Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Datganiad hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth 'Cofrestru Busnesau Bwyd'

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r gwasanaeth Cofrestru Busnesau Bwyd.

Mae'r gwasanaeth Cofrestru Busnesau Bwyd yn cael ei gynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Rydym ni’n awyddus i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:

  • chwyddo’r sgrîn hyd at 300% heb i'r testun ddisgyn oddi ar y sgrîn
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd (keyboard) yn unig
  • llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (screen reader) (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i'w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Rydym ni’n gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch. Gallwch chi weld rhestr lawn o unrhyw broblemau yn adran ‘Cynnwys nad yw'n hygyrch’ y datganiad hwn.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille:  

Byddwn ni'n ystyried eich cais ac yn ymateb cyn pen 10 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydyn ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:

Darllenwch ragor am sut i gysylltu â sefydliadau am wefannau anhygyrch.

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Ddyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â’r ffordd rydym ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) 

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym ni wedi ymateb i'ch cwyn, gallwch chi gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 ( y 'rheoliadau hygyrchedd') yng Ngogledd Iwerddon.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae'r ASB wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y rhannau nad ydynt yn cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.

Ddim yn cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Mae’r cynnwys nad yw'n hygyrch wedi’i amlinellu isod ynghyd â’r dyddiadau targed ar gyfer trwsio’r problemau hyn.

Dolenni

  • Nid yw rhai dolenni yn egluro eu pwrpas yn glir nac yn nodi pan fyddant yn agor mewn ffenestr newydd. Gallai hyn fod yn ddryslyd i ddefnyddwyr rhaglenni darllen sgrin. Rydym yn gweithio i roi cyd-destun am y cysylltiadau hyn a'u gwneud yn gliriach. (Maen prawf llwyddiant WCAG 2.1– 2.4.4 Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun))

Penawdau a strwythur tudalennau

  • Nid yw rhai penawdau yn ddisgrifiadol, ac nid ydynt yn egluro’n glir beth yw pwrpas y dudalen. Anogir defnyddwyr i ddarllen cynnwys y dudalen am fanylion llawn. (WCAG 2.1 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthynas, 2.4.6 Penawdau a Labeli)
  • Nid yw’r tabl crynhoi manylion defnyddwyr wedi’i guddio’n gywir wrth ddefnyddio’r modd cyferbyniad uchel. (WCAG 2.1 1.4.8 Cyflwyniad gweledol). 

Elfennau ffurf

  • Nid yw rhai meysydd ffurf wedi'u grwpio'n briodol, mae angen labeli maes a disgrifiadau grŵp cliriach arnynt. Er bod labeli ar gael, nid ydyn nhw’n ddigon clir i ddisgrifio'r cynnwys. Ni ddylai hyn effeithio ar allu defnyddiwr i lenwi'r ffurflen. (Maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 – 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthynas, maen prawf llwyddiant 2.4.6 Penawdau a Labeli)
  • Mae angen mwy o gyd-destun ar rai meysydd ffurf er mwyn sicrhau bod defnyddwyr yn gallu nodi pwrpas y maes golygu. (WCAG 2.1 1.3.1 Penawdau a Labeli)

Testun cymorth

  • Mae rhywfaint o destun cymorth yn ymddangos ar dudalennau nad oes angen yr wybodaeth honno arnynt. Gallai hyn fod yn ddryslyd i ddefnyddwyr. Anogir i ddefnyddiwr anwybyddu'r testun cymorth os nad yw'n ymddangos o fewn y cyd-destun cywir. (WCAG 2.1 1.3.1, Gwybodaeth a Pherthynas, 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau)

Llywio

  • Nid yw dangosyddion ffocws gweledol yn bodloni'r gymhareb cyferbyniad lliw gofynnol. Rydym ni'n gweithio i drwsio hyn mor gyflym â phosib.(WCAG 2.1 – 1.4.11 Cyferbyniad nad yw’n destun)
  • Mae gan rai meysydd ddewisiadau cwymplen (drop down) na ellir eu cyrchu wrth ddefnyddio'r gwasanaeth gyda dewisiadau aildrefnu testun. Gallai hyn rwystro gallu defnyddiwr i lenwi'r ffurflen, rhowch gynnig ar ddyfais wahanol os yw aildrefnu testun yn achosi problem. (Maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 – 1.4.10 Aildrefnu testun)

 

Baich anghymesur

Nid ydym ni wedi gwneud unrhyw honiadau am faich anghymesur.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Ar yr adeg hon, nid ydym ni wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn


Paratowyd y datganiad hwn ar 11 Medi 2020. Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 14 Gorffennaf 2021.

Profwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf ar 22 Ebrill 2021. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC). Byddwn ni'n diweddaru'r datganiad cyn gynted ag y bydd y materion wedi'u trwsio.