'r prif lwybrau trosglwyddo mewn bwyd yn awgrymu bod bwyta allan yn gyfrifol am tua 37% o'r holl achosion norofeirws a gludir gan fwyd, 26% gan siopau tecawê, 30% gan letys pen agored ar werth mewn siopau, 4% gan fafon ar werth mewn siopau, a 3% gan wystrys ar werth mewn siopau
  • mae'r amcangyfrifiad newydd o norofeirws a gludir gan fwyd, ynghyd â dadansoddiad gwell o faint o afiechydon o achosion anhysbys sydd hefyd yn debygol o gael eu hachosi gan fwyd, yn awgrymu bod tua 2.4 miliwn o achosion amcangyfrifedig o salwch a gludir gan fwyd yn digwydd yn y DU bob blwyddyn.

Meddai’r Athro Guy Poppy, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB: 

‘Mae'r gwaith hwn yn rhoi syniad llawer gwell i ni o rôl bwyd wrth ledaenu holl glefydau berfeddol heintus yn y DU. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod mwy o bobl yn mynd yn sâl, dim ond ein bod yn amcangyfrif bod bwyd yn gyfrifol am fwy o achosion sy'n bodoli nag a ystyriwyd yn flaenorol. 

'Mae'r rhan fwyaf o'r cynnydd hwn yn ganlyniad i ymchwil newydd arloesol i norofeirws a gludir gan fwyd. Fel rhan o hyn, roedd yr arolygon samplu yn canolbwyntio ar y pum llwybr trosglwyddo mwyaf cyffredin sy'n gysylltiedig â bwyd. Er y gall y canrannau ymddangos yn drawiadol, mae'r risg i ddefnyddwyr yn parhau i fod yn isel iawn ar gyfer y rhan fwyaf o'r llwybrau hyn. Er enghraifft, ar gyfartaledd, dim ond un ym mhob 15,000 dogn o letys pen agored a fwyteir fyddai’n achosi norofeirws – mae hynny gwerth tua 40 mlynedd o fwyta i un person. Wystrys sy'n peri'r risg uchaf fesul dogn, gyda salwch yn debygol o ddigwydd, ar gyfartaledd, unwaith mewn tua 160 o ddognau. 

“Nid ydym ni’n newid ein cyngor i ddefnyddwyr a busnesau. Yn hytrach, mae'r ymchwil hon yn atgyfnerthu'r angen am y safonau uchaf o arferion hylendid bwyd a hylendid personol da mewn sefydliadau arlwyo ac yn y cartref er mwyn osgoi haint.'

Ychwanegodd yr Athro Sarah J. O'Brien, ymchwilydd arweiniol NoVAS:

'Mae amcangyfrif cyfraniad norofeirws i faich clefyd a gludir gan fwyd yn y DU wedi bod yn arbennig o anodd hyd yn hyn. Mae hyn yn bennaf oherwydd nad yw pobl yn mynd at y doctor pan fyddant yn sâl gyda symptomau byg chwydu'r gaeaf. Er bod peidio â mynd at y doctor yn ddefnyddiol wrth atal y feirws rhag lledaenu a lleihau’r straen ar sefydliadau gofal iechyd, mae'n golygu na ellir casglu gwybodaeth hanfodol am y feirws. Dyma pam mae datblygu’r asesiad risg cyntaf o'r math hwn ar gyfer y DU yn arbennig o arwyddocaol.’ 

Gall yr ASB nawr ddefnyddio'r ddealltwriaeth newydd a gwell hon o arwyddocâd clefydau a gludir gan fwyd i lywio ymdrechion yn y dyfodol i reoli a lleihau'r risg o haint i'r cyhoedd o fwyd gan bob pathogen.

Rhagor o wybodaeth am bwysigrwydd hylendid bwyd da i leihau'r risg o ledaenu norofeirws

Gall gweithredwyr busnesau bwyd ddod o hyd i ragor o ganllawiau ar hylendid personol wrth drin bwyd

