Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Awdurdodi cyfleuster lladd anifeiliaid ar y fferm

Sut i wneud cais am awdurdodiad i ladd anifeiliaid hela a dofednod sy’n cael eu ffermio ar y fferm

Mae’r wybodaeth ganlynol yn amlinellu’r gofynion ar gyfer awdurdodi cyfleuster lladd anifeiliaid ar y fferm ar gyfer:

  • anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio (gan gynnwys ceirw, buail, baeddod gwyllt sy’n cael eu ffermio, ratidau (estrysiaid, emiwiaid a rheaod) sy’n cael eu ffermio)
    dofednod sy’n cael eu magu ar gyfer cynhyrchu foie gras (gwyddau a hwyaid)
    dofednod sy’n destun ddiberfeddu gohiriedig.

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn ymwneud â lladd anifeiliaid ar y fferm, ac nid achosion o ladd brys y tu allan i ladd-dai mewn perthynas â charnolion domestig. Gall milfeddyg preifat gynnal yr archwiliad ante mortem mewn achosion o ladd brys.  Nid yw lladd brys yn cynnwys gwartheg afreolus.

Lladd anifeiliaid hela a dofednod ar y fferm  

Rhaid bodloni nifer o ofynion cyn bod anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio, dofednod sy’n cael eu magu ar gyfer cynhyrchu foie gras a dofednod sy'n destun diberfeddu gohiriedig yn gallu cael eu lladd ar y fferm darddiad. 

Rhaid i weithredwyr busnesau wneud y canlynol:

  • cael awdurdodiad ar gyfer cyfleuster ar y fferm,
    bodloni gofynion lles anifeiliaid,
    sicrhau bod milfeddyg a benodwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnal archwiliad ante mortem, 
    cael rhywun sydd â thrwydded Lles Anifeiliaid ar Adeg y Lladd (WATOK) i ladd a gwaedu’r anifeiliaid

Awdurdodi cyfleuster ar y fferm

Rhaid i filfeddygon gynnal rheolaethau swyddogol mewn cyfleusterau lladd anifeiliaid ar y fferm, a rhaid i'r cyfleusterau hyn gael eu hawdurdodi gan yr ASB cyn y gellir lladd unrhyw anifeiliaid.

O dan y ddeddfwriaeth hylendid bwyd a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2006, mae angen i gyfleuster lladd anifeiliaid ar y fferm gael ei awdurdodi gan yr awdurdod cymwys, o dan Reoliad (CE) Rhif 852/2004 a Rheoliad (CE) Rhif 853/2004.

Er mwyn sicrhau bod eich sefydliad yn addas i'w awdurdodi, mae angen ystyried sawl darn o ddeddfwriaeth.

Mae Rheoliad (CE) Rhif 852/2004 yn ymdrin â'r gofynion hylendid bwyd cyffredinol sy'n gymwys i unrhyw sefydliad sy’n cynhyrchu bwyd. Mae Rheoliad (CE) Rhif 853/2004 yn pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid. Disgrifir yr elfennau penodol sy'n berthnasol i awdurdodi cyfleuster lladd anifeiliaid ar y fferm a'u gofynion o dan Reoliad (CE) Rhif 853/2004, Atodiad III, Adran II, Pennod VI a Rheoliad (CE) Rhif 853/2004, Atodiad III, Adran III.

Os oes angen awdurdodiad arnoch ar gyfer cyfleuster lladd anifeiliaid ar y fferm, cysylltwch â’r tîm cymeradwyo ar approvals@food.gov.uk

Gofynion ar gyfer anifeiliaid

Rhaid i anifeiliaid y gellir ystyried awdurdodi eu lladd ar y fferm fod wedi’u bridio a’u magu ar y fferm/ystâd ac mae’r awdurdodiad ond yn berthnasol i’r rhywogaethau canlynol: ceirw, buail, baeddod gwyllt sy’n cael eu ffermio, ratidau sy’n cael eu ffermio, dofednod wedi’u magu ar gyfer cynhyrchu foie gras (gwyddau a hwyaid) a dofednod sy’n destun diberfeddu gohiriedig.

Rhaid i anifeiliaid y bwriedir eu lladd ar y fferm gael archwiliad milfeddygol ante mortem cyn cael eu lladd a rhaid eu hanfon fel llwyth ar ôl eu lladd, gyda’r dystysgrif briodol, i ladd-dy neu sefydliad trin anifeiliaid hela a gymeradwywyd yn addas, i’w trin ar gyfer archwiliad post mortem.

Rhaid i Filfeddyg Swyddogol a benodwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) o dan Reoliad 625/2019, gynnal rheolaethau swyddogol i wirio cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau hylendid, iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid yn y sefydliad hwn. Fel gweithredwr y busnes bwyd, chi sy’n gyfrifol am gydymffurfio â’r Rheoliadau Hylendid. Mae hyn yn cynnwys hysbysu’r Milfeddyg Swyddogol ymlaen llaw am ddyddiad ac amser lladd anifeiliaid, fel y gall fod yn bresennol er mwyn cyflawni ei swyddogaethau, gan gynnwys cynnal gwiriadau ante mortem.

Penodi milfeddygon

Ni chodir tâl ar weithredwyr busnesau bwyd am benodi milfeddygon nac awdurdodi ar y fferm  Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am benodi milfeddyg swyddogol, cysylltwch â Thîm Cymeradwyo a Chofrestru’r ASB yn Approvals@food.gov.uk

Tystysgrif Cymhwysedd i ladd anifeiliaid 

Mae'n ofyniad cyfreithiol i unrhyw berson sy'n ladd anifeiliaid i'w bwyta gan bobl mewn cyfleuster lladd anifeiliaid awdurdodedig ar y fferm feddu ar Dystysgrif Cymhwysedd.

I gael rhagor o wybodaeth a sut i wneud cais am Dystysgrif Cymhwysedd ewch i dudalen GOV.UK

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am Dystysgrifau Cymhwysedd, cysylltwch â Thîm WATOK yn WATOK@food.gov.uk

Manylion cyswllt

Cymru a Lloegr - Approvals@food.gov.uk