Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Archwilio sefydliadau cig

Sut rydym yn archwilio eich sefydliadau cig a’r hyn sydd angen i chi ei wybod fel perchennog busnes bwyd.

Y broses archwilio

Mae ein harchwiliadau’n canolbwyntio ar ba mor effeithiol yw systemau rheoli diogelwch bwyd gweithredwyr busnesau bwyd yn ystod y cyfnod archwilio.

Mae’r archwiliad yn cynnwys:

  • y mesurau rheoli sydd ar waith i leihau’r posibilrwydd bod clefydau anifeiliaid yn cael eu lledaenu
  • mesurau diogelu lles anifeiliaid
  • mesurau rheoli sy’n sicrhau cynhyrchu hylan
  • hylendid amgylcheddol ac arferion hylendid da
  • effeithiolrwydd y systemau diogelwch bwyd yn seiliedig ar egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP)
  • sut caiff sgil-gynhyrchion anifeiliaid a gwastraff eu trin
  • pa mor effeithiol yw mesurau rheoli a gwaredu deunydd risg penodedig o wartheg, defaid a geifr

Nid oes angen cwblhau pob adran ar gyfer pob sefydliad. Bydd hyn yn dibynnu ar y math o sefydliad a’r gweithgarwch a gyflawnir.

Sgorio archwiliadau

Mae ein harchwiliadau’n seiliedig ar risg. Caiff pob adran o’r rhestr wirio ar gyfer archwiliadau ei hasesu’n llawn yn ystod y broses archwilio. Mae sgorio’r cwestiynau archwilio yn seiliedig ar dystiolaeth wrthrychol.

Cydymffurfio

Asesir bod cwestiwn archwilio yn cydymffurfio os yw’n:

  • cyd-fynd â system rheoli diogelwch bwyd gweithredwr y busnes bwyd
  • bodloni gofynion y rheoliadau

Yn achos lladd-dai, mae angen iddynt fodloni gofynion cyfreithiau lles ac anifeiliaid hefyd.

Mân achosion o ddiffyg cydymffurfio

Mae mân achosion o ddiffyg cydymffurfio yn sefyllfaoedd risg isel, nad ydynt yn atal sefydliad rhag cynnal mesurau rheoli eu rhaglenni diogelwch bwyd a iechyd a lles anifeiliaid.

Pan fo nifer o fân achosion o ddiffyg cydymffurfio, gall ddod yn achos sylweddol o ddiffyg cydymffurfio.

Diffyg cydymffurfio sylweddol

Os na chymerir camau i fynd i’r afael ag achosion o ddiffyg cydymffurfio, gallant ddod yn achosion sylweddol o ddiffyg cydymffurfio. Mae hyn yn digwydd pan fo diffyg cydymffurfiaeth yn peryglu:

  • iechyd y cyhoedd
  • iechyd a lles anifeiliaid
  • diogelwch neu addasrwydd wrth gynhyrchu neu drin bwyd

Pan fo nifer o achosion sylweddol o ddiffyg cydymffurfio, gall ddod yn achos difrifol o ddiffyg cydymffurfio.

Diffyg cydymffurfio difrifol

Achosion nad ydynt yn cydymffurfio, lle asesir bod perygl difrifol i iechyd y cyhoedd, iechyd anifeiliaid neu les anifeiliaid.

 

Canlyniadau archwilio a sgoriau cydymffurfio


Mae pedair sgôr gydymffurfio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Sgoriau cydymffurfio

Da – ni nodwyd unrhyw faterion o bwys i iechyd y cyhoedd, iechyd anifeiliaid na lles anifeiliaid yn ystod y cyfnod archwilio cyfan.

Boddhaol ar y cyfan – ni nodwyd unrhyw broblemau uniongyrchol arwyddocaol i iechyd y cyhoedd, iechyd neu les anifeiliaid ar ddiwrnod yr archwiliad. Mae unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd yn ystod y cyfnod archwilio wedi’u cywiro’n syth.

Angen gwella – nodwyd achosion sylweddol o ddiffyg cydymffurfio yn yr archwiliad a/neu ni wnaethant ymateb a chywiro’r achosion o ddiffyg cydymffurfio yn ystod y cyfnod archwilio yn syth bob tro.

Angen gwella ar frys – nodwyd nifer o achosion sylweddol neu ddifrifol o ddiffyg cydymffurfio yn ystod yr ymweliad archwilio neu’r cyfnod archwilio interim. Mae angen ymyriad swyddogol i sicrhau mesurau diogelu iechyd y cyhoedd.

Pryd caiff archwiliadau eu cynnal

Wrth bennu pa mor aml rydym yn archwilio busnes, rydym yn edrych ar y sgôr gydymffurfio gyffredinol. Rydym yn archwilio lladd-dai a ffatrïoedd torri bob dau, tri, 12 neu 18 mis, yn dibynnu ar y peryglon posib a nodwyd yn yr archwiliad llawn diwethaf. Caiff archwiliadau llawn ac archwiliadau dilynol eu cynnal yn ddi-rybudd.

Mewn ffatrïoedd torri, mae arolygiadau dirybudd yn digwydd rhwng arolygiadau a raglennir.

Ymestyn amlderau archwilio

Mae’r system hon yn cydnabod sefydliadau sy’n cydymffurfio’n dda, er enghraifft, safleoedd sydd wedi cael dau ganlyniad da yn olynol.

Bydd lladd-dai sy’n cydymffurfio’n dda yn cael eu harchwilio bob tair blynedd, a ffatrïoedd torri sy’n cydymffurfio’n dda bob dwy flynedd.

Cyhoeddi adroddiadau archwilio

Rydym yn cyhoeddi’r sgoriau archwilio diweddaraf ar gyfer sefydliadau cig cymeradwy yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon. Caiff yr archwiliadau hyn eu diweddaru’n fisol. Gan fod gweithredwyr busnesau bwyd yn gallu apelio canlyniad yr archwiliad, ni fydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan ddiwedd y broses apelio.

England, Northern Ireland and Wales

Dolen i setiau data archwilio sydd wedi’u cyhoeddi

Apelio Canlyniad Archwilio

Rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sy’n dymuno gwneud cais am adolygiad o’r adroddiad archwilio diweddaraf lenwi’r ffurflen apelio yn erbyn archwiliad a’i hanfon i approvals@food.gov.uk cyn pen 14 diwrnod calendr i gael yr adroddiad archwilio cychwynnol.

Protocol Ymyrryd

Mae’r ddogfen protocol ymyrryd yn rhoi gwybodaeth am y camau a gymerir os na fydd gweithredwr busnes bwyd yn rhoi mesurau ar waith i wella lefelau cydymffurfio. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol.

Protocol ymyrryd ar gyfer sefydliadau cig a gymeradwyir gan yr ASB (o Bennod 7 y Llawlyfr rheolaethau swyddogol) (Saesneg yn unig).

Mae gennym dempledi i chi eu defnyddio wrth ddogfennu’r mesurau hyn. 

England, Northern Ireland and Wales

England, Northern Ireland and Wales

Yr Alban

Yn yr Alban, caiff yr archwiliadau hyn eu cynnal gan Safonau Bwyd yr Alban.

Resources

England, Northern Ireland and Wales