Nodiadau i Olygyddion

Cyhoeddiadau

1. Lansiwyd yr Astudiaeth Priodoli Norofeirws (NoVAS) pum mlynedd: Asesu'r cyfraniad a wnaed gan y gadwyn fwyd at faich haint norofeirws yn y Deyrnas Unedig yn 2014 a chafodd ei hariannu gan yr ASB (£2.5m). Bwriad yr astudiaeth oedd gwella ein dealltwriaeth o gyfraniad bwyd o ran trosglwyddo norofeirws yn y DU, yn hytrach na throsglwyddo o berson i berson, a sut y gallai hynny effeithio ar gyfraddau salwch cyffredinol sy'n gysylltiedig â bwyd. Cynhaliodd tîm o ymchwilwyr o bob rhan o'r DU, dan arweiniad yr Athro Sarah O'Brien, gyfres o arolygon manwerthu ar wystrys, letys a mafon (a ddewiswyd yn seiliedig ar dystiolaeth bresennol a oedd yn eu nodi fel y risg fwyaf sylweddol), yn ogystal â samplau o fannau paratoi sefydliadau arlwyo a thecawê. Cyfunwyd y profion hyn â'r data presennol ar achosion i lywio model rhagfynegol newydd ar gyfer pa mor gyffredin yw norofeirws a gludir gan fwyd. 

2.    Yn unol ag argymhellion y llywodraeth ar sicrhau ansawdd modelau a ddefnyddir i lywio'r broses o wneud penderfyniadau, cynhaliwyd adolygiad mewnol gan yr ASB yn dilyn NoVAS – gan arwain at adroddiad technegol o'r enw, Adolygiad o Asesiad Risg Meintiol Diwygiedig o drosglwyddiad norofeirws o fwyd domestig a bwyd wedi’i arlwyo. Cadarnhaodd hyn fod strwythur y model yn addas at y diben, ac yn defnyddio'r data diweddaraf (a oedd ar gael ar ôl i'r gwaith modelu NoVAS gael ei gwblhau) i ail-redeg y model i gynhyrchu'r amcangyfrifon diwygiedig canlynol: 

  • Amcangyfrifwyd bod trosglwyddo norofeirws a gludir gan fwyd yn gyfrifol am tua 380,000 (ychydig dros 12%) o'r 3 miliwn o achosion norofeirws blynyddol y DU. Yr amcangyfrifiad blaenorol yn 2009 oedd 73,000 (2.5%). 
  • O'r pum llwybr neu ffynhonnell y nodwyd eu bod yn peri'r risg fwyaf sylweddol ar gyfer trosglwyddo norofeirws a gludir gan fwyd, yn seiliedig ar wybodaeth bresennol, datgelodd yr astudiaeth fod bwyta allan yn gyfrifol am 37% o achosion norofeirws a gludir gan fwyd, sefydliadau tecawê 26%, Wystrys ar werth 3% (y risg uchaf fesul dogn), Mafon ar werth 4%, a letys ar werth 30%.

3.    Mae'r papur Amcangyfrifon Clefydau a Gludir gan Fwyd ar gyfer y Deyrnas Unedig yn 2018 yn cynnwys y Model Amcangyfrifad Clefyd a Gludir gan Fwyd (y Model). Mae hwn yn fodel a ddatblygwyd gan ddadansoddwyr yr ASB i ddarparu amcangyfrifon blynyddol ar gyfer baich clefyd a gludir gan fwyd yn y DU. Mae'r model yn cynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer cyfanswm yr achosion o glefyd berfeddol heintus yn y DU yn ogystal â nifer yr achosion hynny sy'n ganlyniad i fwyta bwyd. Mae hefyd yn darparu amcangyfrifon unigol ar gyfer y prif bathogenau clefyd berfeddol heintus a chlefydau a achosir gan fwyd. Mae'r cynnydd yng nghyfran yr achosion norofeirws a gludir gan fwyd a amcangyfrifir gan NoVAS yn cael effaith sylweddol ar y darlun cyffredinol o glefyd a gludir gan fwyd, ac felly diweddarwyd y model gydag amcangyfrifon NoVAS er mwyn creu amcangyfrifon wedi'u diweddaru o faich clefyd a gludir gan fwyd yn y DU. 

Nodiadau eraill

  • Diffinnir clefyd berfeddol heintus fel clefyd sy'n cynhyrchu symptomau gastroberfeddol oherwydd elfennau heintus. Fe'i nodweddir yn aml gan ddolur rhydd acíwt/neu chwydu, a gall fod symptomau ychwanegol gan gynnwys twymyn a phoen yn yr abdomen. Mae'n cael ei achosi gan ystod eang o bathogenau neu'r tocsinau cysylltiedig, a gall haint ddod o fwyta bwyd wedi’i halogi. Mae'r afiechyd yn ysgafn ar y cyfan ac nid yw’n para’n hir.
     
