Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg
Newyddion

Yr Wythnos Diogelwch Bwyd genedlaethol yn tynnu sylw at y "bobl sy'n diogelu dy blât”

Heddiw mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn lansio'r Wythnos Diogelwch Bwyd Genedlaethol, gyda'r ffocws eleni ar waith staff yr ASB a miloedd o bobl eraill ar draws y gadwyn cyflenwi bwyd sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 October 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 October 2022

Dan faner "y bobl sy'n diogelu dy blât", bydd yr Wythnos Diogelwch Bwyd yn hoelio'r sylw ar y bobl sy'n gweithio bob dydd i sicrhau bod defnyddwyr yn gallu ymddiried yn y bwyd ar eu platiau. 

Mae'r ystod eang o bobl yn cynnwys staff mewn lladd-dai, ac arolygwyr sy'n ymweld â gwinllannoedd, warysau, ffatrioedd torri a llaethfeydd. Bydd yr wythnos hefyd yn cynnwys staff sy'n mynd i'r afael â throseddau bwyd a'r rheiny sy'n helpu i gadw pobl sy'n byw gydag alergeddau ac anoddefiadau bwyd yn ddiogel.

Mae llawer o'r gwaith hwn yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, sy'n gyfrifol am wirio diogelwch a hylendid bwyd mewn mwy na 600,000 o fusnesau bwyd ledled y wlad fel bwytai ac arlwywyr, gan roi sgoriau hylendid o dan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Mae awdurdodau lleol hefyd yn helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd trwy eu gwasanaethau safonau masnach a gwaith iechyd mewn porthladdoedd. 

Meddai Jason Feeney, Prif Swyddog Gweithredol yr Asiantaeth Safonau Bwyd:

‘Mae gan y Deyrnas Unedig safonau bwyd a gaiff eu parchu yn fyd-eang, ac mae ein bwyd a diod yn cael ei ystyried ymhlith y cynnyrch mwyaf diogel yn y byd. Mae mwy nag un biliwn o gynhyrchion bwyd yn cael eu gwerthu bob wythnos.  

Cyfrifoldeb pob busnes bwyd – o ladd-dai i siopau cornel, ac o fwytai safon Michelin i'ch hoff decawê – yw cydymffurfio â rheoliadau bwyd.  Yr wythnos hon, rydym ni am gydnabod pobl y tu ôl i'r llenni ym mhob rhan o'r gadwyn fwyd sy'n gweithio'n galed drwy gydol y flwyddyn i sicrhau bod busnesau yn dilyn y rheolau, a bod ein safonau bwyd yn parhau i fod yn uchel.” 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy www.food.gov.uk/diogeludyblat