Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn penodi Prif Weithredwr newydd
Emily Miles fydd Prif Swyddog Gweithredol newydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Heddiw, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi bod Emily Miles wedi’i phenodi yn Brif Weithredwr newydd.
Ar hyn o bryd, mae Emily yn Gyfarwyddwr Cyffredinol dros dro y Grŵp Cyflenwi Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a bydd yn ymuno â'r ASB ym mis Medi 2019.
Mae Emily wedi bod yn gweithio i’r gwasanaeth sifil am bron i ugain mlynedd. Ymunodd â Defra ym mis Tachwedd 2015 fel Cyfarwyddwr Strategaeth y Grŵp Cyflenwi a chydlynu gwaith ar oblygiadau domestig ymadael â’r UE i Defra yn dilyn y refferendwm yn 2016.
Meddai Heather Hancock, Cadeirydd yr ASB:
'Mae gan Emily hanes trawiadol o ddatblygu strategaeth a chanlyniadau rhagorol ar draws y llywodraeth, yn Defra, Swyddfa'r Cabinet a'r Swyddfa Gartref. Mae hi'n ymuno â ni ar adeg allweddol ym maes rheoleiddio bwyd, wrth i ni weithredu ein trefn reoleiddio newydd y tu allan i'r UE, rheoli effeithiau tymor byr ymadael â’r UE, a pharhau i roi ein cynlluniau moderneiddio ar waith. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd gweledigaeth ac arweinyddiaeth strategol Emily yn hynod effeithiol yn yr ASB ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda hi.'
Meddai Emily Miles:
'Rwyf wrth fy modd fy modd yn ymuno â'r ASB ac rwy’n edrych ymlaen at arwain yr Asiantaeth wrth iddi wynebu heriau pan fydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r UE, yn ogystal â chyflenwi ei rhaglen drawsnewid uchelgeisiol.
'Fel sefydliad sy'n denu lefelau uchel o ymddiriedaeth gyhoeddus, mae'n anrhydedd i mi ymgymryd â rôl prif weithredwr yr ASB a chwarae fy rhan wrth yrru ei chenhadaeth o ddiogelu defnyddwyr drwy sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.
'Rwy'n edrych ymlaen at ddod i adnabod y tîm talentog yno yn ogystal â gweithio gyda chydweithwyr ar draws llywodraeth genedlaethol a lleol, ac yn y diwydiant i ddarparu bwyd diogel i ddefnyddwyr wrth i ni wynebu heriau newydd a chyfleoedd newydd.'
Bydd Cyfarwyddwr y Strategaeth Reoleiddio a Chyfreithiol, Rod Ainsworth, yn parhau fel Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro hyd nes y bydd Emily yn ymuno â'r ASB ym mis Medi.
Gellir darllen bywgraffiad llawn Emily Miles ar gov.uk.