  • O'r 18 miliwn o achosion o glefyd berfeddol heintus yn y DU bob blwyddyn, nid yw tua 60% (neu 11 miliwn) byth yn cael eu priodoli i achos penodol. Mae'r model yn gallu cymhwyso cyfran yr achosion o glefydau perfeddol heintus a gludir gan fwyd o ffynonellau hysbys (1 miliwn) i'r rhai heb achos. O ganlyniad, amcangyfrifir bod nifer yr achosion a gludir gan fwyd o ffynonellau heb eu dosbarthu oddeutu 1.4 miliwn y flwyddyn, gan fynd â ffigur cyffredinol y clefyd a gludir gan fwyd i oddeutu 2.4 miliwn. 
     
  • O ran llwybrau bwyd ar gyfer norofeirws, er y canfuwyd bod letys pen agored yn gyfrifol am 30% o achosion a gludir gan fwyd, pan gânt eu hystyried yn erbyn y nifer enfawr a fwyteir, mae'r risg yn parhau i fod yn isel, sy'n cyfateb i gyfartaledd o fynd yn sâl unwaith fesul 15,000 o brydau sy'n cynnwys letys pen agored a fwyteir. Yn y cyfamser, mae mafon yn cyfateb i haint norofeirws unwaith bob 12,500 dogn. Mewn cyferbyniad, canfuwyd bod wystrys yn cyfrif am 3% o'r cyfanswm ond yn achosi'r risg uchaf fesul dogn. Mae amcangyfrifon yn awgrymu cyfartaledd o fynd yn sâl unwaith ym mhob 160 dogn. Ar gyfartaledd byddai defnyddwyr siopau tecawê/bwyd arlwyo yn mynd yn sâl wrth fwyta un o bob 2,000 o brydau.

Cyngor i ddefnyddwyr a busnesau bwyd

  • Mae'n bwysig golchi'r holl ffrwythau a llysiau cyn eu bwyta. Mae cyngor ar sut i olchi, storio a thrin ffrwythau a llysiau ffres yn ddiogel i atal gwenwyn bwyd, ar gael ar dudalen ddewisiadau'r GIG. Nid oes angen i ddefnyddwyr ail-olchi saladau mewn bagiau parod i'w bwyta oni bai ei fod yn dweud hynny ar y pecyn.
  • Er mwyn helpu i atal norofeirws rhag lledaenu ymhellach, cynghorir defnyddwyr i ddilyn arferion hylendid da fel golchi dwylo â sebon a dŵr ar ôl defnyddio'r toiled a chyn paratoi neu fwyta bwyd. Mae hefyd yn bwysig atal croeshalogi wrth baratoi a storio bwyd trwy ei drin yn ofalus, golchi byrddau torri ac offer a glanhau arwynebau yn iawn. Gall defnyddwyr gael rhagor o wybodaeth am bwysigrwydd hylendid ac arferion bwyd da trwy ein negeseuon hanfodion hylendid bwyd
  • Dylai pobl fod yn ymwybodol o'r peryglon o fwyta wystrys amrwd. Rydym ni’n cynghori y dylai grwpiau sy’n agored i niwed, fel henoed, menywod beichiog, plant ifanc iawn a phobl sydd â system imiwnedd wan osgoi bwyta wystrys a physgod cregyn amrwd eraill sydd wedi'u coginio'n ysgafn er mwyn lleihau eu risg o gael gwenwyn bwyd.
  • Mewn amgylcheddau arlwyo a siopau tecawê, ystyrir mai prif ffynhonnell norofeirws yw croeshalogi sy'n gysylltiedig â hylendid gwael. Mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd hylendid personol da a hylendid bwyd da. Mae'r mesurau hyn a rhagor o wybodaeth wedi'u nodi yn ein cawnllawiau Bwyd Mwy Diogel Busnes Gwell.
  • Cynghorir defnyddwyr i wirio'r sgôr hylendid bwyd wrth ddewis tecawê neu pan fyddant yn dewis bwyta allan. 
  • Mae fideo yr ASB yn Esbonio Norofeirws ar gael ar ein gwefan, yn ogystal â gwybodaeth ac adnoddau sy'n ymwneud â phathogenau gwenwyn bwyd eraill, gan gynnwys campylobacter, E. coli, salmonela a listeria. 
  • Safonau Bwyd yr Alban yw corff bwyd y sector cyhoeddus yn yr Alban ac mae ganddo gyfrifoldeb datganoledig ar gyfer diogelwch a safonau bwyd yn yr Alban.