Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Datganiad ar y cyd gan y Gweithgor ar Ganllawiau Clostridium botulinum

Datganiad ar y cyd gan y Gweithgor ar Ganllawiau Clostrdium botulinium i weithio gyda'i gilydd a darparu adnoddau er mwyn sicrhau canlyniadau y cytunwyd arnynt

Mae aelodau'r Gweithgor ar ganllawiau Clostridium botulinum wedi cytuno i weithio gyda'i gilydd: 

  • er mwyn deall a blaenoriaethu'r materion sy'n ymwneud â'r oes silff 10 diwrnod gyfredol a argymhellir ar gyfer cig eidion, cig oen a phorc ffres oer sydd wedi’u pecynnu dan wactod (VP) neu drwy addasu’r atmosffer (MAP). (Pwynt ymgynghori A)
  • i nodi dewisiadau i ddatrys materion a nodir.
  • i anelu at ddatrys materion sydd â blaenoriaeth.

Mae'r Gweithgor yn cydnabod bod yn rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban gynnal eu hymrwymiad i gael eu harwain gan wyddoniaeth a thystiolaeth yn ystod yr adolygiad o'r canllawiau.

Mae aelodau'r Gweithgor yn cytuno i weithio gyda'i gilydd ac i ddarparu adnoddau gyda'r nod o gyflawni'r canlyniadau canlynol:

1. Sefydlu'r cynllun gwaith i'w gyflawni a pherchnogaeth dros weithgareddau perthnasol.

2. Cynnal adolygiad o'r safonau rhyngwladol a safonau cenedlaethol trydydd gwledydd ar gyfer oes silff cig eidion, cig oen a phorc ffres oer sydd wedi bod yn destun VP neu MAP, gan gynnwys:

  • Manylion y safonau, y ddeddfwriaeth a'r canllawiau a ddefnyddir gan wledydd eraill ar oes silff cig eidion, cig oen a phorc ffres oer sydd wedi bod yn destun VP neu MAP.
  • Manylion sut mae gwledydd eraill yn ystyried risg C. botulinum a'r angen am fesurau rheoli i fynd i'r afael â'r risg honno.

3. Sefydlu perchnogaeth dros ganllawiau priodol i gynorthwyo gyda chymhwyso oes silff sydd wedi'i dilysu'n briodol (hynny yw, dyddiadau defnyddio erbyn) ar gyfer cig eidion, cig oen a phorc ffres oer wedi'u pecynnu dan wactod neu drwy addasu’r atmosffer perthynas â C. botulinum, a darparu’r rhain.

4. Nodi a darparu tystiolaeth i lywio'r broses o gomisiynu adolygiad argymelledig ACMSF o'i adroddiad o 1992 ar Becynnu dan Wactod a Phrosesau Cysylltiedig (Saesneg yn unig), ac yn benodol y risg a berir gan C. botulinum.

5. Nodi tystiolaeth i gefnogi cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r 'canllawiau ar ddiogelwch ac oes silff bwyd wedi'i oeri sydd wedi’i becynnu dan wactod neu drwy addasu’r atmosffer mewn perthynas â Clostridium botulinum nad yw'n broteolytig' yn dilyn adolygiad a argymhellir gan yr ACMSF o’i adroddiad o 1992.

Sefydliadau a gynrychiolir ar y Gweithgor

Asiantaeth Safonau Bwyd

Safonau Bwyd yr Alban

Consortiwm Manwerthu Prydain (BRC)

Cymdeithas Allforio Cig Gogledd Iwerddon (NMEA)

Cymdeithas Bwyd wedi’i Oeri (CFA)

Cymdeithas Cyfanwerthwyr Cig yr Alban (SAMW)

Cymdeithas Proseswyr Cig Prydain (BMPA)

Ffederasiwn Masnach Darpariaethau (PTF)

Fforwm Porc a Chig Moch Gogledd Iwerddon